Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Glannau
Y gofeb Dadorchuddio Cofeb i Thomas Pennant
Cofio un o ffigyrau hynod gogledd ddwyrain Cymru.
Ar noson oer a gwlyb, Mai 4, 2004 dadorchuddiwyd cofeb ar garreg er cof am Thomas Pennant, y naturiaethwr a'r hynafiaethwr llengar arbennig o Blas Downing gerllaw.

Y gŵr gwadd er anrhydedd, David Schwarz o Dreffynnon, a ddadorchuddiodd y gofeb.

Y mae'r gofeb o farmor du wedi ei gosod ar galchfaen yn ymyl giât yr Ysgol. Y mae'r gofeb yn cwblhau ymdrech arbennig gan y Grwp Pennant lleol i fawrygu'r gŵr llengar a 'sgrifennodd lyfrau - ymysg y rhain "Taith trwy Gymru", A tour of Wales, yw'r mwyaf nodedig. Ganwyd a magwyd ef ym Mhlas Downing.

Cafodd ei addysg gynnar yn Wrecsam ac oddi yno aeth i Goleg y Frenhines Rhydychen. Y mae rhai o lwybrau'r fro wedi eu henwi ar ei ô1 a chynhelir darlith flynyddol.

Cafwyd peth o'i hanes gan y Dr. Goronwy Wynne ar y teledu yn ddiweddar ynghyd â hanes Maen Achwyfan a'r Gop Trelawnyd. Soniodd hefyd am Moses Griffith ei gyfaill ac arlunydd penigamp o Trygarn, Sarn Mellteyrn, Llŷn, Gwynedd.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý