Cafodd pedair ysgol o'r gorllewin, sef Ysgol Arberth, Ysgol Beca, Ysgol Bro Brynach ac Ysgol Spittal yn ogystal â thair ysgol o'r dwyrain wahoddiad i fod yn rhan o'r côr o 260. Dros dri mis bu disgyblion Blynyddoedd 4, 5, a 6 yn cymeryd rhan mewn gweithdai cerddoriaeth a oedd yn canolbwyntio ar ganu ac yn y gweithdai yma daeth y cyfle cyffrous i berfformio yn y digwyddiad mawreddog hwn.
Cyflwynydd y gyngerdd oedd Jamie Owen. Hefyd yn cymeryd rhan oedd wynebau cyfarwydd megis Sara Edwards, Iolo ap Dafydd a Debra Griffiths (Coalhouse.)
Cafodd ei ddarlledu ar Â鶹Éç Radio Wales Noswyl Nadolig ac eto Ddydd Nadolig.
|