Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Cwlwm
Delme Evans yng ngwisg yr Arwyddfardd Cofio Delme Evans 1933-2002
Hyfref 2002
Fe ddaeth tristwch mawr dros ein gwlad pan glywsom am farwolaeth Delme. Yr oedd Delme Evans wedi bod yn Brif Arolygydd yn yr heddlu cyn ymddeol. Ond fel yr Arwyddfardd yn yr Eisteddfod Genedlaethol y daeth llawer o bobl Cymru i'w adnabod.
Yr oedd Delme Evans wedi gwneud cyfraniad mawr i lawer o fudiadau.

Gwelwyd hyn yn ei ffyddlondeb i'r Eglwys. Fe fuodd yn warden Eglwys Sant Ioan Caerfyrddin, ac yn aelod o Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru a llawer o bwyllgorau eraill yn yr Eglwys.

Yr oedd hefyd yn aelod o Goleg Ethol yr Eglwys sydd yn ethol Esgobion.

Fel Cadeirydd Pwyllgor codi arian Plwyf San Pedr fe gododd arian mawr i wneud y gwaith adnewyddu ar yr eglwys yn bosib.

Y tu hwnt i'r Eglwys fe wnaeth gyfraniad mawr i fudiadau gwirfoddol, fel Coomb Cheshire Home, Canolfan Teuluol Ty Ni, Cymdeithas y Plant ac i fudiadau eraill fel y Rotari.

Fe fuodd hefyd yn llywodraethwr ar Ysgol Waun Dew Caerfyrddin.

Mae'r golled yn fawr i'r teulu ac yn enwedig i'w weddw Jean, ond hefyd y mae'n golled i'r gymuned yng Nghaerfyrddin.

Yr oedd Delme yn berson hyfryd, un oedd yn barod i helpu unrhyw un. Dim ond unwaith yr oedd yn rhaid gofyn i Delme wneud unrhyw beth - yr oedd yn barod bob amser.

Fe welwyd y parch mawr oedd gan bobl Cymru tuag ato yn ei angladd.

Roedd dros 500 cant yno - pobol a ddaeth o dros Gymru gyfan i roi diolch i Dduw am ei fywyd a'i gyfraniad i fywyd ein cenedl.

Anodd iawn fydd llanw'r bwlch y mae wedi ei adael, ond diolch i Dduw am yr anrhydedd o gael ei adnabod a'i alw'n ffrind.


Erthygl gan Y Parchedig Ganon Randolph Thomas






0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý