Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Cwlwm
Fflur Dafydd Sgwrs â Fflur Dafydd
Medi / Hydref 2006
Gofynnodd Cwlwm i Fflur Dafydd, enillydd Medal Lenyddiaeth Eisteddfod Abertawe i sôn ychydig am gefndir y nofel fuddugol, 'Atyniad.'
Cyfrol yn olrhain hanes awdur preswyl Ynys Enlli yw 'Atyniad' a'r modd y mae'r awdur yn dod i gysylltiad â phob math o wahanol bobl, yn archeolegwyr, adarwyr, artistiaid, pobl teledu a'r ynyswyr eu hunain wrth gwrs. Fy mhrif ddiddordeb i oedd y modd y gallai naratif ddwyn yr amrywiaeth yma o bobl at ei gilydd er mwyn cynrychioli'r ynys fel y mae heddiw, yn hytrach na rhamantu am y gorffennol, er mwyn ceisio cynrychioli stori gyfoes yr ynys.

Fe fuost ti am gyfnod yn awdur preswyl ar Ynys Enlli yn 2002. Ai dy stori di yw hon felly?
Na. Mae yna elfennau hunangofiannol ynddi, fel sydd ymhob nofel am a wn i. Beth oedd yn fy niddori i oedd y modd y mae'n bosib i chi wae hunangofiant a ffuglen at ei gilydd, a bod y canlyniad yn rhywbeth llawer mwy diddorol. Mater o roi siâp ar eich profiadau er mwyn eu gwneud nhw yn fwy darllenadwy.

Beth oedd argraffiadau'r ynyswyr o'r awdur preswyl?
Eitha drwgdybus, mae'n rhaid dweud! Roedd rhai o'r ynyswyr yn meddwl bod gen i agenda, a phawb yn awyddus iawn i wybod beth oedd canlyniad y gwaith. Dda'th dim canlyniad am bedair blynedd! Dwi'n siŵr bod rhai o'r ynyswyr yn meddwl fy mod heb wneud dim ond chwarae'r gitâr a chymdeithasu! Roedd yna artist preswyl ar yr ynys hefyd. Roedd pobl yn gallu gweld ac yn gallu trafod darluniau Susan Adams yn syth. Gan fod ffuglen yn cymryd yn hirach, roedd llawer mwy o ddrwgdybiaeth am yr awdur.

Mae gen ti ddiddordeb mewn ysgrifennu ar gyfer ffilmiau byrion a theledu. A yw'r diddordeb yma yn effeithio ar sut wyt ti'n ysgrifennu nofel?
Dwi'n cael lot o syniadau o'r hyn dwi'n ei weld ar ffilm a theledu. Gan fy mod yn ysgrifennu ar gyfer Pobl y Cwm ar hyn o bryd, efallai bod deialogi yn rhywbeth dwi'n ei gwneud fwy mewn nofelau. Dwi'n hoffi darllen nofelau sydd â lot o ddeialog gan fod y llyfrau yma yn llai mewnblyg ac mae rhywun yn dod yn gyfarwydd â chlywed lleisiau pobl. Dwi hefyd yn teimlo bod angen elfen weledol gref ar nofel - fel bod y gynulleidfa'n gallu cysylltu'n fwy uniongyrchol â'r cynnwys.

Mi wyt ti'n darlithio yn Adran Saesneg Prifysgol Cymru Abertawe. Pam peidio a dilyn gyrfa academaidd drwy gyfrwng y Gymraeg?
Dwi'n teimlo ei bod yn fwy o her i fynd i'r afael â llenyddiaeth mewn diwylliant arall. Dwi'n credu fod rhaid i chi fod yn agored i ddylanwadau oddi wrth ddiwylliannau eraill er mwyn cyfrannu at ddatblygiad diwylliant yn eich iaith eich hun. Mae'r iaith Saesneg hefyd yn caniatáu i rywun fynd at ddiwylliannau gwledydd eraill ar draws y byd er mwyn cyfrannu at ddiwylliant cyfrwng Cymraeg.

Mae dy Fam-gu, Mrs Jennie James, Heol Dŵr Fach, Caerfyrddin, yn un o ddarllenwyr ffyddlon Cwlwm, ac mae dy dad-cu, y Parchedig T. Elfyn Jones, o Drefach, yn gyn-weinidog yng nghapeli Peniel a'r cylch. Beth yw dylanwad y genhedlaeth yma arnat ti?
Mae Tad-cu wedi bod yn ddylanwad mawr achos ei fod yn ddyn llengar, a chariad mawr at lyfrau ac at ddysg. Roedd e'n ddylanwad mawr ar Mam wrth gwrs (Menna Elfyn) sydd hefyd wedi bod yn ddylanwad mawr arna i. Mae Mam-gu Dre hefyd yn ddylanwad mawr o safbwynt yr holl straeon sydd ganddi hi. Mae hi'n llawn bywyd, ac yn llawn hanesion.

Mi oeddet ti yn chwarae yn Neuadd San Pedr ar Hydref 6ed mewn noson gyda Chôr Seingâr i godi arian i'r Urdd. Beth arall sydd ar y gweill gyda'r band?
Fe fyddai a'r band yn chwarae ar 27ain o Hydref mewn noson i lansio ymgyrch etholiadol Nerys Evans yn Neuadd Bronwydd. Fe fydd Dafydd Iwan hefyd yn perfformio.

A'r dyfodol?
Dwi'n gweithio ar nofel newydd ar gyfer Nadolig 2007 ac yn gobeithio rhyddhau CD newydd gyda'r band erbyn haf nesaf.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý