Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Glannau
Francesca Hughes Waw! Gwych genod!
Mawrth 2005
Roedd nos Wener, Chwefror 11 yn noson gyffrous iawn i ni yn ardal Y Glannau gan fod dwy o'n pobl ifanc wedi cyrraedd y rownd derfynol yng nghystadleuaeth Waw Ffactor! ar S4C.
I gefnogi Rebecca Trehearn o'r Rhyl a Francesca Hughes o Allt Melyd teithiodd dau lond bws o'r cylch i lawr i'r stiwdios teledu yng Nghaerdydd. Perfformiodd y ddwy dair cân yr un, a hynny'n fyw i gyfeiliant band, gan adael canlyniad y gystadleuaeth yn nwylo'r gwylwyr.

Rebecca TrehearnWedi'r awr wyllt o fwrw pleidleisiau ffôn a thestun, cyhoeddwyd mai Rebecca oedd wedi mynd â hi, ac fel rhan o'i gwobr bydd yn cael y cyfle i recordio CD yn stiwdios enwog Abbey Road yn Llundain.

Bydd hithau a Francesca hefyd yn cael canu yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd ar Fawrth 19 pan fydd Cymru yn chwarae eu gêm rygbi dyngedfennol yn erbyn Iwerddon ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Bydd eu llwyddiant yn sicr o fod yn hwb fawr i'r ddwy i'r dyfodol ac roeddynt yn pwysleisio eu bod wedi mwynhau'r profiad o gymryd rhan yn y gystadleuaeth yn fawr. Mae Rebecca yn gobeithio y bydd wedi cael rhan yn y sioe 'Alfie' yn y West End yn Llundain yn dilyn clyweliad, ac mae Francesca wedi ei derbyn i ddilyn cwrs gradd mewn perfformio yng Ngholeg Paul McCartney yn Lerpwl.

Llongyfarchiadau fil i chi genod a phob dymuniad da yn eich gyrfaoedd. Gobeithio y cawn glywed am lawer mwy o lwyddiannau yn dod i'ch rhan yn y dyfodol.

Roedd Lisa Haf Davies o Fynachlog-ddu yn Sir Benfro i fod i berfformio yn y rownd derfynol o Waw Ffactor hefyd, ond reodd hi'n sâl ar y noson. Ewch i ddarllen ei hanes - y sbri a'r siom ar wefan Papur Bro Clebran.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý