Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Cwlwm
Hywel Griffiths Holi bardd y gadair
Gorffennaf 2007
Bu swyddogion papur bro Cwlwm yn holi Hywel Griffiths o Langynog, enillydd cadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd sir Gâr am wleidyddiaeth, barddoni ac am ei ddyfodol.

Llongyfarchiadau mawr i ti Hywel ar ennill Cadair Eisteddfod yr Urdd eleni. Alli di sôn i ddechrau am gynnwys y gerdd? Fe ddaeth y syniad o'r testun ei hun - ffenestr. Y prif syniad yw dyn cyffredin yn byw mewn dinas ac mae ffenest y lolfa yn fur rhyngddo ef â'r byd y tu fas. Mae'r ffenest yn ei rwystro rhag clywed sŵn y seiren sydd yn mynd heibio. Dwi'n gweld hyn yng nghyd-destun apathi gwleidyddol, hynny yw bod yr apathi yn ei rwystro rhag byw bywyd llawn, rhag bod yn aelod cyflawn o'r byd. Yn y diwedd - gweithredu a chymryd rhan yw'r ffordd o dorri'r ffenestr - cael gwared ar yr apathi.

A wyt ti'n credu bod barddoniaeth neu unrhyw ffurf o gelfyddyd yn gallu cael dylanwad gwleidyddol?
Ydw yn sicr. Dwi'n credu bod pobl yn fwy agored i drafod pynciau trwy gyfrwng y celfyddydau. Roedd Sioe Gerdd 'Dagrau'r Coed' yn ffordd effeithiol iawn o ddangos bod rhyfel yn anghywir. Byddai pobl sydd byth yn meddwl am hyn fel arfer yn mynd adref gyda syniadau newydd. Dwi'n credu bod lle i fwy o hyn. O safbwynt canu pop yng Nghymru does braidd neb yn canu caneuon sydd yn annog pobl i feddwl a thrafod materion y dydd. Does dim miniogrwydd - efallai bod hyn yn cyfrannu at y sefyllfa o apathi.

Mi wyt ti hefyd wedi derbyn Cadair arall yn ddiweddar sef swydd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Mae hi'n gyfnod diddorol yng ngwleidyddiaeth Cymru ar hyn o bryd.
Ydy heb os. Dwi yn ffyddiog y bydd yna deddf iaith newydd a chytundeb ar dai fforddiadwy fel rhan o'r ddealltwriaeth newydd rhwng Plaid Cymru a'r Blaid Lafur. Gobeithio bydd pwerau deddfu newydd y Cynulliad yn fodd o ddechrau trafodaeth go iawn ar y materion hyn. Mae hwn yn gyfnod cyffrous yn wleidyddol - allwch chi ddim peidio cymryd diddordeb yn y drafodaeth.

Sut wyt ti'n credu bod dy genhedlaeth di o feirdd ifanc yn wahanol i'r genhedlaeth ddiwethaf o feirdd ifanc, pobl fel Tudur Dylan a Twm Morris?
Dwi ddim yn credu bod gwahaniaethau penodol. Mae pob cenhedlaeth yn trio sgrifennu ar gyfer eu cenhedlaeth eu hun. Dyna beth yr ydym ni yn trio gwneud. Roedd ein taith 'Crap ar Farddoni' y llynedd yn cynnwys lot fawr o waith sydd wedi codi o'n profiadau ni fel pobl ifanc. Does dim gwahaniaethau. Mae pawb yn ymateb i'w cyfnod ac i'r gymdeithas ar y pryd.

Pam wyt ti'n credu bod y gynghanedd mor amlwg yng nghystadleuaeth Cadair yr Urdd - yn hytrach na cherddi rhydd?
Mae hi'n gyfnod llewyrchus iawn i'r gynghanedd. Dwi'n credu bod ffrwyth pobl fel Mei Mac a Tudur Dylan wedi arwain ni at genhedlaeth newydd o feirdd sydd yn gallu cynganeddu o oedran ifanc iawn - sydd yn gallu ysgrifennu awdl tra yn ddigon ifanc i gystadlu yn yr Urdd. Blynyddoedd yn ôl roedd yna gyfnodau hir heb unrhywun yn ysgrifennu yn gaeth yn ennill - nawr ti'n gweld cyfnod lle mai dim ond bechgyn gydag awdlau sydd wedi ennill y gadair ers blynyddoedd - rhywbeth sydd ddim yn hynod o iach, mae'n rhaid i mi ddweud.

Pam wyt ti'n credu mai 'bechgyn gydag awdlau' sydd wedi ennill Cadair yr Urdd ers blynyddoedd?
Dyw'r ddelwedd yma ddim yn wir wrth gwrs. Mae yna lot o ferched yn cynganeddu - ond nid efallai merched sydd o fewn oedran cystadlu i'r Urdd. Mae'n amhosib cyffredinoli ond mae'n bosib bod merched sydd o fewn oedran cystadlu i Gadair yr Urdd yn awyddus i fod yn fwy arbrofol. Er bod awdlau diweddar Cadair yr Urdd wedi bod yn arbrofol, efallai bod pobl yn gweld fwy o gyfle i arbrofi gyda cherdd rydd. Bydde fe yn gwneud lles os byddai cerdd rydd gan gynganeddwr yn ennill y tro nesa.

Roeddwn yn meddwl am hyn ar ddechrau'r flwyddyn. Be wnâi fan hyn? - byddem yn hoffi cystadlu gyda cherdd rydd, dim ond i wneud y pwynt mae'r farddoniaeth sydd yn bwysig - nid y gynghanedd. Dwi wedi cael pobl yn dweud hynny wrtha i yn y gorffennol, fy mod wedi ennill achos bod y gerdd yn un gynganeddol a bod y beirniad yn fwy tebygol o wobrwyo hyn. Dwi ddim yn credu bod hyn yn wir o gwbl.

Sut byddet ti eisiau datblygu fel bardd i'r dyfodol?
Mae yna bosibiliadau i arbrofi gyda ffurf yr awdl a hefyd gyda ffurf cerddi yn gyffredinol. Gyda'r awdl mae yna fformiwla wedi datblygu dros yr ugain mlynedd diwethaf. Mae yna gyfle i drio newid hyn, ac i ganu ar bynciau gwahanol. Trio arbrofi gyda'r grefft a thrafod pynciau cyffrous newydd sydd heb gael eu trafod o'r blaen. Mae angen rhywbeth ffres ar y mesur - er mwyn iddo barhau.

Fe enillaist Cadair Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn ddwy flynedd yn ôl. Sut oedd y profiad eleni yn wahanol?
Roeddwn i'n llai nerfus y tro hwn! Roeddwn yn cofio teimlo'n sâl ar y ffordd lan i Ynys Môn y tro diwethaf. Roeddwn yn gallu joio'r profiad yn fwy tro hyn. Yn amlwg roedd y profiad llawer mwy pleserus gan ei fod yng Nghaerfyrddin. Roedd modd mynd nôl adref i ddathlu. Llawer mwy cartrefol.

Ble mae'r gadair nawr?
Roedd Siop Evans a Wilkins wedi arddangos Cadair Eisteddfod 1935 yn ffenest y siop wythnos yr Eisteddfod. Fe wnaethon nhw ofyn a fyddai modd arddangos Cadair 2007 yn y ffenest ar ôl yr Eisteddfod. Ar hyn o bryd mae'r gadair yn Penplas, Llangynog, ond rwy'n siŵr bydd hi'n dod 'nôl i'r tŷ yn Stryd y Prior, Caerfyrddin . Roeddwn yn darllen sgwrs gyda Gareth Rees, Hermon yn Cwlwm Mehefin a oedd yn sôn am ddylanwadau ac ysbrydoliaeth Hen Dderwen Caerfyrddin wrth iddo fynd ati i greu'r gadair. Mae'r tŷ yn Heol y Prior hanner can llath o'r lle roedd yr hen dderwen wreiddiol yn sefyll. Dwi'n falch iawn o hynny.

Dwi'n siŵr oedd pobl Sir Gâr gyfan yn falch iawn o dy weld yn sefyll ar dy draed yn y pafiliwn ar brynhawn dydd Iau'r Eisteddfod. Llongyfarchiadau mawr i ti a dymuniadau gorau i'r dyfodol.

IE

  • Mwy am y Cadeirio ar wefan Urdd Â鶹Éç Cymru'r Byd
  • Cyfweld â gwneuthurwr Cadair Eisteddfod yr Urdd 2007

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

    Sylw:




    Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý