Y Cymro a fu farw - a lofruddiwyd yn wir - pan oedd yn ymladd yn erbyn y Saeson ym myddin Ffrainc 625 o flynyddoedd yn ôl.Dadorchuddiwyd cofeb newydd Owain ar fryncyn uwchlaw harbwr y dref. Dyma'r un y canodd I. D. Hooson iddo:
"Owain o hil Llywelyn Fawr
Owain y coch ei law;
Pennaeth y Gad a Gobaith ei Wlad
I Gymru mwy ni ddaw."
Nid oes cytundeb barn ar sut y cafodd Owain ei deitl - gwaed ei wrthwynebwyr ynteu clwyf ar ei law - ond yn bendant iawn gweithgarwch pur ddi-drais a'm trodd i yn llofrudd (llaw + rhudd, coch), sef hel mwyar duon.
Bu fy llaw dde i yn goch iawn ddeuddydd yn olynol ar ôl mwyara yn galed yn y bryniau uwchlaw Llangwyfan yn ystod y dyddiau fflat diddigwydd hynny sy'n dilyn wythnos yr Eisteddfod. Mor goch yn wir nes peri imi gofio am Macbeth yn dweud y byddai'r gwaed oedd ar ei ddwylo yn cochi'r moroedd mawr:
' .... the multitudinous seas incarnadine...", neu'n nes gartref - "Ni all yr holl foroedd byth olchi fy mriw....' Morgan Rhys.
Penderfynwyd yng nghanol y mieri mai jeli fyddai tynged y deunaw pwys a gasglwyd. Ni chymeraf arnaf fy mod yn llwyr ddeall y broses o droi'r mwyar yn jeli, oherwydd gwyliwr achlysurol oeddwn. Ond bu raid cael fy help i drefnu cyfarpar i gynnal tair congl y bagiau a hidlai'r gwlybwr coch i ddwy bowlen dros nos. At y fframwaith trithroed pwrpasol bu'n rhaid defnyddio treipod mawr y telisgop i gynnal yr ail hidlydd - a'r ffatri jam i gyd yn y gegin bach 'ma.
Wrth edrych ar yr anhrefn-dros-dro cofiwn fel y byddai Nain yn dweud, ar ddiwrnod golchi: "Mae'r tŷ^ 'ma fel tŷ^ Jeroboam fab Nebat", ac os byddai mewn hwyliau go lew, ychwanegai "... yr hwn a wnaeth i Israel bechu".
Erbyn hyn, 'yn yr oes oleuedig hon' fe ŵyr pawb nad cyfeirio at adeilad y mae'r adnod, ond yn hytrach at deulu a llinach a hil. Efallai fod palas Jeroboam yn lle tu hwnt o foethus a thaclus, ond yr oedd o a'i deulu yn griw digon amheus. Mewn sefyllfa o'r fath mae pobl y Sowth yn dweud bod lle yn sang-di fang. Ond o ble y daeth y fath ddywediad?
Troi i G.P.C. a gweld mai'r ffurf 'orau' yw sang-di fang, ond dim sôn am darddiad, a dyma ddechrau dyfalu. Fel rheol, pan fydd rhai yn cyfeirio at sefyllfaoedd eithafol, mae'r ansoddeiriau yn tueddu i fynd yn gableddus - ymgadwaf rhag rhoi enghreifftiau.
Ond yn wir i chi - ac yn enwedig os gwyddoch ychydig o Ffrangeg - mae 'sangdifang' yn cyfleu yn union seiniau Sang Diuin (Gwaed Dwyfol), ac oni chlywid milwyr a fu'n ymladd yn Ffrainc yn dweud pethau fel 'san-fatri-an' gan adleisio ca ne fait rien (beth yw'r ots, twt)?
Tybed nad llw rhyw hen filwyr crwydrol - un o fêts Owain Lawgoch efallai - a esgorodd ar y dywediad?
Aled Jones