Cerddi Rownd 4
Trydargerdd: Cais am iawndal
Tir Iarll
Os Duw a roddodd Gymru
Am ddim, a’r mwynder ynddi,
Mae arno ddylen ddi-ymdroi
Am roi’n cymdogion inni.
Emyr Davies - 8
Dros yr Aber
Prin grafais baent, prin sgriffiais rwd;
prin farciais racsyn car y cwd.
Yr anffawd yw, mae'n un o'r sect
sy'n hoff o ffonio Claims Direct.
Marged Tudur – 8.5
Cwpled caeth ar yr odl ‘il’
Tir Iarll
Canaf i’r pennawd cynnil
A garwn weld: ‘Lloeger, nil.’
Aneirin Karadog – 8.5
Dros yr Aber
Cryfhau ar ôl cweiriau fil
yw tueddiad crwt eiddil.
Carwyn Eckley – 9
Limrig yn cynnwys: Rhyw ddyrnaid o bobol oedd yno
Tir Iarll
Rhyw ddyrnaid o bobol oedd yno
Yn ffeinal y ffwtbol yn gwylio,
A hithau’n nos sul,
Doedd dim gobaith mul
A Thalwrn y beirdd ar y radio!
Aneirin Karadog - 9
Dros yr Aber
Er bod dros bum cant wedi gwrando
ar ddechrau fy unawd soprano,
er rhoi iddo f’enaid
pan ’gorais fy llygaid
rhyw ddyrnaid o bobol oedd yno.
Rhys Iorwerth – 8.5
Hir-a-Thoddaid yn cynnwys y lllinell ‘Rwy’n dweud yr enw a daw ar unwaith’.
Tir Iarll
Tre-saith
Rwy’n dweud yr enw a daw ar unwaith
Y tywod a’r hwyl ‘da’r teid yr eilwaith;
Mae’r dŵr yn cosi’r clogwyni ganwaith -
Y llanw am orffen llun amherffaith.
Dwy erw sydd o Dre-saith a’i chreigiau:
Yno caf innau weld y cyfanwaith.
Emyr Davies – 9.5
Dros yr Aber
Dad
Wedi gwae ac amau ei fynd ymaith
cyn ei gweld hi’n anos fesul noswaith,
gwn yn dawel, er yr oerfel hirfaith,
na wylaf eiliad na’i gwelaf eilwaith.
’R’yn ni’n dau ar yr un daith, ar fy llw;
rwy’n dweud yr enw a daw ar unwaith.
Carwyn Eckley - 10
Pennill Ymson wrth brynu tocyn raffl
Tir Iarll
O’n i’n meddwl mod i’n deall cerdd dafod,
felly des i i’r talwrn am drip,
ond fe’m lloriwyd gan ddyn yn y cyntedd
a fynnai gael 2 bunt am strip.
Mererid Hopwood – 8.5
Dros yr Aber
Nid wy'n gofyn gwobrau moethus,
aur y byd na'r kitchen sink.
Gofyn wyf am docyn lwcus,
un dau pedwar ar y pinc.
Tocyn pinc yn drech na'r gweddill,
tecach yw a dyma pam:
dim ond tocyn pinc all ennill,
ennill gwin ac ennill jam.
Iwan Rhys – 8.5
Cân Ysgafn: Ymddeoliad Cynnar
Tir Iarll
Yr arferiad ers blynyddoedd oedd ymddeol mewn oedran teg,
sef chwe deg pump i ddynion, a menywod yn chwe deg.
Ond gwyddom ninnau bellach mai lwcus oeddent hwy,
a bod oedran ymddeoliad bellach dwtsh yn fwy.
Bydd athrawon y dyfodol yn gweithio hyd at gant,
Er y byddant wedi colli eu marblis, nerth a’u chwant.
Fe fydd Meurynod hefyd yn cyrraedd yr un dim dim,
ond fydd eu groes o gyswllt na’r fantach cweit mor chwim.
Fe fydd peldroedwyr hwythau yn gorfod mynd i’r oed,
Ond ’na fo, fe fu tîm Lerpwl yn chwarae felly ’rioed.
A chant fydd holl gantorion ein corau mawr di ri,
dim ond un aiff heibio hynny, sef arweinydd Ar Ôl Tri.
Yr un oed fydd meddygon yn yr alwad yn parhau,
a chyfartaledd oedran eu cleifion dipyn iau.
A chant fydd ein llyfrgellwyr yn ymddeol, mawr eu camp,
Yn treulio’i diwrnod olaf yn chwilio’r bocs i’r stamp.
Fe fydd holl feysydd parcio, pob lay-by a phob lôn
yn llawn o sgwters henoed o Fynwy hyd at Fôn.
Er mwyn osgoi y broblem i’r genhedlaeth ddydd a ddaw,
yr ateb perffaith fyddai - ymddeol yn naw deg naw.
Tudur Dylan – 9
Dros yr Aber
Rwy’n hunangyflogedig, fel y soniais i sawl tro,
Ond rwy wedi penderfynu rhoi’r ffidil yn y to.
Fe fûm yn gweithio’n ddyfal ers blwyddyn fach neu ddwy
Er mwyn cael prynu cwrw (a thalu’r biliau nwy).
Rwy wedi cael llond bola ar godi’n gynnar iawn.
Pa ddiben codi’r bore pan ellid codi’r pnawn?
A gweithio ar ôl cinio trwm sy’n galw am ryw drwbl
Ac felly rhaid yw gofyn, pa ddiben gweithio o gwbl?
Anfonais e-bost ataf a ddwedai “Annwyl Giaffar,
Rwyf eisiau cymryd hunanymddeoliad cynnar.”
Ond cefais ateb gennyf yn dweud bod yma densiwn
A allai beri trafferth, sef diffyg hunanbensiwn.
Es ati’n glou i gyfri faint sy’n fy mhensiwn pot:
Band lastig, hanner marblen, a beiro. Smo fe’n lot.
Nid oes undyn yn y byd all fyw ar awyr iach
Ac felly, er ymddeol, fe weithiaf dipyn bach.
Ryw awr fan hyn ac awr fan draw nes bod y bore’n llawn,
A gweithio ambell jobyn rhwng un a chwech yn pnawn.
Ond wir, rwy’n gweithio gormod, ac felly “Annwyl Giaffar,
A gaf i ofyn am ddad-hunanymddeoliad cynnar?”
Iwan Rhys – 9.5
Ateb Llinell ar y Pryd: Mae’n rhy dwym yn oriau’r dydd
Tir Iarll
Mae’n rhy dwym yn oriau’r dydd
I geilliau’r llyfrgellydd.
Dros yr Aber
Mae’n rhy dwym yn oriau’r dydd
A beunos ar obennydd
0.5
Telyneg: Nerth
Ym murmur ac ym mharabl
di-eiriau dy stori,
rhyngom bwriwyd yr angor sy’n ddeall
ac ni all neb na dim dan haul
ei chodi hi,
ac ni ddaw dydd traul i’w haearn tryloyw
na rhwd i’w rhaff;
ond mi wn,
gwn yn saff,
fel pob tad a mam,
y daw awr ei dirwyn,
am mai cariad yw dweud - ‘cer di’;
a rywfodd, bryd hynny,
pan fyddaf i’n gryfach,
wele fi’n gadael fynd.
Mererid Hopwood – 9.5
Dros yr Aber
Ger adwy’r tÅ·, fe’i gwyliaf
ar ei gliniau’n gwaredu chwyn
ac yn codi briallu o’u crud i’w gwely,
eu lapio’n dyner dan gwrlid y border
a dyfrio ei swsus nos da drostynt.
Cymer ei gwynt ati wrth i weddi
ddenig o dwll dan grisiau ei chalon
a loetran ar ei gwefus.
Mae’n fy ngweld ac yn goglais gwên,
er gwybod bod y pridd yn llithro
fel ei phlant drwy’i dwylo.
Marged Tudur – 9.5
Englyn: Llinell
Tir Iarll
Mapiau strategaeth rhyfel y Cadfridog Haig
Mae’r llinell dwtsh ymhellach - a ninnau’n
ennill, ond faint elwach
yr ennill, tra cyfrinach
celanedd y fodfedd fach?
Tudur Dylan - 10
Dros yr Aber
Hoff iawn yw hwn o’m ffin i, yn pitian
patian â’i ddireidi
dwy oed i’w llygadu hi
a chreu rheswm i’w chroesi.
Rhys Iorwerth – 10