Canolfan i gan mil o eisteddfodwyr
Disgwylir y bydd bron i gan mil o bobl yn ymweld ag Eisteddfod yr Urdd yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd rhwng Mai 25 a Mai 30 2009.
Ac yn ystod yr wythnos bydd 15,000 o gystadleuwyr yn ymgiprys am anrhydeddau gan gynnwys pum gwobr a fydd yn ganolbwynt pob diwrnod o'r Å´yl; Tlws y cerddor ddydd Llun, Medal y Dysgwr ddydd Mawrth, Tlws Drama ddydd Mercher, Cadair ddydd Iau a Choron ddydd Gwener.
Am yr eildro yn hanes y mudiad Canolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd fydd canolbwynt y gweithgareddau gyda stondinau ag arddangosfeydd gerllaw a'r arddangosfa Gelf, Dylunio a Thechnoleg yn adeilad y Senedd - nad oedd wedi ei adeiladu pan ymwelodd yr Eisteddfod a Chaerdydd ddiwethaf yn 2005.