Â鶹Éç

Milwr Normanaidd - ail-gread o frwydrau'r Normaniaid ar gyfer y rhaglen Battlefield Britain:Hastings

Y Normaniaid - 1067 - 1282

29 Awst 2008

Goresgynnwyd Cymru gan y Normaniaid Ffrengig eu hiaith drwy broses o ymosod a choloneiddio dros gyfnod o ddwy ganrif.

Eu dilynwyr, Saesneg eu hiaith, ddaeth â'r iaith i ganol bywyd bob dydd Cymru.

Brwydr Hastings yn 1066 oedd y digwyddiad tyngedfennol yn hanes concwest y Sacsoniaid yn Lloegr. O fewn blwyddyn yr oedd y Normaniaid yn codi castell yng Nghasgwent ac wedi dechrau concro Cymru fesul tamaid. Fe gymrodd dros 200 mlynedd i gwblhau'r dasg.

Dechreuodd y goresgyniad gyda chyfres o gyrchoedd dinistriol a oedd erbyn diwedd unfed ganrif ar ddeg wedi effeithio ar bron bob cwr o'r wlad. Cafodd yr arweinwyr brodorol un ai eu lladd neu ffoi i Iwerddon. Yn Rhagfyr 1282 bu farw'r olaf o dywysogion Cymru, Llywelyn, yn cael ei ladd gan un o ddilynwyr Edward 1.

Nid oedd y Cymry wedi cael y fath brofiad ers dyddiau'r Rhufeiniaid. Yr oedd gan y goresgynwyr y tro hyn ddwy iaith, Ffrangeg a Saesneg. Yr oedd yr arweinwyr Normanaidd yn siarad Ffrangeg; yn wir mae croniclwyr y cyfnod yn sôn nid am ymladd y Saeson ond am ymladd y Ffrancwyr. Mae rhai o eiriau'r pŵer newydd yn y wlad yn cael eu derbyn, megis barwn a gwarant.

Serch hynny, dilynwyr y Normaniaid, Saesneg eu hiaith, oedd y rhai a ymsefydlodd yn y tiroedd oedd wedi'u concro, gan ddod â'u hiaith i Gymru. Hyd heddiw mae de Sir Benfro'n cael ei adnabod fel Little England Beyond Wales.

Dywed Brut y Tywysogion bod trefedigaeth wedi'i sefydlu yn 1105 pan roddodd Harri'r 1af ganiatâd i nifer o Ffleminiaid o'r lle a elwir yn Wlad Belg heddiw, ymsefydlu yng nghyffiniau Hwlffordd. Fe ymunodd Saeson â nhw yn ddiweddarach. Yr oedd iaith y Ffleminiaid a'r Saeson yn debyg ar y pryd.

O ganlyniad bu farw'r Gymraeg yn yr ardal, a hyd yn ddiweddar nid oedd fawr o gydymdeimlad tuag at yr iaith. Ond, bu'r goresgyniad yn fodd i roi hwb i ymwybyddiaeth o Gymreictod ac i ddiwylliant dan fygythiad.

Mae Gerallt Gymro (Giraldus Cambrensis) yn adrodd hanes Harri'r 2il, brenin Lloegr. Yn ystod un o gyrchoedd y brenin yn y 12fed ganrif, gofynnodd Harri i Hen Å´r Pencader yn Sir Gaerfyrddin, a oedd e'n credu fod unrhyw siawns gan y Cymry. Ateb yr Hen Å´r oedd: "Never will it be destroyed by the wrath of man unless the wrath of God be added. Nor do I think that any other nation than this of Wales, or any other tongue, whatever may hereafter come to pass, shall on the day of the great reckoning before the Most High Judge, answer for this corner of the earth."

Byddai llawer o Gymry yn 1282 wedi dweud bod yr Hen Å´r yn rhy haerllug o lawer.


Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc © Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

Eisteddfod

Ceidwad y Cledd, Robin Mc Bryde

Canrif o Brifwyl

Canrif o hanes Cymru a'r byd drwy lygaid yr Eisteddfod Genedlaethol.

Dysgu

Celtiaid yr Oes Haearn

Celtiaid

Dewch i ddysgu mwy am fyd Celtiaid Oes yr Haearn yng Nghymru.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.