Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Cwlwm
Llanddarog ddoe, o bapur bro Cwlwm O bentre i bentre: Llanddarog
Chwefror 2005
Pentref bach yw Llanddarog (gyda thua wyth cant o boblogaeth) a saif ar godiad tir, rhyw chwe milltir o Gaerfyrddin i gyfeiriad Abertawe.
Adeiladwyd pwt o ffordd osgoi i'r pentre yn 1932 - 'yr hewl newydd'. Ers agor y ffordd ddeuol newydd yr A48, yn 1987, osgoi'r pentre wnaiff llif y drafnidiaeth, ond er hynny, amhosibl mynd heibio hen sylwi ar dŵr pigfain eglwys Sant Twrog, sy'n drawiadol o bob cyfeiriad. Erbyn nos, o dan lif oleuadau mae'r eglwys, gyda'i mur crwn o gwmpas y fynwent yn dal i fod yn ganolbwynt i'r pentre.

Er i rai pobl gredu mai i Sant Twrog y cysegrwyd yr Eglwys, gall hynny fod yn gamarweiniol, ac mae'n fwy tebygol mai Darog oedd y sant roddodd ei enw i'r pentre. Dywedir mai is-gapten i Hywel Dda oedd Darog. Credir i'r adeilad presennol gael ei adeiladu yn 1850 ac wedi i'r hen adeilad pren losgi i'r llawr. Mae'r clochdy uchel pigfain lle trig hen geiliog y gwynt wedi dwyn sylw'r bardd:

Llanddarog, enwog iawn ydwyd - yn uchder
Dy glochdy'th neillduwyd,
Caer hirsyth yn creu arswyd
O Sir Gâr i'r sêr a gwyd.

Mae'n eglwys ddwbwl, hynny yw, tair rhes o seddau gyda dwy ale. I'r dwyrain ochr yn ochr â'r gangell mae capel Puxley. Teulu Puxley oedd yr uchelwyr lleol o dras Gwyddelig a hwy yn unig fyddai'n eistedd yn y rhan hon o'r eglwys. Mae i'r eglwys nifer fawr o ffenestri lliw prydferth a diddorol iawn. Mae gan yr eglwys drysor o hen gwpan cymun arian, gwaith gôf o Gaerfyrddin ac arno'n gerfiedig "Poculum Ecclesie de Llanddarog 1574". Anrheg oedd y cwpan oddi wrth Elizabeth y cyntaf, fel teyrnged o ddiolchgarwch i'r plwyfi hynny a roddodd gymorth milwrol i'w thad-cu, Harri'r Seithfed, i ennill Brwydr Bosworth 1485 o dan arweiniad Syr Rhys ap Tomos.

Mae siâp crwn y fynwent yn arwydd o'i henaint. Mae hen ffald i'w gweld ar waelod y fynwent, lle cynt y cedwid gwartheg strae yr ardal. Yn ddiweddar, gosodwyd yn y mur flwch postio Cwmisfael o gyfnod oes Fictoria, i'w ddiogelu.

Y ficer presennol yw'r Parchedig Hywel Davies a gwelir cynulleidfa dda bob Sul yn mynychu'r gwasanaethau Cymraeg a Saesneg.

Capel Newydd yw enw'r capel sydd yn y pentre, ond mae'r enw, erbyn hyn, yn gam arweiniol. Yn y flwyddyn 1995, dathlwyd dau ganmlwyddiant yr achos. Addaswyd yr adeilad nifer o weithiau yn ystod y cyfnod mewn ymateb i'r nifer cynyddol o aelodau a fynychai'r capel, sy'n perthyn i Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Cynhaliwyd y cyfarfod agoriadol i'r capel fel y mae heddiw ym mis Hydref 1904, cyfnod y diwygiad, o dan lywyddiaeth y gweinidog y Parchedig James James. Ar hyn o bryd, mae'r eglwys yng Nghapel Newydd, ynghyd â phump o eglwysi eraill yr Ofalaeth, o dan ofal gweinidog sef y Parchedig Trefor Lewis.

Wrth ymlwybro drwy'r pentre', yn ogystal i'r addoldai, fe welir ysgol, neuadd, Marchnad Fitw a Swyddfa Bost, dwu hen dafarn poblogaidd, siop drin gwallt, tai annedd sy'n dyddio'n ôl dros bedair canrif a thai newydd. Ceir stâd o fyngalos, Brynhyfryd; stad o dai a adeiladwyd gan y Cyngor yn Is-y-Llan, a stad o fyngalos Cae Person ar gyfer yr henoed.

Yn ystod yr ail ryfel byd roedd yma wersyll i garcharorion rhyfel, Yn ddiweddarach yn y pum degau addaswyd y 'camp' i fod yn dai un-llawr gyda chyfleusterau modern i deuluoedd ifanc yr ardal a'u galw yn Llethr Estate. Yn ddiweddarach codwyd Is-y-Llaw ar yr un llecyn o dir.

Ardal amaethyddol yw hi, ardal y tir coch, sy'n rhedeg yn rhuban o'r Mynydd Du i Lansteffan gyda ffarmwriaeth yn dal yn gryf. Gydag anghenion ffermio yn newid, diflannu wnaeth y gwreichion o efail y gôf yn Llanddarog ac yng Nghwmisfael. Yn y ddeunawfed ganrif 'roedd llawer o dir y plwy' yn eiddo i deulu Puxley (yn hannu o Iwerddon) oedd yn byw ym Mhlasdy Llethr Llestri, ac i'r cyfeiriad arall, teulu'r Middletons (ac yn ddiweddarach Sir William Paxton) Plas Middleton Hall.

Mae'r afonydd Rhydian ddu, y Gwendraeth Fach, a'r Isfael yn rhyw fath o driongl ar ymyl y pentre. Y Rhydian ddu yw'r ffin rhwng plwy Llanddarog a phlwy Llanarthne, a'r Isfael yn gosod ffin i gyfeiriad plwy Llangyndeyrn. Cyn i'r pibau dŵr gael eu gosod yn Llanddarog yn 1934 'roedd yma dair ffynnon groyw; ffynnon Cae Person, ffynnon Penllwynio a ffynnon y Lodge. Erys y tarddiad ond difwynwyd y cyflwr.

Mae'r gymuned yn Llanddarog yn fwrlwm o weithgaredd. Neuadd y Pentre yw canolfan a chartre'r rhan fwyaf o'r Cymdeithasau a'r digwyddiadau. Dathlwyd ei phen blwydd yn hanner cant y llynedd. 'Does dim pall ar yr egni a'r brwdfrydedd sy'n creu ac yn cynhyrchu ac yn hybu diwylliant o fewn yr ardal. Yn ychwanegol mae' na weithgaredd o fewn Capel Newydd ac o fewn eglwys y plwyf. Yn wythnosol trwy dymor y gaeaf, cynhelir cyfarfodydd diwylliannol yn festri'r capel, ar un modd yn yr eglwys ceir Undeb y Mamau.

Mae'r iaith Gymraeg yn cael ei defnyddio yn naturiol fel cyfrwng cyfathrebu o fewn y cymunedau leol. Yr iaith Gymraeg yw asgwrn cefn y bywyd pentrefol. Ganrif a mwy yn ôl, er mai Saesneg oedd yr iaith swyddogol a orfodwyd ar bobl o'r tu allan eto trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg y bu i'r trigolion hyn ymwneud â'i gilydd a diffinio eu hunaniaeth.

Efallai mai ysgol y pentref yw'r cyfrwng pwysicaf i ddatblygu'r ymwybyddiaeth hon o berthyn i'r gymuned. Gellir dweud mai'r ysgol yw calon y pentre'. Ceir hanes am nifer o ysgolion cylchynol yn yr ardal yng nghyfnod Gruffydd Jones Llanddowror 1730. Er bod ysgol wedi bodoli yn yr Eglwys ers 1796, caed adeilad newydd a phwrpasol yn 1852. Agorwyd gan y Parch Eben Morris a'i galw yn 'Llanddarog National School'. Bu tipyn o newid ers hynny!

Gadawodd 85 o ddisgyblion yr ysgol ar Fehefin 12ed 1948, gan ddychwelyd yno ar Fedi 6ed o'r un flwyddyn. Yn y cyfamser bu'r plant yn derbyn eu haddysg mewn 'ysgol' yn y 'Camp', tra'r oedd yr adeiladwyr yn yr ysgol. Hwyl fawr oedd cerdded gyda'i gilydd fore a phrynhawn.

Ysgol Gynradd Wirfoddol Reoledig (o dan reolaeth yr Eglwys yng Nghymru) yw'r enw erbyn hyn. Yma gwelir dros saith deg o blant yn derbyn eu haddysg yn hapus, o dan ofal y prifathro, Brian Evans a'i gyd athrawon.

Pan ddathlwyd can mlwydd a hanner yr ysgol yn ddiweddar, crewyd murlun mosaic gan yplant, dan gyfarwyddyd yr arlunydd Gwenllian Beynon, a'i osod ar wal yr ysgol i nodi'r achlysur.Mae Cyngor Cymuned Llanddarog a'r cylch yn cymryd cyfrifoldeb ac yn flaenllaw o ran gofalu am yr amgylchedd ac am gynnal a chadw naws naturiol yr ardal.

'Roedd ffair Llanddarog yn ddyddiad pwysig ar almanac y fro. Y dydd Llun cynta' wedi'r ugeinfed o fis Mai oedd y dyddiad. Cyn hynny byddai pob plas a bwthyn wedi cael eu gwyn galchu a'u tacluso. Ffair i brynu a gwerthu anifeiliaid oedd y ffair wreiddiol, gyda phrysurdeb yn teithio o bell ac yn lletya yn y tri thafarn yn y pentre' (gan fod yr Old White Lion yn gyrchfan poblogaidd bryd hynny). Byddai'r hewlydd o gwmpas y pentre'n llawn anifeiliaid.

Yn ddiweddarach newidiodd y ffair i fod yn ffair bleser gyda lleoliad 'Cae Ffair' yn newid. Daliodd teulu'r ffair i ddod tan ganol y pumdegau, a rhyw deimlad cyffrous yn dod yn eu sgil dim byd mwy na siglenni a cheffylau bach, ceir bach, bwrw cnau coco a rolio ceiniogau.

Cystadleuaeth magu lloi, wedi ei threfnu gan aelodau'r C.Ff I., oedd dechreuad y sioe yn 1954. Datblygodd i fod yn sioe un dydd tan 1965.Gymaint oedd datblygiad y sioe, nes ei gwneud hi'n amhosibl i aelodau'r C.Ff.I i ddygymod â'r holl drefniadau. Felly yn 1966 ffurfiwyd pwyllgor Sioe Amaethyddol Llanddarog a'r Cylch, gan gynnwys aelodau o'r C.Ff I. ac eraill o'r gymuned.

Cynhaliwyd y sioe gyntaf yn 'Cae Ffair' h.y. y gystadleuaeth lloi bach. Tyfu ac ehangu wnaeth y sioe.Ddwy flynedd yn ddiweddarach, symudwyd y safle i Gae Person; cae oedd yn perthyn i'r eglwys. Bu'n rhaid symud unwaith yn rhagor i'r lleoliad presennol, sef Cae Pantypwll. Yma y gwelir tyrfa'n ymgynnull ar y Sadwrn ola' bob mis Awst bob blwyddyn.

Diolch am wybodaeth a chyfraniadau gan bobl y pentre.

Gan: Marian Williams


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý