Methodd llywydd dydd heddiw, Gethin Jones, a bod yn bresennol oherwydd salwch.
Yn frodor o Gaerdydd dewiswyd cyn gyflwynydd Blue Peter a chariad Katherine Jenkins, yn llywydd ar gyfer y dydd Iau.
Bu'n ddisgybl yn Ysgol Coed y Gof ac Ysgol Gymraeg Glantaf.
Yn gyn aelod o'r Urdd mae wedi cystadlu yn yr Eisteddfod ei hun.
Ymhlith ei ddiddordebau mae'n rhestru rygbi, pêl-droed, tennis, golff, cerddoriaeth, siopa a thîm pêl-droed Everton.
Yn ystod ei gyfnod ar Blue Peter daeth yn adnabyddus am ei eitemau mentrus.