Â鶹Éç

Cyngerdd Deng-Mlwyddiant Ysgoloriaeth Bryn Terfel

Y cyngerdd

Dathlwyd degfed pen-blwydd Ysgoloriaeth Bryn Terfel Urdd Gobaith Cymru gyda chyngerdd mawreddog yn Theatr Donald Gordon, Canolfan y Mileniwm, i agor Eisteddfod yr Urdd Bae Caerdydd 2009.

Ddeng mlynedd wedi i'r bas-bariton enwog o Bant Glas lansio'r ysgoloriaeth yn Eisteddfod yr Urdd Llyn ac Eifionydd - ysgoloriaeth gelfyddydol sydd wedi ei hanelu at ddatblygu a meithrin talent ifanc, Gymreig - rhannodd Bryn Terfel lwyfan gyda rhai o gyn-enillwyr y gystadleuaeth, yn ogystal â'r actor dawnus, Daniel Evans.

Wrth egluro beth oedd ei ysgogiad i gynnig yr ysgoloriaeth, dywedodd Bryn Terfel: "Roeddwn yn awyddus i ddatblygu ysgoloriaeth fyddai'n galluogi pobl ifanc i ddatblygu eu talent a chynyddu sgiliau fwyfwy. Rwy'n credu fod yr ysgoloriaeth wedi cyflawni hyn ac rwy'n gobeithio y bydd yn parhau ymhell i'r dyfodol."

Roedd y dalent sydd gan gyn-enillwyr y gystadleuaeth yn amlwg i bawb ar lwyfan mawr Theatr Donald Gordon ar y noson, gyda'r perfformiadau wedi eu plethu mewn cynhyrchiad proffesiynol, oedd yn gwbwl teilwng o fod ar y fath lwyfan.

Roedd wyth o gyn-enillwyr yr ysgoloriaeth yn perfformio ar y noson - y cantorion Mirain Haf (enillydd cyntaf yr ysgoloriaeth ym 1999); Fflur Wyn (2000); a Rhian Lois Evans (2008); y feiolinydd Rakhi Singh (2004); y ddawnswraig Lowri Walton (2005); y clarinetydd Rhys Taylor (2006); a'r llearwraig Manon Wyn Williams (2007).

Yn ogystal â pherfformiadau unigol, braf oedd gweld y bobl ifanc, dalentog yma yn cyd-berfformio gyda'i gilydd, a chyda Bryn Terfel a Daniel Evans - ac roedd cael 'Dawnswyr Boss' yn ymuno ar y llwyfan o bryd i'w gilydd yn ychwanegu lefel mwy gweledol i'r noson, yn ogystal â'r wledd glywedol gafwyd gan y perfformwyr a'r gerddorfa.

Gwnaeth Caryl Parry Jones - cynhyrchydd creadigol a chyfarwyddwr y llwyfaniad - waith campus yn plethu'r holl gynhyrchiad at ei gilydd, a chawsant ymateb anhygoel gan y gynulleidfa ar ddiwedd y noson, pan safodd y dorf i gymeradwyo.

Un oedd yn amlwg wedi ei blesio ar ddiwedd y cyngerdd oedd Huw Foulkes o Gaerdydd: "...fel cyfanwaith, roedd yn llifo'n ddigon esmwyth. Roedd y diweddglo'n drawiadol a phresenoldeb Bryn Terfel yn ychwanegu dimensiwn ychwanegol i fwriad a chyfoeth y cyngerdd - dechrau caboledig i Eisteddfod yr Urdd 2009."

Un arall oedd wedi cael noson wrth ei bodd oedd Bethan Mair Williams o Gaernarfon: "...roedd popeth mor safonol â'r cyfan yn llifo i'w gilydd mor slic... Roedd y cyfan wedi'i gyfarwyddo'n wych a'r dawnswyr a'r holl ffrogiau amrywiol yn werth eu gweld. Noson agoriadol arbennig fydd yn aros yn y cof am yn hir."


Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.