Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Cwlwm
John James, (cadeirydd Cwlwm) gyda'r cyn olygyddion, Peter Hughes Griffiths, T. Gwynn Jones a Gareth Evans. Atgofion Cwlwm
Rhagfyr 2004
Atgofion Peter Hughes Griffiths, un o sylfaenwyr Cwlwm, am ddyddiau'r papur bro dros y chwe mlynedd ar hugain ers ei sefydlu, wrth iddo ef roi gorau i'w rôl fel un o olygyddion y papur bro.
Ychydig feddyliodd y grŵp bach ohonom a sefydlodd ein papur bro y byddai'n dal i fynd dros chwe mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, ac mor llewyrchus ag y buodd e erioed. Cyhoeddwyd deg rhifyn y flwyddyn yn ddi-fwlch dros y cyfnod hynny ac mae rhifyn Rhagfyr yn rhifyn 267.

Mae lle i ddiolch ac i lawenhau yn llwyddiant ein papur misol Cymraeg ni, a hefyd bod 60 o bapurau bro tebyg ar hyd a lled Cymru ar hyn o bryd. Mae sefydlu a chynnal papurau bro wedi bod yn un o ddigwyddiadau pwysicaf hanes yr iaith yn ein dyddiau ni, a chofiwch mai gwirfoddolwyr sydd wrthi, ac wedi bod wrthi ers bron i ddeng mlynedd ar hugain.

T. Gwynn Jones (Abergwaun yn awr) a sefydlodd Cwlwm a dweud y gwir. Fe alwodd e yn swyddfa Plaid Cymru yn 8, Heol Dŵr yng Nghaerfyrddin i ddweud wrtha i yr hoffe fe alw criw ynghyd i weld a odd posib trefnu i ni gael papur bro yn ardal Caerfyrddin. Roedd sawl ardal yng Nghymru eisoes yn cyhoeddi eu papur Cymraeg misol, ac felly, dyma fynd ati. Rwy'n un gwael iawn am gofio ffeithiau - yn enwedig ar ôl chwe mlynedd ar hugain! Ond, rwy'n cofio bod y diweddar Aneurin Jenkins-Jones a'r Parch Emrys Jones, gweinidog Heol Awst, yn rhan o'r grŵp cyntaf gyda T. Gwynn a minnau. Aneurin feddyliodd am yr enw Cwlwm.

A'r cyfrifoldeb ges i oedd y dosbarthu, ac felly, rhaid oedd mynd ati i chwilio dosbarthwr ym mhob ardal. A wyddoch chi beth, mae rhai o'r cyfeillion hynny'n dal wrthi o hyd. Am chwe mlynedd ar hugain maen nhw wedi bod wrthi bob mis yn ddifwlch ac wedi dosbarthu miloedd ar filoedd o gopïau heb unrhyw dâl am eu gwaith.

A dyna fu'r ysbryd erioed - pawb yn helpu mewn rhyw ffordd i sicrhau bod Cwlwm yn cyrraedd. Yn yr un modd mae llawer o'n gohebwyr yn yr ardaloedd yn dal wrthi. Tybed faint o eiriau maen nhw wedi ysgrifennu yn Cwlwm? I mi mae teyrngarwch pobl i'n papur bro'n rhyfeddod, a mawr yw ein diolch.

T. Gwynn Jones oedd y golygydd am o leiaf y ddeng mlynedd gyntaf, ac i'r rhai ohonoch sydd wedi cael y cyfle i fod yn olygydd misol neu yn hirach na hynny, gallwch werthfawrogi dyfalbarhad Gwynn - wrthi'n fisol yn casglu deunydd, lluniau a newyddion ac ysgrifennu darnau sylweddol hefyd.

Y golygyddion a ddilynodd Gwynn oedd y diweddar Huw Evans, Croesyceiliog, Gareth Evans, Llangynnwr, Wynne Jenkins, Heol Bronwydd a minnau am gyfnod cyn sefydlu'rpatrwm presennol sy'n gweithio mor hwylus, sef golygyddion y mis dan ofal prif olygydd.

Mae'r gwaith felly'n cael ei rannu a phob golygydd yn cael cyfle i osod ei stamp ei hun ar Cwlwm yn fisol yn awr.

Ni bu cyllid yn ofid erioed i bwyllgor Cwlwm tan yn ddiweddar, gan fod costau uchel i gyhoeddi ac argraffu erbyn hyn. Fel y gwyddoch dim ond un digwyddiad blynyddol i godi arian mae Cwlwm yn ei gynnal ers dros bymtheg mlynedd bellach, a hwnnw yw Gŵyl Dramâu Cwlwm'. Ry'n ni'n dal i lenwi Neuadd San Pedr ddwy noson yn olynol yn flynyddol, a mis Mawrth nesaf fel arfer fe fydd tri chwmni lleol yn cyflwyno eu comedïau ac yn creu llond lle o chwerthin. Credaf fod cynnal y dramâu ar hyd y blynyddoedd wedi bod yn gyfraniad gwerthfawr gan fod cymaint o gwmnïau lleol wedi cymryd rhan, yn ogystal â'r ffaith fod y gymuned yn cael pleser.

Mae dyfodol disglair a sicr i Cwlwm, ac er nad wyf yn cario cyfrifoldeb bellach, rwy'n dal ar y pwyllgor o hyd, a bydd John James yn dod â'i ddau gant o gopiau i mi'n fisol i'w dosbarthu i werthwyr eraill.

Rwy'n ofni bod Cwlwm yn y gwaed - a sa i'n credu y galla i gael 'i wared e!

Peter Hughes Griffiths

Cynhaliwyd noson gymdeithasol i ddiolch i Peter am ei gyfraniad aruthrol i Cwlwm ar hyd y blynyddoedd yng Ngwesty Pen y Baedd, Caerfyrddin, nos Fawrth, Tachwedd 23ain. Noson i'w chofio!

Dyma englyn T Gwynn Jones (golygdd cyntaf Cwlwm) iddo:
Yn ei galon mae'r golud - ai dalent
yw y dwylo diwyd;
Onid rhoi a rhoi o hyd
a fuost trwy dy fywyd?


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý