Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clochdar
Yr Eisteddfod Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Gorffennaf 04
Casnewydd a'r Cylch, Gorffennaf 31 - 7 Awst 2004

Rhifyn arbennig a Newyddion Gwent yw hwn (diolch i haelioni Arian i Bawb) i groesawu dyfodiad yr Eisteddfod Genedlaethol i Gasnewydd fis Awst, i ddathlu'r gwaith caled a gyflawnwyd ac a wneir a hyd gan bobl ymroddedig yng Ngwent, ac i gael cipolwg ar beth o hanes diddorol yr ardal.

Eleni gwelwyd llu o ddigwyddiadau codi arian llwyddiannus, sydd yn eu tro wedi atgyfnerthu cysylltiadau personol ac wedi helpu pobl i ddod i adnabod ei gilydd yn well, sy'n argoeli'n dda ar gyfer y dyfadol. Llongyfarchiadau o bawb sydd wedi cyfrannu at y digwyddiadau hyn, ac i bawb sydd wedi'u mynychu. Diolch hefyd i waith caled a chefnogaeth staff Swyddfa'r Eisteddfod, Heol y Bont, Casnewydd, mae'r cydweithrediad wedi bod yn un pleserus.

Mae Newyddion Gwent yn ceisio cyhoeddi'r llwyddiannau a gyflawnir yng Ngwent ac mae'n bwysig bod y papur yn cyrraedd pawb y gall fod o ddiddordeb iddynt. Os ydych yn adnabod unrhyw un y mae'r papur yn debygol o apelio ata, rhowch wybod, os gwelwch yn dda. Gallwn ychwanegu ei h/enw at ein cronfa ddata (sy'n tyfu o hyd) i gael copïau am ddim yn rheolaidd.

At y diben hwn rydym yn falch o gyhoeddi, mewn cydweithrediad â Glenda Brown, Swyddog Gweithredu'r Gymraeg Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen y bydd Newyddion Gwent o hyn ymlaen ar gael ar wefan Webster Torfaen. Mae Webster yn fenter ryngrwyd yn Nhorfaen sy'n gallu helpu pob math a grwpiau cymunedol yn Nhorfaen i ddysgu am ei gilydd ac i gadw mewn cysylltiad. Felly, ewch i'r safle . Byddwn yn gwella ac yn ehangu porth Newyddion Gwent fel mae amser yn caniatáu.

Dymuniadau gorau i bawb am wythnos lwyddiannus heb law. Edrychwn ymlaen i'ch croesawu i Eisteddfod Sir Fynwy i- Ai 2010 ynteu 2012 fydd hynny?

Croeso twymgalon i bob Eisteddfodwr gan Bobl Gwent


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý