麻豆社

Araith Aled Edwards

Aled Edwards

Saith Mlynedd a Phedwar Ugain yn 脭l

Anerchiad Aled Edwards yn ystod dathliad aml ffydd agoriadol Eisteddfod yr Urdd Caerdydd, ddydd Sul, Mai 24, 2009.

Saith mlynedd a phedwar ugain yn 么l, fe feiddiodd Syr Ifan ab Owen Edwards herio ieuenctid cenedl ei gyfnod drwy gyfrwng poblogaidd Cymru'r Plant.

Y mae ei eiriau yn cynnig ategiad cadarn o'r gallu cynhenid hwnnw yn y Cymry, ar ein gorau, i oroesi drwy fod yn arloesol. Dyma ei eiriau syml:

"Beth wnawn ni blant Cymru, i gadw'r iaith yn fyw? Sefydlwn Urdd newydd a cheisiwn gael pob plentyn dan ddeunaw i ymuno 芒 ni."

O'r cychwyn cynnar hwn, cafwyd dyhead ar ran Syr Ifan i ymestyn yr Urdd i berthnasedd rhyngwladol.

Yn yr un flwyddyn, dechreuwyd anfon negeseuon o ewyllys da i genhedloedd y byd, a thros ddeng mlynedd yn ddiweddarach, rhoddwyd arwyddair arbennig i'r Urdd a gr毛wyd gan Syr Ifan: 'dros Gymru, cyd-ddyn a Christ'.

Safwn yn yr etifeddiaeth hon fel 'plant Cymru' heddiw. Erbyn hyn, y mae'r mudiad a ddechreuodd gyda 700 o blant yn hawlio teyrngarwch 50,000 o aelodau. Y mae un rhan o dair o'r holl siaradwyr Cymraeg rhwng 8 ac 18 oed yn aelodau.

Gan danlinellu'r hyn y gallwn ni fel Cymry fod ar ein gorau, a'n mwyaf arloesol, y mae 30% o'r holl aelodau yn dweud eu bod yn ddysgwyr. Rydym yn parhau heddiw felly i oroesi drwy fod yn arloesol ac yn llwyddo i ail ddiffinio ein hunain o genhedlaeth i genhedlaeth.

O genedl i genedl

Y mae gallu'r arloesol i oresgyn hefyd yn neidio o genedl i genedl. Yn yr un flwyddyn y sefydlodd Syr Ifan yr Urdd, fe aeth Americanwyr yn Washington DC i gysegru cofeb genedlaethol i'r Arlywydd Abraham Lincoln.

O ardaloedd, nid nepell o Lanuwchllyn, fe adawodd cyndadau Abraham Lincoln am Pennsylvania er mwyn osgoi erledigaeth grefyddol a chreu byd gwell mewn gwlad newydd.

Bryd hynny, fe aeth Cristnogion ati i wneud niwed i Gristnogion eraill yn enw Crist - hyd yn oed ym Meirionnydd.

Yn nhermau areithio, caiff Lincoln ei gofio'n bennaf am ei anerchiad dau funud arloesol ar faes y gad yn Gettysburg, lle y collodd dros 50,000 o fechgyn ieuanc eu bywydau dros dri diwrnod gwaedlyd - cyfanrwydd aelodaeth yr Urdd heddiw.

William D Howells

Ystadegyn diystyr braidd yw 50,000: enw penodol yw'r un o eiddo William D Howells. Diolch i waith ymchwil Jerry Hunter yn Llwch Cenhedloedd y mae rhai o'r enwau a'u straeon bellach ar gof.

William D. Howells oedd y Cymro cyntaf i ymuno 芒'r gatrawd gyntaf i gael ei chyflwyno i Abraham Lincoln ar ddechrau'r rhyfel gartref.

Fe gafodd William D. Howells ei glwyfo ar ail ddiwrnod brwydr fawr Gettysburg yn llenwi bwlch yn erbyn rebels Alabama.

Nid nepell ohono, diwrnod yn gynharach, fe gafodd Cymro ifanc arall deunaw oed, Thomas P. Jones o'r Pennsylvania Bucktails, ei glwyfo'n ddifrifol. Bu farw o'i glwyfau ymhen mis: bu farw dros ryddid cyd-ddynion du eu croen mewn taleithiau fel Alabama.

Fe ddechreuodd Lincoln ei araith drwy gofio rhif a oedd o bwys personol iddo. Fel y gwnawn ni heddiw, fe edrychodd yn 么l yn union saith mlynedd a phedwar ugain gan ynganu'r geiriau anfarwol hynny:

"Saith a phedwar ugain mlynedd yn 么l fe ddygodd ein cyndadau genedl newydd i fodolaeth ar y cyfandir hwn, wedi ei chenhedlu mewn rhyddid ac wedi ei chysegru i'r cydsyniad bod pawb wedi eu creu yn gyfartal."

Martin Luther King

Yn wyneb un anghyfartaledd a barhaodd am ddegawdau wedi hynny, fe aeth Martin Luther King yn 1963 i sefyll wrth draed cofeb Abraham Lincoln i fynnu newid byd drwy fod yn arloesol huawdl unwaith eto. Fe hoeliodd ei sylw yn arbennig ar blant Alabama:

"Mae gen i freuddwyd y bydd talaith Alabama, ryw ddydd, talaith sydd 芒'i llywodraethwr ar hyn o bryd yn cyhoeddi geiriau o warth a gwawd, y newidir hon i fod yn fan lle y bydd bechgyn a merched duon yn abl i gydio yn llaw bechgyn a marched gwynion a chyd-gerdded ar yr heolydd. Mae gen i freuddwyd heddiw."

Yn ystod etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau'r llynedd, gwelwyd un o funudau eiconig hanes ein cyfnod ar waith. O lefydd gwahanol ac ar funudau gwahanol, fe aeth y plant - Martin Luther King III a Peggy Wallace Kennedy, merch y llywodraethwr hwnnw o Alabama - i fegis cydio llaw a chyd-gerdded ar yr un heolydd gwleidyddol drwy ymgyrchu gyda'i gilydd dros ddyn du ei groen o'r enw Barack Hussein Obama.

Ymysg y dathlu a gafwyd y noson honno yn America, fe aeth rhai yn nhawelwch nos i oleuo cannwyll ger cofeb Martin Luther King ac i gofio, er i'r arloesol oroesi, bu raid i rai dalu'r pris dros ryddid a chyd-gerdded y plant.

Rhyfeddod i mi oedd cael bod yn ardal ddu ei chroen Oakland yn San Francisco ar noson yr etholiad a gweld mam ddu ei chroen yn cymryd ei merch uwch bafin concrit oer a dweud yn annwyl wrthi: "Dwi am i ti gofio heno."

Y noson honno, ymysg y llawenhau, fe gafwyd sawl deigryn dros y rhai a dalodd y pris - yn arbennig Martin Luther King. Fe es yn dawel yng nghanol y cyfan at yr un pafin oer 芒'r fam a'i merch, fel un o etifeddion Syr Ifan, i gofio rhywun arall a dalodd y pris - rhywun nad oeddwn i na neb arall yno yn Oakland yn ei adnabod - un Thomas P Jones, ddeunaw oed a gollodd ei fywyd yn Gettysburg.

Pa le safwn ni?

Pa le felly y safwn ni, 'blant Cymru' heddiw, ddeng mlynedd ers dyfodiad datganoli a saith mlynedd a phedwar ugain ers i Syr Ifan ynganu ei her ar i ni gadw iaith yn fyw a symud yn adeiladol o hynny i garu Cymru, cyd-ddyn a Christ?

Camgymeriad fyddai tybio taw rhywbeth a oedd yn ymwneud yn unig ag iaith oedd her Syr Ifan. Fe ddysgodd sawl un ohonnym ni drwy'r llyfrau, yr eisteddfodau a'r gwersylloedd, wirionedd na chafodd ei ysgrifennu na'i ynganu:

Plant amgylchedd ydyw geiriau.
Llefydd i eiriau ddysgu chwarae ydyw teuluoedd, cymunedau a chenhedloedd.
Llefydd i eiriau ganfod eu bod wedi tyfu'n brydferth yw ymrwymiadau i gyd-ddyn, y gwahanol a'r newydd yn ein plith.
Llefydd i eiriau ganu'n braf yw ein credoau, ein celfyddyd a'n diwylliannau cain.
O golli amgylchedd, fe gollwn y geiriau: o golli'r geiriau, fe gollwn y cyfan.

Cyhoeddi adroddiad

Gyda hyn, fe fydd adroddiad o dan nawdd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn cael ei gyhoeddi. Efallai ei fod yn cynnig awgrymiadau ynghylch pwy yn union yw 'plant Cymru' heddiw.

O edrych yn 么l ar ddeng mlynedd cyntaf datganoli, gan nodi methiannau, ceir tystiolaeth taw un o gyferbyniadau mwyaf trawiadol y cyfnod fu ymrwymiad 'plant Cymru' i hyrwyddo cydraddoldebau a hawliau dynol - yn arbennig yng nghyswllt Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant.

Nodir hefyd i gymunedau ffydd ddod at ei gilydd mewn ffordd newydd ac yn drawiadol, fe roddwyd mwy o bwyslais ar gynnwys ffoaduriaid yn hytrach na'u hintigreiddio.

Y mae newid hinsawdd yn creu ffoaduriaid - ceir brwydro ffyrnig yn arbennig ynghylch d诺r. Dengys y pethau olaf hyn ein bod yn parhau yn 'blant Cymru' Syr Ifan - ond ar newydd wedd.

Yn blant Cymru

Ceir arwyddion cadarn y gallwn gydag angerdd newydd i grisialu darlun clir o bwy y gallwn ni fod erbyn hyn, ar ein gorau - 'blant Cymru':
Yn genedl amrywiol gyfoes sydd am gadw geiriau iaith, nid fel gwrthrychau ynddyn nhw eu hunain, ond fel modd i ddweud pethau da wrth ein gilydd, wrth genhedloedd eraill ac wrth ein cyd-ddynion ac fel y cofiwn heddiw, wrth y greadigaeth a roddwyd i'n gofal.

Saith mlynedd a phedwar ugain yn ddiweddarach... dyma beth wnawn ni heddiw, 'blant Cymru', i gadw iaith yn fyw.
Ac fe wahoddwn genedl yng nghyfanrwydd iach ei holl amrywiaeth, i ymuno 芒 ni.


麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.