Â鶹Éç

Diwrnod angladd yn Aberfan

Trychineb Aberfan

Roedd pris i'w dalu am dwf diwydiannau trwm a'r holl fanteision economaidd a ddaeth yn eu sgil.

Roedd damweiniau yn y gwaith yn ddigwyddiadau cyfarwydd, rhai ohonynt ar raddfa enfawr fel damwain Glofa Senghennydd 1913 a laddodd 439 o ddynion - y drychineb lofaol waethaf ym Mhrydain. Er hyn, o'r holl drychinebau diwydiannol, trychineb Aberfan yw'r un sydd wedi ei serio yn y cof am mai plant oedd mwyafrif y rhai a laddwyd.

Lladdwyd 116 o blant rhwng saith a deg mlwydd oed a 28 o bobl pan lithrodd tomen lo i lawr o ben y mynydd a chladdu'r ysgol gynradd a 18 o dai yn y pentref bach glofaol ger Merthyr Tudful.

Roedd plant Ysgol Gynradd Pantglas yn Aberfan newydd orffen eu gwasanaeth boreuol ar fore Gwener, Hydref 21 1966 pan dorrwyd ar yr heddwch gan ru'r domen wastraff yn rhedeg i lawr ochr y mynydd.

Plentyn yn cael ei gario o'r gyflafan yn Aberfan

Cyhoeddwyd stâd o argyfwng yn y pentref a heidiodd pobl o bob rhan o Brydain yn ogystal â glowyr, heddweision ac ymladdwyr tân lleol i helpu i glirio'r glo i chwilio am y rhai a gladdwyd.

Wrth i'r newyddion ledu am y gyflafan, daeth cyfraniadau o bedwar ban byd ac fe lansiodd Maer Merthyr Tudful Gronfa Trychineb Aberfan. Erbyn mis Ionawr 1967 roedd dros filiwn a hanner o bunnau yn y gronfa gyhoeddus. Yn y cyfamser roedd y pentrefwyr wedi bod yn ymgyrchu i gael gwared o domen y Bwrdd Glo oedd yn parhau i beri bygythiad uwchben y pentref.

Gwrthod cyfrifoldeb

Ond, ym mis Awst 1968, mynnodd Llywodraeth Lafur Harold Wilson fod arian y gronfa yn cael ei defnyddio i symud y domen. Cafodd yr arian yma ei ad-dalu yn 1997, ond heb log.

Ceisiodd y Bwrdd Glo Cenedlaethol, perchnogion y domen, ddweud mai gweithred naturiol oedd y gyflafan. Un a gafodd ei feirniadu am ei ymddygiad wedi'r drychineb oedd yr Arglwydd Robens, cadeirydd y Bwrdd, a roddodd y bai am y llithriad ar ffynnon naturiol oedd yn codi o dan y domen.

Wedi'r drychineb, penodwyd tribiwnlys i ymchwilio i mewn i'r achosion a'r amgylchiadau a daeth i'r amlwg yn ystod yr achos fod yna bryderon wedi bod yn lleol dros ddiogelwch y domen. Rhoddwyd y bai am y gyflafan ar y Bwrdd Glo a chawsant eu condemnio am eu gwendidau a'u methiannau. Fe gafodd y llywodraeth ei beirniadu hefyd ond chafodd neb erioed ei erlyn, ei ddirwyo na'i ddiswyddo.

Cloddio am gyrff yn rwbel y domen

Meddai'r Arglwydd Elystan Morgan a oedd yn un o'r rhai aeth ar ei union i Aberfan i helpu wedi clywed am y drychineb ar y radio y bore hwnnw: "Anghofia i fyth o'r hyn weles i. Maen nhw yn ddarluniau anghofia i fyth, taswn i fyw nes fy mod yn gant oed.

"Rwy'n cofio bod na bobol o bob math yna, Saeson rhonc oedd â dim cysylltiad â'r lle. Glöwyr oedd yna yn fwy na dim. Llawer ohonyn nhw yn dadau i'r plant a fu farw ond roedden nhw yn gweithio a gweithio, fel pobl mewn trance. Roedden ni i gyd yn gweithio chwarter awr, yna off am ddeg munud. Jyst yn rhawio pethau ma's o'r ffordd. Cymerodd hi wythnosau iddyn nhw i glirio popeth.

Dagrau yn NhÅ·'r Cyffredin

"Cof llachar sy' gen i yw y dydd Llun canlynol yn Nhŷ'r Cyffredin. R'on i'n Aelod Seneddol Llafur yng Ngheredigion ar y pryd, roedd hi'n anodd amgyffred y peth. Rwy'n cofio Quentin Hogg, Ysgrifennydd Cartref yr Wrthblaid, yn codi ar ei draed â'r dagrau'n llifo ar ei ruddiau yn methu dweud dim. Yn gymdeithasol, doedd ganddo fe ddim byd yn ymwneud â'r plant bach yn Aberfan ond roedd y trasiedi yn dod â phawb at ei gilydd.

"Os nad yn uniongyrchol, ond yn bendant ysgogodd y digwyddiad hwn i osod i fyny yr hyn a elwir yn 'Tip Clearance' - ffurf o wariant cyhoeddus a gafodd ei groesawu oedd hwn. Roedd hyn yn galluogi i harddu bröydd oedd yn hyll o ganlyniad i gau y pyllau glo a hefyd yn creu llefydd diwydiannol gyda ffatrïoedd n creu gwaith a oedd angen ar ôl cau y pyllau glo yng nghymoedd y de.

"Anghofia i fyth yr olwg ar wynebau'r rhai oedd wedi colli eu plant ar y diwrnod hwnnw - wedi'r cyfan roedden nhw wedi colli eu plant yn y lle oedd disgwyl iddyn nhw fod yn fwyaf saff - yn yr ysgol."

Y cyfweliad gydag Elystan Morgan yn llawn

Hanes lleol

Glowyr wrth eu gwaith

Glowyr y gogledd

Gwaith glo, dur a chopr gogledd ddwyrain Cymru.

Hanes teulu

dwylo - www.istockphoto.com

Hel Achau

Sut i fynd ati i olrhain eich coeden deulu?

Mudo

Capel Glan Alaw, Patagonia

Capeli, tai te a gauchos

Hanes y Cymry a ymfudodd i'r Ariannin yn 1865.

Y Gymraeg

Barddoniaeth Taliesin

Hanes yr iaith

O'i gwreiddiau Celtaidd i frwydrau iaith y 1960au a'r 70au.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.