Main content

Cerddi Rownd 1

TRYDARGERDD – ‘Gorau Cymro ...’ neu ‘Gorau Cymraes ...’

Ffostrasol

I wisgo crys coch Cymru
Mae’n help dod o Lanelli;
Mae’n iawn i ddod o’r gogledd pell
Ond gwell yw bod yn Kiwi.

Gareth Ioan - 8

Crannog

Y gorau Cymro yw’r ffyddlonnaf sy’;
mae’n aelod o’r Orsedd – ac yn MBE.

Gillian Jones - 8

CWPLED yn holi ac yn ateb cwestiwn

FFostrasol

Yn wir, pwy ydyw’r Meuryn
Gorau oll ? ‘Rhen Geri Wyn.

Gareth Ioan – 8.5

Crannog

Pa hen ofon sy’n cronni
yn s诺n y nos? Ni wn i.

Endaf Griffiths – 9

LIMRIG – “Fe gollais fy nghath yn ddiweddar”

Ffostrasol

Nid twrci na ffesant na grugiar
Wna ’r caffi drws nesa’ ei ddarpar
Ond pethau reit dodji
Fel ffwlbart neu wenci, -
Fe gollais fy nghath yn ddiweddar.

Dai Rees Davies - 8.5

Crannog

Fe gollais fy nghath yn ddiweddar,
a hwnnw’n hen gwrcyn go glyfar;
ond nid oedd e’ Jim
yn un digon chwim –
fe’i gwasgwyd yn ddim dan y teiar!

John Rhys Evans – 8

CYWYDD (heb fod dros 12 o linellau) : GWOBR

Ffostrasol

I bobol yn Zimbabwe
Mae balchder mewn llawer lle,
Llawenydd yw eu lluniaeth
Sy'n bod wedi cyfnod caeth.
Ond gwyddwn fod eu gweddi
Yn fodd hawdd at ein nawdd ni.

Rhyw ofn sy'n parhau o hyd,
Taw unben eto enbyd
Yw'r 'Crocodil' di-g'wilydd
Mewn gwlad dlawd a'i ffawd mewn ffydd;
Hyn o fraint a ddaw o fry
Yw adferiad yfory.

Iolo Jones - 9

Crannog

(Llyfr y Flwyddyn: Cofio Dic)

Anochel yw’r dychwelyd
adre i’r Hendre o hyd:
darn o dir ei enaid yw,
o’i aredig ir ydyw,
a chaeau mawl uwch y môr
yw llain y bardd a’r llenor.

Tua’r iet y daw drwy’r trwch
o gilie pob dirgelwch
yn ôl i chwarae alaw
doeau’r hwyl o’r ochor draw,
‘i fynnu canu’n y co’,
i ennill heb fod yno.

Idris Reynolds – 10

PENNILL YMSON wrth roi’r addurniadau gadw

Ffostrasol

Ar ôl y sbri masnachol
Mae’r amser wedi dod
I roi Nadolig arall
Yn ôl mewn blwch di-nod.

Emyr Davies – 8.5

Crannog

Fe gliriaf y Nadolig,
y goeden fendigedig,
a’u storio gyda’r Baban bach
mewn sach i fyny’r atig.

John Rhys Evans – 9

CÂN YSGAFN – y Wers offerynnol

Ffostrasol

Rwy’n ganwr reit ddymunol, mewn bath rwy’n swnio’n wych
Rhyw lais fel Pavarotti a gafar Dai Cwm Cych,
A chyda’m dawn gerddorol a rhag gwastraffu hyn
Ces wers ar rhyw offeryn, mae rhai fel fi yn brin.
Er mwyn cael wedyn uno a seindorf pentre Plwmp,
Cael rhoi i’r sain rhyw gorwynt, a thipyn mwy o swmp.
Fe gefais wers wythnosol, a deall erbyn hyn,
Gan nad wy’n nabod lliwiau, fod nodau du a gwyn.
Ac er nad oedd y nodau yn wir yn bwysig iawn
Ni fyddwn yn eu dilyn, na ffodus oedd cael dawn.
I’r band es ar fy union, ac uno gyda’r criw
A chefais fy nghyflwyno fel Emyr o Benrhiw
Ond gyda’r offerynwyr ‘rwy’n Mr. Davies nawr,
Gan mod i’n aelod pwysig, a chyfrifoldeb mawr
A’r cyfrifoldeb hwnnw fel aelod Cyngor Bro,
Neu swydd aruchel arall sef dyn y ‘stop and go’.
Ac yn fy nghyngerdd cynta, gwnes argraff si诺r o fod
Pan roes fy unig nodyn a phawb yn canu’n nghlod
Wrth daro’r nodyn perffaith, a hwnnw ydoedd ‘bwm’
Beth fyddai band heb rywun sy’n medru chware’r drwm.

