Y Rownd Derfynol
Trydargerdd: Enwebiad i’r Orsedd
Caernarfon
Mydrwn ein clod i Modri膰 a Lovren,
rhown lifrai gorsedd-kitsch
i'r rhain ac Ivan Strini膰...
eu heip hwy oedd ar y pitsh.
Llion Jones - 9
Dros yr Aber
Er y brath ym mhob llathen, y ddraig goch
oedd ar gefn ein mellten;
i ditw’r Tour rhowch fraint hen,
i’w foli rhowch Wisg Felen.
Carwyn Eckley – 9.5
Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘bae’
Caernarfon
Chwarae'r bae yw taflu baw
 dwst o'r conglau distaw.
Llion Jones - 9
Dros yr Aber
Yn lle broc ac oel dociau,
bybli i bawb o bobl y bae.
Carwyn Eckley - 9
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Peth da, medden’ nhw, yw arbrofi’
Caernarfon
Peth da, medden nhw, yw arbrofi
drwy ferwi y Chock efo’r Novi
ond dwi’n barod i redeg -
mae’r canllawiau yn Rwsieg
a’r cemeg yn drech na fy stôf i!
Ifan Prys – 8.5
Dros yr Aber
Yn arddull mwnci gyda’r ystumiau cyfatebol
Peth da, medden nhw, yw arbrofi
Felly croesais fy limrig â mwnci.
Hw hw hw hw ha
Hw hw hw hw ha
Hw hw hw hw ha ha ha hi-hi.
Iwan Rhys – 9
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Ogof
Caernarfon
Roedd hi’n braf wrth yr afon;
treiddiai’r haul at oerddwr hon
drwy’r dail; pelydrai ei d诺r
yn hardd yn y llif eurddwr.
Oedd, roedd haf yn yr afon
ond draw o dan raeadr hon
yr aethom, hithau’n ffromi
yn llen wen o’n blaenau ni.
Canol haf fel gaeaf gwyn
a dasgai a’r plu’n disgyn
o wybren heulwen yr ha’
yn n诺r oer Sgwd yr Eira.
Ifan Prys - 10
Dros yr Aber
Mae’n dawel, mae fel seler
a rasys hwyr cwrs y sêr
sy’n ein dwyn dros ewin du
o draeth i lygadrythu.
Rhidyll tywyll ydi’r to:
oes arall yn ceseirio
ei chawod lwch hyd y lôn.
Ac ar waliau’r gorwelion,
goroesi y mae grisial
aeonau dwfn, a dwi’n dal
yng ngwres dy law. Ein hawyr
sy’ mor faith, a’n nos mor fyr.
Rhys Iorwerth – 10
Triban beddargraff cynrychiolydd cwmni gwyliau
Caernarfon
Fe’i lladdwyd gan Ffrits Grwber
 chymorth Jason Bytler,
Wrth atal ffrwgwd rhyngddynt hwy
Dros bwy oedd biau’r deck-chair.
Emlyn Gomer – 8.5
Dros yr Aber
Â’i glipfwrdd, roedd o ddifrif,
yn cyfarch pawb, a’u cyfrif,
a’i dâl comisiwn nawr, er parch,
yw arch sy’n ôl-incliwsif.
Rhys Iorwerth – 8
Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Y Barbeciw
Caernarfon
Caf luniaeth amser te, mor hyfryd yw
cael ffidan helaeth iawn ar farbeciw;
bob tro y gwelaf haul rwyf allan yn yr ar’,
yn llosgi byrgers bîff a wings cyw iar.
A phrocar haearn hir sydd yn fy llaw,
mae’n handi er mwyn cadw’r cacwn draw:
mae mwg yn llenwi ’ngwallt, a’r cig yn ddu ei liw,
ond fi di’r boi sy’n dallt y barbeciw.
Mi gwciaf Alun Cairns ar farbeciw,
ei roid o ar y tân a’i rostio’n fyw,
ei holl ymgreinio blin a losgaf yn y gwres
a dathlu efo gwin a mayonnaise.
Ei ludw eirias sydd yn olau gwir,
ei ddryswch mwyaf, mae yn drefen glir;
daw clwyddau’r Tori bach yn fuan oll i ben:
bydd synnu wrth gofio’r rhain tu draw i’r llen.
Geraint Lovgreen – 9.5
Dros yr Aber
(yn darllen gwaith Crwys)
Gydag ymyl troetffordd gul wrth ochr y tanc nwy
Gosodais i fy marbeciw. Gwahoddwyd pawb o'r plwy.
Sosej fach gan hwn a hon yn awr ac yn y man;
Fel yna'n ddigon syml y daeth y barbeciw i'm rhan.
Rhyw anlwc mawr a gaed bob tro, paham ni wyddwn i,
Ond taerwn i na fethai dim a gwciai fy llaw i.
Byrgers syml pobl dlawd oeddynt, bron bob un,
A llysiau llipa'r salad oedd yn gyflym fynd yn h欧n.
Dacw nhw: y stecen fach, kebab a choes cyw iâr,
Golwyth oen a thaten bob, a phecyn baps o Spar.
Dwy neu dair selsigen ddu a'u canol dal yn c诺l
A'r cyfan yn y barbeciw yng ngofal rhyw hen ff诺l.
Ond ar fy llw, tra'r oeddwn i ar ganol bwydo'r criw,
Fe welais ddau gi bach yn mynd drwy fflamau'r barbeciw.
A dyma nhw yn neidio ac yn brathu’r beipen nwy,
A briw i'm bro fu'r ffrwydrad mawr a losgodd aeliau'r plwy.
Roedd pawb yn wyllt o golli'u blew, a'u pennau oll yn noeth.
Sut gwyddwn i, y cogydd hy, mor beryg yw c诺n poeth?
Iwan Rhys – 9.5
Llinell ar y pryd: Gaerdydd rwy’n dy garu di
Caernarfon
Am encil gyda’r mwnci
Gaerdydd rwy’n dy garu di
0.5
Dros yr Aber
Tra bod er mod i’n Gofi
Gaerdydd rwy’n dy garu di
0.5
Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Bwced a Rhaw
Caernarfon
- “Cofiaf y diwrnod pwced-heulog
pan genaist wrth godi dy gastell
a rhofio’r foment fel tywod tamp,
cyn i’r waliau ddechrau rhedeg.”
- “Coch fy rhaw dwi’n ei gofio
a minnau’n chwibanu
wrth agor ffosydd hen nodiant
a’r cymylau’n hel.”
- “A’r tywod barus yn sugno
pob pwcedaid gennym wedyn!
Cyn i’r glaw wagio’r traeth
a sgwrio’r alawon.”
***
Mae’r clociau’n toddi, a hanner can ha’
wedi mynd dros ein pennau,
nes ein troi’n genhedlaeth gerdd dant;
yn ail-ganu ein hatgofion
ar geinciau’r dychymyg,
gan geisio eu rhannu â’n plant…
Ifor ap Glyn – 9.5
Dros yr Aber
Daeth yma wedi’i lapio mewn eli haul
a swsus mam a dad yn frychni drosto,
ac yn ara’ bach, dysgodd dorchi
ei lewys stremps hufen iâ,
i dyllu’n ddygn
a gwaredu gwymon dan draed.
Saernïodd gaer dan lygad yr haul,
creodd dwneli yn ymestyn i’r môr,
lluniodd dyrrau i edrych tua’r gorwel.
Ac wrth hel yr halen o gorneli’r paced crisps,
dychmygodd ddydd cynnau tân
a llenwi’r muriau â hwiangerddi.
Ond rhwng nos a gwawr a glaw mân,
ergydiodd y llanw;
diflannodd fel y ffis o’r botel lemonêd
a dim ond y gwylanod yn crio o’i ôl.
Marged Tudur – 10
Englyn: Mynedfa
Caernarfon
Y rhewynt ddaw’n gareiau trwy draffig
tew’r draffordd at lannau
Hafren gan siffrwd enwau
gormeswyr y bur hoff bau.
Ifan Prys – 9.5
Dros yr Aber
Os oedd y stad a’i hadwy hi ar gau,
mae’r giât anringadwy
wedi mynd; cei gerdded mwy
i dir iaith sy’n ddi-drothwy.
Carwyn Eckley – 9