Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Glannau
H. M. Stanley Cyndeyrn neu Mungo
Mehefin 2009
Bu Tegwyn a Margiad Williams yn ymweld â Glasgow a darganfod sawl cysylltiad rhwng y ddinas a'u cartref, Llanelwy.

Buom yn ymweld â'r Alban i ddathlu ein priodas ruddem gan deithio hen lwybrau ein mis mêl. Gwelsom bod taith gan Seren Arian yn mynd i'r union lefydd yr ymwelsom â hwy ddeugain mlynedd yn ôl.

Yn ystod y crwydro cawsom gyfle i gael seibiant yn Glasgow a phenderfynwyd wedi gweld arwydd i'r Gadeirlan i ymweld ag Eglwys Gadeiriol Glasgow.

Mae Llanelwy a Glasgow wedi eu plethu a'i gilydd oherwydd i Cyndeyrn, nawddsant Glasgow a enwyd Mungo yn yr Alban, gael ei hel i lawr gan baganiaid i Gymru. Wedi iddo gael cyngor gan Dewi Sant cafodd loches i sefydlu eglwyd yn Llanelwy yn y flwyddyn 560. Bu yno am 14 mlynedd cyn dychwelyd i Glasgow. Diolch byth iddo adael Asaph i ofalu bod yr Eglwys yn parhau yn Llanelwy.

Wedi cyrraedd mynedfa'r Gadeirlan beth a welsom ond cerflun o David Livingstone y cenhadwr enwog - cysylltiad eto â Llanelwy oherwydd i gael ei fagu yn y tloty yn Llanelwy. Stanley oedd yr un a aeth allan i Affrica a chanfod Livingstone.

Gwelsom fedd Cyndeyrn a chael cyfle i roddi gweddiau gerbron a sylweddoli ein bod ni bellach yn cadw fflam Cristnogaeth yma yn Llanelwy sydd wedi parhau yn ddi-dor am yn agos i bymtheg canrif.

Yr oedd yn brofiad, y teimlad o weld bedd Cyndeyrn a oedd yn siarad math o Gymraeg. Mae enw Glasgow yn dod o Eglwys Gu, 'eglwys' neu deulu a 'gu' sef annwyl. Os wyt yn anghywir bydd Aled yn sicr o'm cywiro!

Cawsom ddathliad y deugain wedi dod yn ôl o'r Alban gyda chyfeillion a theulu, ni ofynnwyd am anrhegion. Yn ein hoed ni nid oes eu hangen mwyach ond derbyniwyd rhoddion at elusen. Bu bobl yn hael iawn. Un o'r elusennau oedd wrth gwrs Hosbis Cyndeyrn. Ni allwn ddianc o'n cefndir!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý