Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Llien Gwyn
Tanjyrîns Y Waw Ffactor!
Rhagfyr 2004
Tro Beti-Wyn James, Caerfyrddin, un o ferched Y Cardi Bach yw hi i ddweud ei dweud yn y golofn fisol.
Tanjyrîns. Ie, tanjyrîns - dyna'r eitemau, ymhlith pethau eraill, a fyddai'n ymddangos yn fy hosan bob bore Nadolig yn blentyn. Gallai eu gweld yn awr, â chroen oren y ffrwyth yn sgleinio yng ngolau'r tân wrth iddynt rolio allan mewn ras yn erbyn trimins bach o bob lliw a siâp, a minnau'n ysu am fodio gwaelod yr hosan i weld pa drugareddau eraill oedd yn fy nisgwyl.

Pe bawn i'n gosod tanjyrîns yn hosanau Nadolig ein merched ni heddiw, yn yr oes fodern hon, afraid dweud na fyddai'r ffrwyth yn eu cyffroi o gwbwl. Nid 'waw' fyddadi eu hymateb, yn sicr, ond "o Mam!"

Aeth yr hyn a oedd ar un adeg yn foethusion, yn bethau cyffredin bob dydd i blant ein hoes. Maent yn gyfarwydd â gweld llond bowlen o danjyrîns wedi eu gorseddu ar fwrdd y gegin trwy'r flwyddyn. Felly, pa fath o drêt fyddant yn eu derbyn yn eu hosan Nadolig? Byddai'n siŵr o 'grampio' eu steil ymhlith eu ffrindiau soffistigedig!

Nid ydynt yn rhyfeddu heddiw at y pethau y bu plant y cenedlaethau o'u blaen yn rhyfeddu atynt. Mae creu rhyfeddod ar wyneb plant ein dyddiau ni yn beth dychrynllyd o gostus! Ond dyna ni, nid plant bach yn unig sydd wedi stopio rhyfeddu. Gŵyr rhai ohonom am blant mawr, hefyd.

Testun rhyfeddod yw Gŵyl y Nadolig. Rhyfeddu bod Duw wedi dod mewn baban i'n byd, a bod Duw yr Imaniwel yn Dduw sy'n agos atom ni, trwy ei fab Iesu Grist.

Ble aeth y waw o'n geirfa, wrthi ni fyfyrio ar hanes Y Nadolig? A ydym wedi dod yn rhy gyfarwydd â'r stori, fel nad yw yn ein rhyfeddu mwyach? A phwy sy'n dal i ddweud mai Gŵyl i'r plant yw'r Nadolig? 'Mae'r Nadolig yn ŵyl i bawb.

Ble aeth rhyfeddod yr ŵyl?

Wedi i'r bugeiliaid gyrraedd crud y baban Iesu, ac adrodd yr hyn a ddywedwyd wrthynt gan yr angylion, 'rhyfeddod pawb a'u clywodd' ...

Rydym yn rhyfeddu ddigon wrth glywed am y newyddion drwg sy'n parlysu cymunedau a chynhedloedd ein byd. Rhyfeddwn o weld ar ein setiau teledu, ddelweddau erchyll sy'n taflu cysgodion hyll ar draws ein byd, ac yn portreadu'r casineb sydd yng nghalonnau ein cyd-ddyn heddiw.

Ond dyma gyfle adeg yr ŵyl arbennig hon, i ni ryfeddu wrth glywed am newyddion da, am Un a ddaeth i fod yn Dywysog Tangnefedd.

Ac wedi clywed a rhyfeddu, ymadael â'r ŵyl fel y bugeiliaid gynt 'gan ogoneddu a moli Duw ...' gyda sioncder newydd yn ein cerddediad, ac ystyr newydd i'n bywyd.

Waw!

Dan ofal Prosiect Papurau Bro


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý