Wel, mae'r tri ohonyn nhw, sef, Roger White, Pete Brodie ac Alan Lewis yn aelodau "Côr y Dreigiau", yng Nghasnewydd. Ffurfiwyd "Côr y Dreigiau ym mis Medi 2006. Roedd y côr yn un o bedwar côr o gefnogwyr rygbi, Y Gleision, Y Scarlets a'r Gweilch oedd y corau eraill.
Roedd cynhyrchiad cyfres newydd "Codi Canu" ar S4C ym mis Medi 2006 ac achos hynny, cafodd y pedwar côr eu sefydlu.
Dilynwyd y gyfres datblygiad y pedwar côr cymysg, wrth iddyn nhw ddysgu emynau Cymraeg ac anthemau rygbi'n barod i herio'i gilydd mewn sialens canu mawr.
Beirniadwyd y gystadleuaeth gan yr arweinydd enwog Owain Arwel Hughes.
Daeth y gyfres i'w huchafbwynt cyn y gêm Cymru yn erbyn Lloegr ym mis Mawrth 2007 pan enillodd Côr y Dreigiau'r fraint o ganu'r Anthem Genedlaethol cyn y gêm.
Dechreuodd yr ail gyfres "Codi Canu" ym mis Medi 2007 ac yn y gyfres hon roedd cyfle i 12 aelod llwyddiannus o bob côr fynd i Dubai i ganu o flaen cynulleidfaoedd yn ystod y gemau "Saith bob ochr"
Cafodd y tri thenor lwcus eu dewis yn ogystal â thri bas, tair soprano a thair alto gan, unwaith eto, Owain Arwel Hughes i ymuno â'r "Goruwch Gôr"
Talwyd y daith i gyd gan gynyrchyddion "Codi Canu".
Roedd y daith arbennig yn llwyddiannus dros ben. Treuliodd y tri thenor amser rhagorol gyda'i gilydd. Roedd llawer o hwyl, gan gynnwys marchogaeth camel, teithiau cwch, a phryd o fwyd blasus gyda'u ffrindiau eraill o'r côr yng ngwesty "Seren Saith". Bois bach!!
Canon nhw wrth gwrs sawl cân yn ystod y daith, sef Gwahoddiad, Rachie, Sanctus, Canon Lân ac yr Anthem Genedlaethol.
Uchafbwynt y daith, siŵr o fod, oedd y cyfle i weld y gemau "Saith bob ochr". Roedd "Y Tri Thenor o Went" yn ogystal â'r "Goruwch Gôr" i gyd wrth eu boddau gyda'u taith.
A nawr, i'r dyfodol, bydd y tri thenor yn ogystal â Chôr y Dreigiau i gyd yn edrych ymlaen at eu her newydd, sef y gystadleuaeth ym mis Mawrth eleni cyn y gêm Cymru yn erbyn Ffrainc.