Main content

Cerddi Rownd 2

Trydargerdd: Neges i Droliaid

Penllyn

Chychwi ellyllod hyll y fall
Sy’n corddi’r dyfroedd yn ddi-ball,
Gwyliwch i’r llif, wrth fynd o’i go,
Eich llyncu yn ei byllau tro.

Beryl Griffiths - 8

Caernarfon

Llechwch yng nghysgod y bont oddi fry,
Heb gwmni na chysur ond crechwen:
Ninnau dan ganu a’i croeswn yn llu,
Heb ofni pelydrau yr heulwen.

Emlyn Gomer – 8.5

Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘hel’

Penllyn

Hel a didol diadell
Yw camp beic yn y cwm pell.

Dylan Davies - 8

Caernarfon

Gwaith diddan i farman fydd
hel a didol diodydd.

Ifan Prys - 8

Limrig yn cynnwys y llinell ‘Peth peryg yw colli cysylltiad’

Penllyn

Gwneud naid parash诺t oedd y bwriad
Gan Blodwen, fy annwyl gyn gariad.
O bell roedd y rhaff
Yn edrych yn saff.
Peth peryg yw colli cysylltiad.

Aled Jones – 8.5

Caernarfon

Ar wyliau, fe decstiais fy nghariad
(Sy’n Saesnes), i ddatgan fy nheimlad.
Ond y neges gath Fleur
Oedd “Wish you were her”:
Peth peryg yw colli cysylltiad.

Emlyn Gomer – 8.5

Cerdd ar fesur yr englyn penfyr (dim mwy na 15 llinell): Amddiffynfa

Penllyn

Yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau bu Dafydd ap Siancyn ar herw yn y mynydd-dir rhwng Betws-y-coed a Llanrwst; yn ôl y bardd Tudur Penllyn, 'dy gastell ydyw'r gelli, / derw dôl yw dy dyrau di'.

Ar wegil hir y graig las y codaist,
rhwng y coed, dy ddinas;
huliaist y drain yn balas

i'th ddynion; gwnest garthenni o'r blodau
a rhoi blawd i'w porthi;
fe roddwyd aur i'th feirdd di.

A ddoe, i dref gyntefig y mynydd
drwy'r meinwynt cythreulig
mi es, ac wrth chwarae mig

â hanes, gwelais, ennyd, dy ddinas:
dy ddynion yn alltud
a'th goed wedi'u noethi i gyd,

a chastell draw'n y pellter - yn olau,
yn olau bob amser,
lle mae byw yn llwm o bêr.

Gruffudd Antur - 10

Caernarfon

Yn dy gaer â’r drws ‘di’i gau, o’r gadair
hawdd ergydio geiriau,
ryfelwr yr Afalau.

Â’r byd i gyd yn dy gôl, y mae nawdd
mewn awch ymfflamychol
i ddifodi’n ddefodol.

Sgwario o hyd tu ôl i sgrîn yw dy ran,
gyda’r hwyr rwyt frenin
llawn hyder hyll yn y drin.

Giaffar mewn byd digyffwrdd o unig
yn tanio bysellfwrdd
o’th ffau cyn saethu i ffwrdd...

Ond agor wna’r drws fory, yn dy ofn
wnei di fentro camu
y tu hwnt i drothwy’r t欧?

Llion Jones – 10

Pennill Mawl neu Ddychan: Comisiynwyr

Penllyn

Ymhell yn ôl yn nyddiau Moses
Fe gaed sawl pla yn ôl yr hanes
Ond nawr mae pla o fath gwahanol
Wedi taro, do, yn ein canol,
Pa bynnag faes yr ewch chi iddo
Bydd un o’r rhain yn goruchwylio,
Ac os rhowch gam dros y terfynau
Bydd rhain yn si诺r o’ch tynnu’n g’riau.

Beryl Griffiths - 8

Caernarfon

Maen nhw’n gwbod be fyddi di’n licio,
cyn ’ti hyd’noed wbod dy hunan,
fel ‘Pro-selebriti llosgach’;
‘Tippit’; neu ‘Pimp my gwylan’;
‘Gwersi rhegi i Anti Pegi’;
neu ‘Hip Op hefo Gwanas’;
ond paid â disgwyl y cei di fawr ddim
sydd yn sôn am ein celf neu ein hanas...

Ifor ap Glyn – 8.5

Cân ysgafn : Ymweliad Addysgol

Penllyn

Roedd Gerti ar drothwy yr hanner cant ac yn bryd iddi feddwl am ddechrau cael plant
Yn anffodus i Gerti, doedd ganddi ‘run dyn ac mae’n anodd cael plant ar eich pen eich hun.
Roedd ffilmiau “i ddynion...” yn sinema’r dre a meddyliodd Gerti – “wel,….. dyna y lle!”
Ffilm am “Ifor Williams, - y dyddiau cynnar” ac edrychai ymlaen i weld y.....trelar!
Roedd neuadd y dre yn llawn i’r ymylon pan fentrodd Gerti i ganol y dynion,
Ac wedi blynyddoedd o fyw yn ei newyn fe deimlai saith mlynedd o lawnder yn cychwyn.
Yn ystod yr egwyl roedd rhai o’r dynion yn gwerthu olew at wahanol anghenion
Fe brynodd Gerti rhyw oil “Three in One” i’w rwbio “pe byddai ei choesau yn wan”.
Roedd yno un llencyn oedd wir at ei dant, fe ddreifiai o lori, oedd yn cario .....PLANT!
Tra roedd Gerti yn meddwl am fistimanars fe gynhaliai o sgwrs am wahanol sbanars!
Ond, wir i chi fe newidiodd eu byd cyn hir yr oedd ganddynt dri bychan mewn crud.
Y tri yn dyst fod yr oel “Three in One” yn gweithio, o’i rwbio ar goesau gwan.
“Wel wir”, meddai’r fydwraig wrth Gerti a gwên “Oel Three in One a chael tri babi clên,
Os felly, un cyngor a rof i chwi Gerti: peidiwch â rhwbio mewn WD40!”

Aled Jones - 9

Caernarfon

Dwi ’di bod ar ymweliad â’r Taj Mahal,
Dwi ’di bod ar ymweliad â’r Pab,
Ond fy ymweliad mwyaf addysgol erioed
oedd tudalen Facebook y mab.

Mi biciais i mewn un nos Sadwrn hwyr
pan oedd dim byd ymlaen ar y bocs,
a’i weld o mewn parti mewn t欧 yng Nghaerdydd
yn noethlymun heblaw am ei socs.

ces gip ar ryw fideo o’i drip o i Rhyl
a dysgais nad ydyw yn sant.
Ro’n i’n dyst i weithredoedd na ddylid eu dangos
heb rybudd “anaddas i blant”.

Ma’i fywyd yn un rhes o antics di-chwaeth
fyddai’n sicr o siomi ei fam,
Ond dwi’m angen gweld y dystiolaeth o hyn
na gwybod be nath o efo’r jam.

Y mae yn y byd ’ma rhwng geni a’r bedd
ambell i fan lle nad af,
ac un o’r rhai hynny heb os erbyn hyn
yw tudalen Facebook y mab.

Geraint Lovgreen – 8.5

Ateb llinell ar y pryd: Draw ar ras wyllt yr es i

Penllyn

Neges fer gan wraig Ceri
Draw ar ras wyllt yr es i

0.5

Caernarfon

Draw ar ras wyllt yr es i
I sgwyrtio oel dros Gerti

Telyneg: Digon

Penllyn

Dim ond pêl
yn bownsio'n hurt
i gornel gyfyng,
a minnau'n dweud
na chaet ti'r un arall
i'w gollwng yn ddi-ofal
o gledr dy law fechan.
Cyn tosturio - a gwthio eto
ddarn o arian i'r slot,
a'i chael
yn grwn,
ddi-lychwin.

Dim ond pêl.
'Dal hi'n dynn - paid gollwng.'
A thithau'n ei hanwesu
yn cau dy ddwy law
yn dynn amdani.
A minnau'n gorfod edrych draw,
rhag gweld
pwysau'r cyfrifoldeb
yn llenwi dy lygaid.

Haf Llewelyn – 9.5

Caernarfon

I gyfeiliant guzheng ar eu tâp tai chi
maen nhw'n herio'r oerfel â hen hen egni,
wedi'u lapio fel nionod, a'u breichiau'n tonni.

Ac ar y palmant goleuedig,
fel 'garan wen', maen nhw'n 'lledu'u hadenydd';
maen nhw'n 'rhannu mwng y ceffyl gwyllt'.

Mae eu 'paffio meddal' yn herio trem
y mannequins siacedog, sy'n syllu'n ddi-glem
allan i'r nos, heb ddeall

nad yn eu goleuni nhw
mae'r gwerthoedd mwyaf llachar;
a bod angen tywyllwch

i ganfod y sêr,
a'u symud cain, trwsiadus,
(er gwaetha'u dillad blêr).

Ifor ap Glyn – 9.5

Englyn: Bil

Penllyn

Diniwed fel yn Eden – ni wyddem,
Pan oeddwn yn fachgen,
Faint y thrill gâi Bil ‘fo Ben
A weed tu ôl i’r goeden.

Alwyn Sion - 9

Caernarfon

Syria, dwi wir yn sori - i mi roi
fy mhres at y trethi
brynodd hunllef eich trefi.
Na, nid yn fy enw i!

Ifan Prys -9.5

Penllyn – 70.5
Caernarfon - 71