Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Llien Gwyn
Texas Radio Band, llun gan Mei Lewis. Rhoddwyd gan 'Sound Nation' Texas yn taro'r nodau cywir
Ionawr 2004
Mae grŵp ifanc o ardal Caerfyrddin yn prysur wneud enw i'w hunain yn y byd cerddorol.
Mae Texas Radio Band yn enw cyfarwydd yn lleol ers rhai blynyddoedd bellach, ond erbyn hyn maent wedi cael cydnabyddiaeth a chlod cenedlaethol wrth gipio'r wobr am y "Talent orau yn y Gymraeg" yng ngwobrwyon y Ffatri Bop ar ddiwedd Tachwedd 2003.

Mae aelodau'r grŵp yn dod o bob cwr o Sir Gâr ond mae un dyn bach o Efailwen yn eu plith hefyd, set Gruffudd Ifan. "Roedd hi'n noson brilliant" meddai Gruffudd am y seremoni wobrwyo yn y Ffatri Bop yn Porth, Rhondda. "Roedd enwau mawr y sîn gerddoriaeth i gyd yno, roedd yr holl fwyd a diod am ddim a pharti mawr yn dilyn y seremoni mewn ystafell oedd wedi ei addurno fel casino!"

Roedd hi'n sicr yn noson fawr i Texas Radio Band a ddaeth i'r brig yn erbyn grwpiau cyfarwydd eraill gan gynnwys Zabrisnki, Kentucky AFC a Pep Le Pew.

Doedd hyn ddim yn brofiad newydd sbon i Texas Radio Band ar ôl iddyn nhw ennill y wobr am y 'Talent newydd gorau yn y Gymraeg' yn 2002. Ond nid derbyn y wobr oedd unig uchafbwynt y noson i aelodau'r grŵp eleni.

"Cawson ni gyfle i gwrdd â llawer o bobol enwog yn y parti ar ôl y seremoni" meddai Gruffudd. "Wnaethon ni siarad gyda'r grŵp 'The Darkness' ac roedd y 'Manic Street Preachers' yna hefyd. Fe wnaeth rhai o'r bois siarad gyda Sinead Quinn o'r rhaglen Fame Academy a'r actor Rob Brydon o'r rhaglen Marian and Geoff Ac fe fues i'n chwarae cardie' gyda Stuart Cable o'r Stereophonics a'i gariad Lisa Rogers!"

Mae'r grŵp wedi bod yn brysur iawn yn ddiweddar wrth baratoi at lansio eu halbwm newydd 'Baccta Crackin' a pharatoi ar gyfer taith ar draws Cymru.

"Ry'n ni wedi trefnu nifer o gigs er mwyn hyrwyddo'r albwm newydd" meddai Gruffudd. "Ry' ni'n chwarae yn y gogledd a'r de a hefyd yn Lerpwl a Llundain." Mae'n amlwg bod cerddoriaeth afaelgar y grŵp yn boblogaidd iawn felly, a'u caneuon, sy'n cael eu disgrifio fel roc/pop acwstig gyda naws wledig, wedi lledu ymhell dros Glawdd Offa.

Felly, gyda phroffil Texas Radio Band yn datblygu, beth yw eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol? "Ar ôl i ni orffen y daith fe fyddwn ni nôl yn y stiwdio dros y Pasg er mwyn dechrau recordio albwm newydd" meddai Gruffudd. "Ma' amser prysur o'n blaen ni dros y misoedd sydd i ddod."

Mae'r dyfodol yn edrych yn ddisglair iawn i'r Texas Radio Band, a gobeithio y daw cyfle i'w gweld nhw'n perfformio yn ardal Y Cardi Bach cyn hir.

gan Aled Vaughan Prosiect Papurau Bro

AELODAU TEXAS RADIO BAND
Matthew Williams - cyfansoddi, canu a chwarae'r gitâr
Rhydian Jones - Gitâr fas
Rhodri Davies - Allweddellau
Gruffudd Ifan - Drymiau
Alex Dingley - Gitâr flaen
Bethan England- Offerynnau taro


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý