Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Cwlwm
Dr Terry James Record aur yn drysor
Chwefror 2008
Mae Dr. Terry James yn gyfansoddwr ac arweinydd adnabyddus iawn, nid yn unig yng Nghymru ond ar draws y byd.

Yn frodor o Gydweli, bu'n byw am gyfnodau yn Llundain a Rhufain ond treuliodd ran helaethaf ei fywyd yn Unol Daleithiau America. Erbyn hyn mae wedi ymgartrefu yng Nghaerfyrddin, felly dyma fynd i'w holi am ei hoff drysor.

Fel rhywun sydd wedi cael gyrfa lwyddiannus iawn yn Hollywood mae'n siŵr bod gennych sawl trysor diddorol ond tybed pa un yw'r ffefryn?
Rwy'n credu mai'r trysor pennaf i mi yw record aur a dderbyniais yn gynnar yn fy ngyrfa fel cyfansoddwr. Er mwyn cael record aur o'r fath mae'n rhaid i chi gyhoeddi record a gwerthu un miliwn o gopïau. Recordiais i sgôr ar gyfer Jonathan Livingston Seagull ar ddechrau'r saithdegau ac am hwn derbyniais i'r record aur sydd yn hongian ar fy wal. Roedd Jonathan Livingston Seagull gan Richard Bach, yn llyfr cwlt gyda phobl ifanc America yn y cyfnod. Math arbennig o wylan yw Jonathan Livingston Seagull ac mae'r nofel fer hon yn alegori am hanes yr wylan. Ar y record mae'r actor Richard Harris yn darllen y testun a derbyniais i'r comisiwn i gyfansoddi'r gerddoriaeth i gyd-fynd â'r darlleniad. Pwysigrwydd y record i mi yw, nid ei bod wedi derbyn 'Grammy Award' a gwerthu miliwn o gopïau ond, mai dyma'r ticed i fi gael mynd i weithio yn Hollywood.

Esboniwch sut wnaeth record o'r fath roi cyfle i chi fynd i weithio yn Hollywood?
Yn Hollywood gallech fod ag unrhyw radd yn y byd ond doedd dim diddordeb gyda neb achos y peth pwysig oedd cael 'demo disk' i ddangos i'r stiwdios beth oeddech wedi ei wneud. Roedd record Jonathan Livingston Seagull yn arddangos fy ngallu fel cyfansoddwr ac arweinydd a denodd gryn ddiddordeb. Roedd nifer yn cyfansoddi ond nid yn arwain a gan fod amser yn y stiwdios recordio yn ddrud roedd yn well ganddynt gyfansoddwyr oedd yn medru arwain eu gwaith eu hunain. Daeth y ffaith fy mod yn medru gwneud y ddau beth â lot o waith i mi. Roedd torri i mewn i'r cylch o gyfansoddwyr ffilmiau Hollywood yn anodd iawn, iawn. Roeddent fel 'clique' ac yn cadw'n weddol dynn. Bues i'n ffodus fy mod yn ffrind i Henry Mancini oherwydd buodd e'n help mawr i mi gael fy nerbyn i'r cylch - fel mae'r Sais yn dweud 'I needed a friend at Court'.

Wrth gwrs, unwaith y torrais i mewn i fyd y ffilmiau roedd hyn yn agor y drysau i bob math o gyfleoedd eraill. Un o'r uchafbwyntiau i mi oedd arwain cerddorfa yr L.A. Philharmonic mewn noson oedd yn cael ei disgrifio fel 'a star-spangled night' yn yr Hollywood Bowl. Profiad bythgofiadwy.

Fe sonioch mai gwaith comisiwn oedd cyfansoddi'r gerddoriaeth i 'Jonathan Livingston Seagull', beth wnaeth eich denu at y gwaith?
A dweud y gwir cefais y comisiwn trwy Richard Harris yr actor oedd yn llefaru ar y record. Brodor o Limerick oedd Richard Harris, ar y pryd roedd yn briod â merch yr Arglwydd Ogmore ac yn gyfaill da i mi.

Gyda llaw, yn ddiweddar, ychydig cyn ei farwolaeth, daeth yn enwog am ei bortread o Albus Dumbledore yn y ffilmiau Harry Potter cyntaf. Roedd cyfansoddi sgôr Jonathan Livingston Seagull yn sialens ddiddorol oherwydd roedd rhaid ceisio sôn am yr aderyn yn hedfan a'i ddisgrifio trwy'r gerddoriaeth. Tipyn o her a dweud y gwir.

Rydych yn sôn eich bod wedi arwain a chyfansoddi'r gerddoriaeth ar y record. Tybed pa un o'r ddau sy'n well gennych ei wneud?
Dydw i ddim yn meddwl amdanaf fy hun fel cyfansoddwr yn yr ystyr fy mod yn codi yn y bore ac yn ysgrifennu symffoni. Cerddoriaeth 'ymarferol' y byddaf i'n ei chyfansoddi, cerddoriaeth 'to order' fel petai. Arwain yw'r diddordeb cyntaf ac, fel mater o ddiddordeb, es i'r America i wireddu breuddwyd. Cefais arwain yn y stiwdios ffilm, ar Broadway ac wrth gwrs cael arwain cerddorfeydd ar draws y byd. Er fy mod wedi ymddeol erbyn hyn rwy'n dal i dderbyn gwahoddiadau i arwain ac mae fy mywyd yn parhau i fod yn llawn cerddoriaeth.

Rwy'n darlithio ar werthfawrogiad cerddoriaeth yn wythnosol yn Llyfrgell Caerfyrddin, yn llywydd Celfyddydau Caerfyrddin/ Carmarthen Arts ac yn trefnu cyngherddau'n flynyddol er mwyn codi arian i elusennau. Pa bynnag lwybr y byddwn wedi ei ddewis mewn bywyd byddai cerddoriaeth wedi bod yn rhan ganolog ohono ond y man cychwyn i'r holl brofiadau rwy' wedi eu cael oedd y record Jonathan Livingston Seagull, wrth gwrs.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý