Cyfle i fod yn seren ar y we!
Yn dilyn llwyddiant ei hymweliad ag Eisteddfod yr urdd y llynedd bydd y rhaglen deledu Mosgito yno i bigo diddordeb pobl ifainc yng Nghaerdydd eleni.
"Bydd 'na lond pabell o hwyl gyda Mosgito ar faes Eisteddfod yr Urdd ym Mae Caerdydd!" yw'r addewid.
bydd cyfle i gwrdd â'r criw a chael tynnu llun gyda nhw.
Ar ben hynny bydd tips colur a ffasiwn neu gellir jyst ymlacio a joio yng nghwmni Erin, Ifan a Trystan.
"Bydd cyfle i fod yn seren ar y we hefyd!" meddan nhw.
Ac os oes perthynas neu ffrind yn cystadlu gellir anfon 'Negeseuon pob lwc' atyn nhw ar negesfwrdd Mosgito!
- Anfon ebost at Mosgito ac efallai y daw hynny â lwc dda iddyn nhw!
- Gwefan Mosgito
Straeon heddiw
- 'Ysgoloriaeth dros baned' - Bryn Terfel
- Agor gyda phasiant meithrin
- Araith Aled Edwards
- Caryl - llywydd dydd Llun
- Cyngerdd Deng-Mlwyddiant Ysgoloriaeth Bryn Terfel
- Dau am bris un ddydd Sadwrn
- Dau lywydd a jôcs
- Mosgito yn y Steddfod
- Prif gyfansoddwr - y beirniad eisiau gwrando a gwrando
- Seremoni yn tynnu gwahanol gredoau at ei gilydd
- Yr Urdd: Rêl sioe Mickey Mouse - am ddiwrnod!