Emyr Davies - 9

Crannog

Yn nyddiau Bach a Handel daeth Sais i Synod Inn
i ddysgu plant y bryniau i chwarae’r fiolin.
Fe wyddai hwn yn barod fod Cymru’n wlad y gân,
gan iddo farnu unwaith yng Ng诺yl y Nôl a Mlân.
Roedd Banc Siôn Cwilt yn ffrwythlon o rapsodïau glas,
a dysgodd ambell joci farchogaeth Dwbwl Bas.
Aeth ‘Milgi, milgi’n’ angof mysg cerddi’r uchel ach,
a ‘Bing bong be’ yn ‘brelawd’, a’r ‘Hall’ yn ‘Halle’ fach.
Lle bu rhieni’n cerdded â’r cloc yn taro naw,
eu plant â ant ysgol â ffidil yn eu llaw.

Ond yna ar ôl practis fe aeth hi yn ben set,
pan gafwyd gêm o denis â stwff y string quartet.
Roedd pedair Stradivariws yn gwneud slazengers go grand,
a chyn bo hir roedd nifer yn giamsters ar back hand.
Yr oedd y coesau’n addas a’r holl linynnau’n dynn,
始doedd angen fawr ddim rhagor, ond rhwyd a dillad gwyn.
Fe gafwyd sgôr amgenach o fewn y pedair wal,
nid oedd drwy’r rallentandos un dala ar Nadal.
A ffromi wnaeth y Maestro o weld yr ornest hon,
ac aeth yn ôl i Loeger i drigo’n Wimble Don.

Idris Reynolds – 9

LINELL AR Y PRYD - At y Kiwis Idris aeth.

Ffostrasol

Heno, twll tîin barddoniaeth,
At y Kiwis Idris aeth.

0.5

Crannog

Rhag ymryson barddoniaeth
At y Kiwis Idris aeth.

TELYNEG – Llechen Lân

Ffostrasol

Ym more oes bu’r festri fach
Yn galw arnaf fi,
Ac ynof, rhywle, deil o hyd
Ran o’i diwylliant hi.

Ond yna’n raddol daeth i’m rhan
Gyfaredd bethau’r byd
Ac ar eilunod o bob math
Y rhoddais i fy mryd.

Rwy’n fab afradlon, gadael gwnes
Fy holl grwydradau ffôl
A cherdded llwybyr unig iawn
I Gapel Mair yn ôl.

Dai Rees Davies – 8.5

Crannog

Fe gafodd enw arall,
cymdogaeth newydd sbon,
fel na bo modd adnabod
y llofrudd dan y fron.
Bu’r awdurdodau wrthi
yn sgwrio’r hyn a wnaed
heb lwyddo’n llwyr i ddofi’r
Efnysien yn y gwaed.

Gillian Jones – 8.5

ENGLYN – Melin

Ffostraol

Aeth y lle’n eitha’ llonydd, – ni welir
Na golau na gwehydd,
Ond rhyw sôn llawn balchder sydd
Am wlanen y melinydd.

Iolo Jones – 8.5

Crannog

(Ymson hen wehydd)
Caled fu gweld y cilio yn y cwm,
a gweld cau’r holl gyffro,
ac mae’r garthen sydd heno
drosof i yn cosi’r co’.

Endaf Griffiths – 9

Ffostrasol - 69

Crannog – 70.5