Â鶹Éç

Lleucu - dawn arbennig i gynnal sgwrs

Lleucu


Diwrnod y Coroni

Gyda'r hyn a ddigwyddodd yng nghystadleuaeth y gadair y diwrnod cynt gwnaeth y beiriad hi'n gwbl glir wrth gychwyn ei feirniadaeth fod teilyngdod yng nghystadleuaeth y goron ddydd Gwener.

Newyddiadurwraig o Eifonydd a enillodd y goron honno ac wrth wobrwyo Lleucu Fflur Hughes o Bencaenewydd tynnodd y ddau feirniad, Annes Glynn ac Arwel Rocet Jones, sylw yn arbennig at ei dawn i greu dialogau.

Nofel yn troi o gwmpas tri chymeriad yng Nghaernarfon a Chaerdydd enillodd y goron i Lleucu ac fe'i disgrifwyd gan Arwel Rocet Jones a oedd yn traddodi'r feirniadaeth yn absenoldeb Annes Glynn na allai fod yn bresennol oherwydd gwaeledd fel "stori afaelgar, fywiog sy'n powlio yn ei blaen ac a ddaliodd ein sylw ni o'i brawddeg gyntaf."

Ychwanegodd mai profiad braf oedd cael chwerthin yn uchel wrth ddarllen a disgrifiodd yr awdur fel un hyderus a rhyfeddol o aeddfed a chyda dawn arbennig i greu dialogau sy'n taro deuddeg.

"Ac mae hi'n gwybod yn reddfol sut mae amrywio'r cywair yn effeithiol ," meddai gan ei chanmol am greu casgliad o gymeriadau y gellid credu ynddyn nhw .

"Ac rydym ni'n cydymdeimlo a llawenhau efo nhw oherwydd hynny," meddai.

Gohebydd gyda'r Cymro yn ei swyddfa ym Mhorthmadog yw Lleucu wrth ei gwaith bob dydd ac yn ferch i un o gyn olygyddion y papur, Ioan Huws, sy'n awr yn gweithio gyda Chyngor Sir Gwynedd.

Y teulu'n dathlu llwyddiant Lleucu

Yr oedd yn un o dri a oedd ar y blaen i'r ugain cystadleuydd arall mewn cystadleuaeth gref - er bu'n rhaid diarddel un cystadleuydd am anfon barddoniaeth i gystadleuaeth rhyddiaith.

Eglurodd Lleucu iddi sgrifennu'r nofel yn y lle cyntaf fel rhan o gwrs MA a chyfaddefodd nad yw wedi sgrifennu dim byd creadigol ers iddi ddechrau newyddiadura.

Am ei nofel dywedodd ei bod yn un ysgafn, hawdd ei darllen gyda dialog yn ganolog iddi.

"Fe wnes i fwynhau ei sgrifennu hi," meddai, "ac fe fydda i'n meddwl os ydych chi'n mwynhau sgrifennu rhywbeth mae o'n dod drosodd wrth ichi ei ddarllen," meddai gan ychwanegu efallai bod angen rhhagor o ddeunydd darllen doniol yn y Gymraeg.

"Dydw i ddim yn berson sy'n mwynhau darllen lot o bethau dwys," meddai.

O ran ei darllen personol dywedodd mai cylchgronau a phapurau newydd sy'n mynd a'i bryd yn bennaf yn hytrach na llyfrau ond ei bod yn edmygydd mawr o ddawn Caradog Prichard i gyfuno y dwys a'r doniol mewn ffordd arbvennig iawn.

Hwn oedd y tro cyntaf iddi gystadlu ar un o brif gystadlaethau'r Urdd er iddo fod yn fuddugol mewn cystadleuaeth stori fer a cherddi cyn hyn.

Er nad oes ganddi syniadau penodol ar gyfer sgrifennu yn y dyfodol dywedodd y gallai ennill y Goron a'r anogaeth gan y beirniaid roi'r hyder iddi fentro.

"Fe fyddwn i wrth fy modd sgrifennu sgriptiau er enghraifft," meddai.


Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.