Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Llien Gwyn
Maureen George yn derbyn copi cyntaf o law'r llywydd, Hefin Wyn Dathlu 60 mlynedd o Steddfod
Mehefin 2005
Dathlodd Eisteddfod Maenclochog ei phen blwydd yn 60 oed ar Å´yl y Banc ym mis Mai eleni.

Braint oedd cael gwahoddiad i gyfarfod lansio llyfr 'Hanes Eisteddfod Maenclochog' gan Y Prifardd Eirwyn George yn Neuadd yr Eglwys ar Nos Wener, Ebrill 15, 2005. Yn anffodus roedd Eirwyn yn methu bod yn bresennol oherwydd salwch a chyflwynwyd y copi cyntaf o'i lyfr i'w briod, Maureen, gan y llywydd, Hefin Wyn.

Mae'r llyfr yn croniclo hanes yr Eisteddfodau a gynhaliwyd ym Maenclochog yn ystod y trigain mlynedd gan roi enghreifftiau diddorol a doniol o'r gwahanol gystadlaethau, yn enwedig y rhai llenyddol.

Ceir hanes eisteddfodau bach y capeli lleol cyn bod llawer o bobl yn berchen car. Fel arfer cynhelid eisteddfodau, ar y cyd, ar noson y Gymanfa Bwnc.

Mae digon o luniau yn y llyfr, y rhan fwyaf o enillwyr cystadlaethau a'r Gadair ! Mae'r plant yn amlwg gyda'u tariannau a'u cwpanau a cheir erthyglau gan nifer o fuddugwyr Eisteddfod Tafarn Sinc hefyd ynghyd â detholiadau o gynhyrchion buddugol eisteddfodau'r cylch.

Mae'r llun ar y clawr yn drawiadol - tri o wÅ·r amlwg yr Eisteddfod sef Eifion Evans, Blaensawd a Wyn Owens yn cael ei gadeirio gan y Prifardd ei hun, Eirwyn George ac ar y cefn, y cwpled
"Lluniwch gerdd a seiniwch gân
Er budd yr henfro gyfan."

Mae'n lyfr i'w drysori.

N.E.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý