Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clochdar
Helen Tilsey Helen yn mynd ar daith TÅ· Halan
Hydref 2003
Cafodd Helen Tilsey ei geni ei magu yn Llundain, merch i rieni Cymreig.


Mae hi'n byw bellach yn Nhrellech ger Trefynwy a phenderfynodd tair blynedd yn ôl i ddysgu Cymraeg. "Es i i Nant Gwrtheyrn am wythnos" eglurodd Helen "a nes i fwynhau y profiad yn fawr. Mae teithio yn rhan hanfodol o'm gwaith a dydy hi ddim yn hawdd i fynychu dosbarthiadau Cymraeg yn rheolaidd. Ond ceisiaf fynd allan i gymdeithasu cyn gymaint â phosib. Dwi'n gwrando a'r Radio Cymru yn enwedig Jonsi yn y bore, a S4C hefyd. Dwi'n hoff iawn o Dai Jones Llanilar a'i rhaglen Cefn Gwlad. Ym mis Mehefin eleni dechreuwyd apêl Tŷ Hafan ar S4C godi arian tuag at hospis plant Tŷ Hafan a Thŷ Gobaith. Sefydlwyd Tŷ Hafan ger Caerdydd tua phum mlynedd yn ôl ac yn barod mae hi wedi rhoi seibiant i lawer o blant difrifol sâl a'u teuluoedd. Bydd Tŷ Gobaith yn cael ei adeiladu yng ngogledd Cymru blwyddyn nesaf.

Ar hyn o bryd mae rhaid plant deithio dros y ffin oherwydd diffyg cyfleusterau lleol. Penderfynais i ymuno am wythnos â'r daith, ond roedd ofn arna i na allwn i gwblhau hyd yn oed un diwrnod o'r daith. Ond ges i groeso twymgalon oddi wrth bawb a wythnos fythgofiadwy. Cwrddais â lolo Williams a Heledd Cynnwal a llawer mwy. Un noson bm i heb lifft yn ôl i'm gwesty. "Gwnaf i fynd a chi nôl" dywedodd rhywun. Pwy? Dai Jones Llanilar. Roedd hi'n fraint i weld golygfeydd gorau Cymru ac ymweld â lonydd a phentrefi bach llawn cyfrinachau. Fe fydda i'n cadw'r atgofion melys am y daith am byth, a oedd wedi helpu bobl llai ffodus na ni"

Mae Helen wedi sylweddoli mai'r ffordd orau i feistroli'r iaith ydy trwy wynebu sefyllfaoedd yn y byd go iawn a cheisio siarad â phawb. Blwyddyn nesaf mae hi'n mynd am daith tair wythnos i Nepal, India. Efo pwy ? Grŵp o siaradwyr Cymraeg gan gynnwys Nia Parry cyflwynwraig y gyfres lwyddiannus "Welsh in a Week". Llongyfarchiadau mawr Helen.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý