Cerddi Rownd 2
Y Prentisiaid v Gwylliaid y Llew Coch
Trydargerdd: Crynodeb o Gynnwys Papur Bro
Y Prentisiaid
Pwy sy’n fyw, a phwy fu farw,
Hanes Twm yn ticlo Tarw.
Manylion trip yr ysgol Sul,
Rysait Mrs Jones am dafod mul.
Grug Muse - 8
Gwylliaid y Llew Coch
Ganwyd, bedyddiwyd,
Dyweddiodd, priododd,
Gwaelodd, marwodd,
Claddwyd, canmolwyd
Gwion Aeron – 8.5
Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘drain’
Y Prentisiaid
Waeth pa mor hardd fo’r garddio
Daw drain i’w sbwylio’n ei dro.
Gethin Davies - 8.5
Gwylliaid y Llew Coch
Dyma yw ystyr damwain:
dwy droed a thrwyn mewn gwrych drain
Mari Lisa - 8
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Gofynnais i’r dyn yn garedig’
Y Prentisiaid
Gofynnais i’r dyn yn garedig
am fater o bwys academig;
doedd y ateb ‘myn glir
(er yn eithriadol o hir)
deud y gwir, sa’m yn ffitio mewn limrig.
Iestyn Tyne – 8.5
Gwylliaid y Llew Coch
A hoffech chi ddarn o fy lastig?
Gofynais i’r dyn yn garedig,
Gadawodd ar frys
Heb ddim ond ei grys,
Gewch chi orffen gweddill y limerig.
Rhiain Bebb – 8.5
Cerdd ar fesur yr englyn penfyr: Cymwynas
Y Prentisiaid
Awr Neb un nos Sadwrn oedd, a honno’n
fy rhynnu; y strydoedd
yn oer fel d诺r aberoedd
a rhydau Ystwyth a Rheidol, a gwynt
o’i go ar hyd pedol
o fae. Simsanais yn f’ôl,
ac ar y stryd wrth groesi Dre - cynnig;
cennad tri y bore
yn enw Duw’n tollti’i de
yn gymun i feddwyn fel fi. Yno,
â’i wenau’n cyhoeddi’i
waith da, fe’m bendithwyd i
â’i weddi oer. Roedd y ddau â’u gwely
digalon yn garpiau
o’r golwg heibio’r golau.
Iestyn Tyne – 9.5
Gwylliaid y Llew Coch
Samuel Gwynn Jones
I deulu a fu'n cyd fyw'n y cwm hwn
cymwynas f膿ch ydyw
cludo'i arch, ond caled yw.
Cwm Dugoed oedd, cymydog d膿 o hyd
a chadwr stori膿'n
dal iaith y cenedlaeth膿.
Ym mhrifysgol Cwm Tafolog y ddôl
cafodd ddysg cyfoethog
i'w angen, ac ynt膿'n gog.
Yng ngraen pridd ei ffriddoedd, yn ei gwm
mae ôl gwaith blynyddoedd
yn dangos rhwng y stingoedd.
Mae cymwynas膿 ceue'r co'n fyw i ni'n
y fan hyn, cans meibion
Cwm Dugoed yw'n cymdogion.
Tegwyn Pughe Jones – 9.5
Pennill Mawl neu Ddychan: Betio Ar-lein
Y Prentisiaid
Sa’m rhaid chdi wisgo’n deidi
a llenwi betslip diflas;
cei ista nôl a cholli’th bres
yn glyd yn dy byjamas!
Gethin Davies – 8.5
Gwylliaid y Llew Coch
Am imi golli’n nghrys dydd Mawrth
A cholli’n nghlos dydd Sul
Rwyf yma’n eistedd yn fy nhrons
Yn rhoddi bet ar ful.
Ifan Bryn Du - 9
Cân ysgafn: Yr Ymgyrch
Heno dwi’n canu i adrodd y stori am ymgyrch fawreddog o’r gogledd i’r de.
Mae llawer o ddynion di mynd yn reit wirion wrth drio cyflawni’r nôd erbyn te.
Mai’n dipyn o broblam bod pobl yn wenfflam am achos mor dila ond dyna yw’r gwir.
Mae’n bryd inni glymu pob un sydd yng Nghymru a thanio pob calon ar hyd yr holl dir.
Bydd angen boicotio a llwyth o brotestio gan chwifio’n baneri a gweiddi drwy’r pnawn.
Fe wnawn ni betisiwn, bydd rhaid cyrraedd miliwn, os ydym am neud yr holl bethau ma’n iawn.
Sa’n syniad cyffesu holl bwrpas ‘rymgyrchu, a beth sydd yn galw’r holl ddynion i’r gâd.
Wel, raffl yw hwnnw, mae’n gyrru ni’n cwcw wrth hawlio ei le ym mhob noson drwy’r wlad.
Mae’n ffordd digon diog o godi rhiw geiniog, cael darn bach o bapur a rhif wrth roi punt.
Mae siawns o gael hampyr neu sannau a jympyr, neu gadair tu allan ‘sa’n mynd efo’r gwynt.
Go brin cewch ddigwyddiad heb glywed cyhoeddiad bod raffl ar gael i’w brynu’n y cefn.
Codwch w欧r Cymru, dewch oll i Ymgyrchu, mae’n amser i rhywun roi newid i’r drefn.
Alun Williams - 8
Gwylliaid y Llew Coch
Awn ati i ymgyrchu dros barhau y statws quo ‘, tydi popeth yn berffaith ac iawn fel y bo?
Gadewch lonydd i bethau i fod ‘nenw’r tad, “Dechrau Canu ,Dechrau Canmol “a rhaglen “Cefn Gwlad”.
----------‘Rwyn wrthun wrthwynebwr wrthnysig.
‘Does dim angen tyrbeini i arbed y byd, dim ond ffermwrs cyfoethog fanteisia,’na’i gyd.
Cawn ninnau’n ein tro fwynhau crasu’n yr haul,cyn dychwel yr Oes Iâ ‘ryw ddiwrnod ‘n ddiffael.
--------Camarweiniol a ffug yw” statistics”.
Peidiwch sôn am ymyryd yn ysgolion y fro,mae’r ffad am gyfuno yn fy nghyrru o’m co,
Gadewch i’r rhai bychain fynd i ysgol y Llan-,fe geuant eu hunain, fesul un, yn y man.
-------‘Rwyn flogiwr a thrydarwr holl bwysig.
Yr wylain am dynged yr iaith eto dyf:ac iawn yw ei hadfer’n broydd mae’n gryf,
Boed i weddill y wlad barhau yn bi-ling, fel ca pawb o’i thrigolion fwynhau gwneud eu “thing”-(man)
--Mae’n Welsh i yn blwmin ffantastig.
Mae rhai’n benderfynnol o newid y byd, adrefnu,adrefnu yw ‘r byrdwn o hyd,
Dos lawr o’th focs sebon a lan o’th ben ôl,daeth amser ymgyrchu dros wneud “bugger all”.
Nid ydwyf yn Dori, nid wyf yn Welsh Nash
Ond mêt r’wyn Ymgyrchydd-un ffyrnig a fflash!
Alun Cefne – 9
Llinell ar y pryd: Mam sy’n dweud mai syniad da
Y Prentisiad
Mam sy’n dweud mai syniad da
Oni nawn ni neud hynna
Gwylliaid y Llew Coch
Mam sy’n dweud mai syniad da
Yw gweu yn nhrymder gaea
0.5
Telyneg: Gwaredu
Y Prentisiaid
Deryn Du mewn gardd drofannol
(Yn nhai gwydr gerddi botanegol Abertawe)
Daeth fel finnau
trwy ddrws agored
i mewn o’r glaw.
Symudai’n swil yn y gwyddfid,
yn herwr plyfog, petrus
rhwng coed oren a thegeirian.
Brodorion glaw a grugiach
oeddem ni ein dau,
dieithriaid yn ein cotiau du
a’n sgarffiau gwlân.
Ac uwch ein pennau,
deuai smwclaw Mawrth
fel golau arian, tyner
drwy wydr pwl y to.
Daeth fel finnau,
i fewn o’r glaw. Ond
dieithriaid oeddem ni ein dau,
ac felly nol a ni i’r gawod.
Grug Muse -9
Gwylliaid y Llew Coch
Os bydd fy esgidiau rhyw ddydd heb eu cân
o bobtu y rhiniog a’u gwadnau’n lân,
rho nhw i rywun sy’n dechrau’r daith
fel bod fy Nghymru yn rhan o’i iaith.
Pan weli fy nghotiau a’u cefnau’n cwrdd,
gwisga eu persawr a rho nhw i ffwrdd
ynghyd â’m holl lyfrau, ond bodia nhw’n glên,
rho nhw i eraill sy’n caru llên.
Os erys llythyrau o’m dyddiau gynt
lluchia nhw’n ddarnau i’r pedwar gwynt,
er mwyn i’r dwedyd cyd-rhwng y gwyn
fwrw ei wreiddiau eto fan hyn.
Pan na fydd ohonof ond un peth i’w roi
tyrd at fy ymyl a dalia fy noe,
wrth iddo basio, yn dy anadl di;
rho fi i orffwys lle’m ganwyd i.
Mari Lisa – 9.5
Englyn yn cynnwys enw unrhyw ddinas Ewropeaidd
Y Prentisiaid
Gallwn ni gael gwell na hyn - a ffynnu,
ein ffiniau’n ddiderfyn;
trechu’r Stockholm Syndrome sy’n
rhoi esgus i’n goresgyn.
Gethin Davies – 9.5
Gwyllaid y Llew Coch
Lotharios
Rhai'r Eidal sy'n gymeradwy, mae’r rhai
Ym Mharî’n gofiadwy;
yn ein tim mae meistri mwy -
dynion smooth Dinas Mawddwy.
Tegwyn Pughe Jones – 9.5