Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clochdar
Nia Potter, Helen Forder, Rhiain Bebb, Sion Gwilym Roberts, Huw Roberts, Howard Potter, Ann Griffiths a Bethan Roberts. Cymdeithas Gwenynen Gwent
Awst 2006
Mae Cymdeithas Gwenynen Gwent, ers ei sefydlu, wedi ceisio rhoi sylw i agweddau o'r diwylliant traddodiadol Cymreig yng Nghymru ac mae dawnsio gwerin yn sicr yn ganolig iddi.
Mae'r gair "Twmpath" yn golygu'r dyddiau hyn, efallai, noson wedi ei chanoli o gwmpas dawnsio gwerin (lle nad yw llwyddiant yr achlysur yn dibynnu ar ddesibelau'r system sain!) a chafwyd noson hynod o lwyddiannus yn y Priordy, Y Fenni, ar 1af o Orffennaf.

Roeddem yn ffodus iawn bod Huw Roberts a'i wraig Bethan a'u mab Siôn Gwilym ynghyd â Rhiain Bebb wedi teithio o Sir Fôn a Machynlleth yn arbennig i fod yno gyda ni, ac i rannu eu profiad eang ym myd dawnsio gwerin. Mae Rhiain a Huw yn aelodau o'r grŵp poblogaidd "Rhes Ganol", ac estynnwn hefyd ein diolchiadau i Howard Potter am ei letygarwch iddynt dros y penwythnos.

Mae'r Priordy, Y Fenni, yn lleoliad ardderchog ar gyfer y math hwn o noson, ac y roedd yr ystafell yn llawn. Cafwyd cyflwyniad lliwgar gan Huw, a oedd yn gwisgo dillad traddodiadol (i gynlluniau gan Arglwyddes Llanofer!) am ddatblygiad gwisgoedd traddodiadol yng Nghymru. Cafodd y gynulleidfa berfformiadau o wahanol eitemau cerddorol ar y delyn deires gan Huw a Rhiain.

Mae Rhes Ganol yn hyrwyddo'r delyn deires dros Gymru ac mae Rhiain yn delynores flaengar yn y maes. Wedyn daeth tro Siôn Gwilym ac er mai llanc ifanc ydyw, rhoddodd berfformiad afieithus ac athletig iawn wrth ddawnsio'r glocsen ac roedd pawb wedi eu swyno'n fawr. Ond ni chafodd y gwesteion eu hanwybyddu chwaith, ac yn fuan iawn roedd pawb ar eu traed a Bethan yn dysgu dawnsiau newydd iddynt, a chafwyd llawer o hwyl. Roedd Hazel wedi paratoi bwffe blasus iawn; ychwanegodd hyn at naws y noson, a fydd yn fyw yn y cof am gryn amser.

Diolch yn fawr i bwyllgor Cymdeithas Gwenynen Gwent a weithiodd yn galed tu hwnt i sicrhau digwyddiad llwyddiannus iawn. Peidiwch ag anghofio digwyddiad nesaf Cymdeithas Gwenynen Gwent sef Ysgol Undydd yn y Priordy ar ddydd Sadwrn 14eg o Hydref 2006.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý