Sawl un ohonoch sydd wedi syrffedu ar gerdded o amgylch trefi a phentrefi yn gofyn yn garedig am gael gosod posteri yn eu ffenestri, neu ffonio pobl byth a beunydd er mwyn eu hysbysu am Gigs neu Gyngherddau neu Ffeiriau ayyb?
Wel, mae Bwrdd yr laith Gymraeg wedi datblygu syniad newydd, modern o'r e "e-chlysur", Pwrpas e-chlysur yw i hwyluso'r broses o hysbysebu digwyddiadau yn y gymuned. Sut? Dwi'n eich clywed yn gofyn? Wel, drwy eich gwahodd i ymuno â'r cynllun newydd hwn drwy gyfrwng y we.
Y cyfan sydd raid i chi wneud yw ymweld â gwefan www.mentrau-iaith.com cliciwch ar logo e-chlysur, yna cofrestru eich cyfeiriad e-bost a chwblhewch y manylion, yna cliciwch ar y gweithgareddau sydd o ddiddordeb i chi, gan gofio nodi'r ardal neu'r ardaloedd sy'n berthnasol i chi.
Bydd y system e-chlysur yna'n eich hysbysu o bob digwyddiad yn yr ardal drwy e-bost neu neges testun (neu'r ddau), a'r cyfan yn rhad ac am ddim!
Cofiwch hefyd os ydych chi'n perthyn i gymdeithas neu'n trefnu digwyddiad lleol a hoffech ei hysbysebu, yna cysylltwch gyda ni yn y Fenter, a gallwn ni fwydo'r manylion i mewn i'r system (digwyddiad Cymraeg neu ddwyieithog yn unig wrth gwrs!)
Os yw hyn yn swnio'n ormod o drafferth i chi, yna cysylltwch a'r Fenter laith, ac mi wnawn ni eich cofrestru ar eich rhan 01352 755614.
|