Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Glannau
Rhai o ddisgyblion Ysgol Glan Clwyd Popeth yn newid
Mawrth 02
Ar Chwefror Iaf, roedd disgyblion Ysgol Glan Clwyd yn newid eu gwisg ysgol am reswm arbennig iawn - i newid bywydau.
Roedden nhw yn ymuno ag ysgolion ledled y wlad wrth iddyn nhw gymryd rhan yn y Diwrnod ar gyfer Newid UNICEF - Diwrnod Gwisg Anffurfiol Cenedlaethol.

Dyma un diwrnod yn y flwyddyn lle mae disgyblion yn gallu gwisgo unrhyw ddillad y maen nhw'n ei ddewis - o ddillad pêl-droed i wisg ffansi. Wrth wneud hynny, roedden nhw yn codi arian i newid bywydau plant ym Mrasil a Bangladesh, ac wrth gwrs i ni yn Ysgol Glan Clwyd sydd â chysylltiad ag ysgol yn Nepal, roedd hanner arian a godwyd yn mynd tuag at brynu deunyddiau addysgol i'r ysgol honno.

Dod â gwell byd i blant y byd
Yn ystod yr wythnos hefyd roeddem yn rhoi pwyslais arbennig yn ein gwasanaethau boreol ar waith UNICEFyn ceisio dod â gwell byd i filiynau o blant drwy'r byd.

Ym Mrasil a Bangladesh, mae UNICEF yn ceisio achub plant rhag tlodi a rhoi addysg iddyn nhw. Oherwydd tlodi ym Mrasil mae nifer blant ar y strydoedd lle maen nhw mewn perygl beunyddiol. Ym Mangladesh mae nifer o deuluoedd mor dlawd fel bod y plant yn gorfod gweithio i ychwanegu at incwm y teulu. Mae miliynau o blant yn y ddwy wlad, yn ogystal ag yn Nepal, yn colli'r cyfle i gael addysg o ganlyniad i hyn.

Cymorth UNICEF i fynd i'r ysgol
Un o'r plant yma yw Simone o Frasil sydd yn 10 oed. Roedd hi'n arfer gweithio ar stondin fwyd mewn stryd beryglus a bu'n rhaid iddi roi'r gorau i fynd i'r ysgol er mwyn ennill ychydig o arian ychwanegol. Gyda chymorth UNICEF, mae'n mynd i'r ysgol lle mae'n dysgu darllen ac ysgrifennu.

Ar y cychwyn, roedd hi'n ofnus, ond roedd dosbarthiadau sgiliau syrcas arbennig UNICEF - a ddefnyddir i annog plant fel Simone i fynd i'r ysgol - yn rhy gyffrous i'w colli! Erbyn hyn mae Simone yn mynd i'r ysgol bob dydd ac mae'n dysgu'r sgiliau angenrheidiol i gymryd rheolaeth dros ei bywyd ei hun.

Gyda chefnogaeth ysgolion fel Ysgol Glan Clwyd mae UNICEF yn gallu cynnig cyfleoedd y maen nhw yn eu haeddu i ragor o blant ym Mrasil, Bangladesh a Nepal. Casglwyd £250 i gefnogi gwaith UNICEF ym Mrasil a Bangladesh a £250 i gefnogi'r ysgolion yr ydym wedi cysylltu â nhw yn Nepal.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý