Mae'n amheus a fyddai rhai o sêr sioeau fel X Factor a Britain's Got Talent yn cael llwyfan o gwbl yn Eisteddfod yr Urdd yn ôl llywydd y mudiad.
Yr oedd Sara Gwilym Tomos yn siarad mewn cyfarfod gyda'r Wasg yng Nghanolfan y Mileniwm fore Iau am yr her y mae'n ei hwynebu yn llywydd.
Dewiswyd Sara sy'n athrawes yn Ysgol Gwaun y Nant, Y Barri, yn llywydd yr Urdd fis Tachwedd diwethaf.
Dywedodd bod yr Eisteddfod a'r syniad o dalentau'n cystadlu yn rhan mor allweddol o'r Urdd erbyn hyn y mae bron a bod yn hawlfraint i'r mudiad.
"Mae cenhedlaeth gyfan bellach wedi eu magu ar gysyniad allech chi ddadlau sy'n eiddo copyright i Eisteddfod sef un o gonglfeini y mudiad," meddai.
"Beirniadu perfformwyr ar lwyfan yw'r jobyn ar X Factor a Strictly ond dwi'n amau y gallai rhai o sêr sioe ITV Britain's Got Talent gael llwyfan yma," meddai.
O genhedlaeth i genhedlaeth
Gan ddisgrifio'r Urdd fel mudiad sy'n gweithio "gan milltir yr awr" dywedodd mai ei ragoriaeth yw ei allu i ymateb i'r sialens o addasu o genhedlaeth i genhedlaeth.
"Mae'n sialens," meddai. "Nid peth bach yw gallu addasu o genhedlaeth i genhedlaeth yn y modd mae'r Urdd wedi gwneud ac y mae ei allu i addasu dros y blynyddoedd yn dyst i dalent i ragweld y dyfodol i raddau helaeth." meddai.
Gwneud gwahaniaeth
Disgrifiodd yr Urdd hefyd fel mudiad sy'n medru gwneud gwahaniaeth.
"Dwi'n gwybod hyn i sicrwydd. Ces y fraint o weld cyn ddisgybl o Waun y Nant yn perfformio yn Ffawd echnos - disgybl cwbl ddi-Gymraeg wedi tyfu mewn cartref di Gymraeg ond wedi ei magu ar y cyfleoedd mae'r Urdd yn eu cynnig.
"Mae'n allweddol i ni yn y Gymru ddinesig bod cymaint o gyfleoedd ag sy'n bosibl ar gael i'n hieuenctid siarad y Gymraeg - dydy hynny ddim yn rhywbeth rydyn ni'n ei gymryd yn ganiataol," meddai.
"Dim ond o fewn fy oes i mae cyfathrebu mewn siopau, archfarchnadoedd yn y Gymraeg wedi dod yn dderbyniol," meddai.
Rhan hanfodol bwysig
Tynnodd sylw hefyd at "ran hanfodol bwysig" yr Urdd yn "natblygiad ein plant, datblygiad y Gymraeg a datblygiad cymunedau Cymru".
"Mae'r cynllun gefeillio mae Gwaun y Nant, gydag Ysgol Aberystwyth ac Ysgol Llundain, wedi ei gychwyn yn arf pwerus i fagu gwell dealltwriaeth rhwng oedolion y dyfodol ac yn yr oes sydd ohoni, ni all hynny ond magu gwell dinasyddion," meddai.