Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clochdar
Y Fenni Eisteddfod Y Fenni
Chwefror 2007
Gwahoddir llenorion a pherfformwyr i gystadlu yn Eisteddfod Y Fenni, a gynhelir eleni ar 16 Mehefin, 2007 yn Theatr y Bwrdeistref Y Fenni.

Y dyddiad cau yw 18 Mai, a gellir cael mwy o fanylion ar wefan yr Eisteddfod, sef www.eisteddfodyfenni.co.uk.

Mae croeso i gystadleuwyr llenyddol gynnig gwaith yn Gymraeg neu yn Saesneg, gyda thair cystadleuaeth yr un yn y ddwy iaith. Yn Gymraeg "Ystyr Cymreictod heddiw" yw pwnc y rhyddiaith, "Byw yng Nghymru" yw testun y gerdd i ddysgwyr, a "Hen glebren fusnesllyd o'r Fenni" yw llinell gyntaf y limrig.

Yn wahanol i'r arfer, ychwanegwyd cystadleuaeth newydd i berfformwyr llwyfan: deuawd neu driawd offerynnol neu leisiol, i gyd-fynd â'r cystadlaethau mwy traddodiadol megis yr unawdau lleisiol ac offerynnol, yn cynnwys cân o sioe gerdd, a'r her adroddiad.

"Rydym yn ymwybodol iawn bod trigolion Y Fenni yn mwynhau'r Eisteddfod oherwydd safon uchel y perfformwyr; bron mai fel cyngerdd y gwelant y noson, yn hytrach na chystadleuaeth," medd Ceri Thomas, Cadeirydd Eisteddfod Y Fenni. "Oherwydd hynny mae'n bwysig iawn ein bod ni'n darparu rhaglen ddifyr ac amrywiol, a bydd y gystadleuaeth newydd hon yn siŵr o ychwanegu at fwynhad y gynulleidfa."

Yn ystod y dydd, cynhelir eisteddfod y plant, yn Ysgol y Brenin Harri'r VIII, gyda'r plant lleiaf yn cystadlu yn y bore a'r rhai hÅ·n yn y prynhawn. Gwahoddir pedwar cystadleuydd gorau y prynhawn i ddiddanu cynulleidfa'r Theatr gyda'r nos, a bu'r eitem honno hefyd yn ychwanegiad poblogaidd at y rhaglen, gyda'r bobl ifainc talentog y llynedd yn cynnwys pianydd, actor, cantores a thrombonydd.

Os na allwch gysylltu â'r we, ffoniwch Ceri Thomas am fwy o wybodaeth am gystadlu yn Eisteddfod Y Fenni, ac am ffurflenni cais, ar 01873 850379.

Ceri Thomas


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý