Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clochdar
Benjamin Creighton Griffiths Eisteddfod y Fenni
Gorffennaf 2005
Un o'r uchafbwyntiau diweddar heb os nac oni bai oedd Eisteddfod Y Fenni ar y 18fed o Fehefin.
Mewn oes lle mae cymaint o wahanol fathau o adloniant ar gael (y teledu yn anad dim) roedd yn galonogol gweld cymaint o bobl ifanc (llawer o'u rhieni yno, yn eu cefnogi) yn hapus i fwynhau hwyl yr Eisteddfod ar ddydd Sadwrn heulog a phoeth.

Roedd y safon yn eithriadol o dda ai roedd yna achos lawenydd sylweddoli bod yr Eisteddfod yn cynnig llwyfan i'r genhedlaeth nesaf ac yn help iddi ddysgu sgiliau gydol oes mewn cerddoriaeth, adrodd a dawns.

Yn yr un modd lwyddodd cystadlaethau nos Sadwrn i ddenu cystadleuwyr o ardal eang (un o Northamptonshire) a chafwyd cyngerdd gwych.

Enillydd yr unawd offerynnol dan 25 oed (a noddwyd gan Gymdeithas Gwenynen Gwent) oedd y telynor Benjamin Creighton Griffiths, 9 oed, a edrychai mor fach wrth ochr ei delyn gyda'i hestyniadau arbennig i'r pedalau! Ni allai neb yn Theatr y Fwrdeistref beidio â sylweddoli eu bod yn gwrando ar dalent ryfeddol. Mae'n cymryd ymroddiad a threfniadaeth drylwyr gan lawer o bobl i gynnal digwyddiad mor llwyddiannus. Llongyfarchiadau mawr.

Hoffwn ddiolch yn fawr i bawb a gefnogodd noson Menna Elfyn a Fflur Dafydd, a diolch i'ch haelioni, mae'n dda gen i ddweud ein bod wedi casglu cyfraniad gwerth chweil tuag at gronfa Ty Hafan.

Roedd e'n achlysur i'w gofio fel y mae erthygl Tony Edwards yn ei bwysleisio - nid pob dydd y cewch chi'r cyfle i gyfarfod rhywun sydd â dylanwad mawr ar fywyd diwylliannol Cymru a chael eich diddanu gan ferch mor dalentog.

Hoffwn ddiolch hefyd i Rhys Wynne am ei wasanaeth cyfieithu ar y pryd. Er bod ganddo annwyd trwm fe ddaeth ar fyr rybudd a sicrhau noson ddealladwy i bawb gan gynnwys sawl siaradwr Saesneg yn unig.

Robin Davies


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý