Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Llien Gwyn
Owain LlÅ·r Llwyddiant i dalent disglair
Medi 2004
Ar drothwy dathliadau ei ben blwydd yn ddeunaw oed, roedd gan Owain Llŷr Williams, o San Clêr, rhywbeth ychwanegol i'w ddathlu.
Fe gurodd ddegau o bobl eraill i ddod yn gyflwynydd teledu yn Eisteddfod Casnewydd 2004.

Roedd Â鶹Éç Cymru wedi bod yn chwilio led led Cymru am gyflwynwyr addawol i'w datblygu, a daeth Owain ynghyd â thri arall i'r brig gan ennill y cyfle i gyflwyno ar raglenni Â鶹Éç Cymru o'r 'Steddfod, ochr yn ochr â chyflwynwyr sefydledig fel Huw Llywelyn Davies a Lisa Gwilym.

"Roedd yn grêt", meddai'r crwt byrlymus, a roddodd ei enw ymlaen ar gyfer cystadleuaeth Talent Â鶹Éç Cymru yn Eisteddfod yr Urdd, am nad oedd ganddo 'ddim gwell i'w wneud'. Roedd rhaid iddo gyflawni gwahanol bethau, gan gynnwys cyfweld Dafydd Du a rhoi tro ar gyflwyno, cyn cael ei ddewis i gyflwyno o'r Eisteddfod Genedlaethol.

"Mi wnes i gyflwyno eitem ar yr holl wyliau a digwyddiadau sydd ar ôl yr haf yma a cheisio cael pobol i fynd draw iddyn nhw".

O'i holi am ei ddiddordebau, mae'n dod yn amlwg bod Owain yn ddifrifol a brwdfrydig am ei ddiddordeb yn y cyfryngau.

"Fi wedi bod yn gweithio i Gwmni Telesgop ers tua dwy flynedd, i gael profiad, a roeddwn i'n gweithio yn y Sioe Frenhinol fel rhedwr ac yn ceisio cael gymaint o 'dips' ag y gallwn i, gan bobol fel Amanda Protheroe-Thomas a Nia Ceidiog.

"Roedd y cyfle roddodd Talent Â鶹Éç Cymru i fi, yn gyfle hollol grêt i fynd o flaen y camera, sy'n gweddu'n well i fi achos sai'n gallu stopio siarad. Dyna pam mae'n well 'da fi o flaen y camera.

"Mae'r profiad wedi dysgu llawer i fi am bethau fel y derminoleg sy'n cael ei defnyddio, a llwyth o bethau technegol".

Ond er ei frwdfrydedd, ac yn awr ei brofiad, fe fydd Owain (adawodd Ysgol Bro Myrddin yr haf hwn) yn cymryd hoe o'r cyfryngau am ychydig, i wneud gradd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Warwick. Ond wedi iddo raddio, pwy a ŵyr ... Cyfreithiwr y cyfryngau ?


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý