麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Geraldine MacBurney Jones (Llun: papur newydd, El Chubut) Eisteddfod y Bobol Ifainc 2003
Eiry Miles sy'n sgrifennu am un o ddigwyddiadau mawr y flwyddyn ym mhrifddinas y canu corawl ym Mhatagonia



Ymgasglodd llu o blant a phobl ifanc yn gimnasio'r Gaiman i gymryd rhan yn Eisteddfod y Bobl Ifanc.

Cafwyd cystadlaethau adrodd, cydadrodd, a chanu yn y Gymraeg a'r Sbaeneg a dawsfeydd traddodiadol o'r Ariannin yn ogystal â dawnsio gwerin o Gymru.

Megis yn Eisteddfod yr Urdd, rhoddwyd llwyfan i ddoniau'r bobl ifanc mewn dathliad o ddiwylliant Cymreig ond rhoddwyd lle amlwg hefyd i'r diwylliant Archentaidd.

Eleni, gwnaethpwyd ymdrech arbennig i gadw'r rhai uniaith Sbaeneg yn hapus. Rhoddwyd cyfieithiadau o'r holl adroddiadau a braslun o eiriau pob cân Gymraeg ar sgrîn ger y llwyfan, a chyfieithwyd pob beirniadaeth Gymraeg i'r Sbaeneg.

Beirniadu'r adrodd
Cawsom adloniant o'r safon uchaf nos Wener a dydd Sadwrn, ond ni chefais eistedd yn ôl i'w fwynhau. Roedd yn rhaid i mi weithio gan mai fi oedd yn beirniadu'r adrodd yn Gymraeg.

Fe'm gosodwyd ar fwrdd yng nghanol y neuadd gyda beirniad yr eitemau cerddorol Cymraeg, Nesta Davies (athrawes Gymraeg yr Andes), a'n cyfieithwyr o bobtu i ni.

Wrth inni roi'r beirniadaethau, roedd camera yn ein ffilmio gan ddangos ein hwynebau yn fawr ar y sgrîn.

Roedd yn system slic a phroffesiynol, ond ar brydiau byddai'r camera'n troi atom ar adegau anffodus, megis pan oeddwn yn baglu dros eiriau anthem genedlaethol yr Ariannin, neu pan oedd Nesta yn tynnu gwm cnoi o'i cheg!

Athrawon, rhieni, neiniau a theidiau
Tasg go anodd oedd beirniadu ar brydiau. Bu athrawon, rhieni, neiniau a theidiau yn hyfforddi rhai o'r plantos ers misoedd, a chafwyd safon eithriadol o uchel ym mhob cystadleuaeth.

Peth cas oedd gorfod dewis rhyngddynt, ond ceisiais ddweud rhywbeth calonogol wrthynt oll. Wedi dweud hynny, cafodd Nesta dasg tipyn anos na mi gan fod llawer mwy o gystadlaethau canu nag adrodd.

Bu wrthi'n ddi-baid tan ddiwedd y noson, yn llawn brwdfrydedd ac egni. Mae hi'n berson rhyfeddol mae hi dros ddwywaith fy oedran i ond yn aml yn gwneud i mi deimlo fel hen gant!

Dros fil o filltiroedd
Fel arfer, dim ond cystadleuwyr o Esquel a Threvelin sy'n teithio'n bell i'r Eisteddfod, ond eleni teithiodd côr o Brifysgol La Plata dros fil o filltiroedd mewn bws.

Mae Prifysgol La Plata, talaith Buenos Aires, yn un o Brifysgolion pwysicaf yr Ariannin, a'i hadran gerddoriaeth yn un uchel iawn ei pharch. Daethant yma dan arweinyddiaeth Milton Del Real, bachgen o'r Gaiman sy'n astudio i fod yn arweinydd côr.

Bu Milton yn mynychu dosbarthiadau Cymraeg pan oedd yn ei arddegau, ac ymwelodd â Chymru gyda Chôr Ieuenctid y Gaiman, felly gallodd hyfforddi ei gôr i ynganu'r geiriau Cymraeg yn berffaith.

Teimlwn edmygedd mawr wrth feddwl am eu gwaith caled, yn enwedig gan fod y mwyafrif heb unrhyw gefndir Cymraeg.

Yn y diwedd, Côr Gaiman a orfu, ond cafodd aelodau côr La Plata amser wrth eu boddau, a bod yn rhan o gystadleuaeth o safon uchel.

Erbyn hyn, mae enwogrwydd Eisteddfodau Chubut wedi lledu, a gwŷr arweinyddion corau y cânt her a chystadleuaeth dda. Mae'n debyg y bydd corau o fannau pellach fyth yn dod i Eisteddfod y Wladfa ym mis Hydref am y rheswm hwnnw.

Hoff o seremoniau
Rwyf wedi sylwi fod yr Archentwyr yn hoff iawn o seremoniau (neu actos, fel y'u gelwir yn Sbaeneg).

Ceir acto i ddathlu neu goffáu pob math o bethau. Bm mewn acto yng Ngholeg Camwy echddoe i ddathlu'r Diwrnod Heddwch Rhyngwladol, a chafwyd acto yr wythnos diwethaf i ddathlu Diwrnod yr Athro.

Seremoni'r Fedal
Felly, roedd tipyn o steil yn perthyn i Seremoni'r Fedal Lenyddiaeth ( i wobrwyo cerdd Sbaeneg) er ei bod yn dilyn patrwm y seremoni Gymreig.

Geraldine ar y llwyfan. Llun gan y papur newydd, El Chubut.Wrth i'r llywydd alw am y bardd i godi ar ei draed, ni symudodd neb am hydoedd. Roedd pawb ar bigau'r drain a'r tensiwn yn anioddefol (mae'r Archentwyr yn tueddu i fod yn fwy dramatig na'r Cymry hefyd).

Yna, yn sydyn, teimlais bawb yn cipio'u hanadl mewn syndod roedd Geraldine MacBurney Jones wedi codi ar ei thraed. Mae Geraldine bellach yn byw yn Llandudno, a doedd neb yn gwybod ei bod wedi cyrraedd y Gaiman ers dydd Gwener.

Rhoddwyd lluniau ohoni'n blentyn ar y sgrin fawr, a chlywsom dipyn o'i hanes cyn cael dawns flodau draddodiadol.

Dan deimlad
Roedd Geraldine dan deimlad pan ddarllenwyd ei cherdd, gan mai teyrnged i'r Gaiman ac i Delyth, ei nain, oedd hi.

Roedd y rhes y tu ôl i mi yn eu dagrau. (Mae'r Archentwyr hefyd yn fwy parod i ddangos eu hemosiynau na'r Cymry).

Oriau mân y bore
Un peth Archentaidd iawn am yr Eisteddfod oedd ei hamser. Yma yn yr Ariannin, mae pawb yn bwyta yn hwyrach ac yn cymdeithasu yn oriau mân y bore, felly nid oedd disgwyl i noson yr Eisteddfod fod yn wahanol.

Ni orffennodd yr Eisteddfod tan 12.30 nos Wener. Cychwynnodd tua 2.30 ddydd Sadwrn, a gorffennodd ddeuddeng awr yn ddiweddarach, am 2.30 fore Sul!

Erbyn cael y bwffe, roedd hi'n hwyr arna i'n mynd i glwydo, ac roedd codi mewn pryd at Gymanfa Ganu'r Eisteddfod yn dipyn o gamp.

O edrych ar wynebau gwelwon rhai o aelodau eraill y gynulleidfa, gallwn weld eu bod nhw'n teimlo fel fi.

Mam yn dwrdio
Trwy gydol fy nyddiau ysgol, cystadlwn yn frwd mewn eisteddfodau ond daeth hynny i ben pan es i'r Brifysgol. Tan y penwythnos hwn, roeddwn wedi anghofio cymaint ro'n i'n mwynhau eisteddfota.

Er bod Eisteddfod y Bobl Ifanc yn Chubut yn wahanol iawn i Eisteddfod yr Urdd yng Nghymru, teimlais yr un wefr wrth weld plant a phobl ifanc ddawnus yn mynd trwy'u pethau, a'r un nerfusrwydd wrth aros am ganlyniadau.

Llifodd atgofion lu yn ôl wrth gael cip ar fam yn dwrdio'i mab am fethu a chael llwyfan ar yr adrodd, ac wrth weld rhai o'r plant lleiaf yn rhewi wrth wynebu'r gynulleidfa fawr.

Ond roedd awyrgylch yr Eisteddfod yn bendant yn wahanol i eisteddfod yng Nghymru, a'r Archentwyr wedi newid sawl peth er gwell.

Mwynhau'r diwrnod ac nid ennill oedd nod y cystadleuwyr (a mam y bachgen aflwyddiannus druan yn eithriad).



Eiry Miles, yr awdurRoedd pawb yn ymlacio heb unrhyw arwydd o nerfusrwydd, ac ni theimlais fod cymaint o gythraul canu yno ag mewn Eisteddfodau yng Nghymru. Sgwrsiai cystadleuwyr yn braf gyda'i gilydd, ac roeddent yn awyddus i longyfarch pob cystadleuydd buddugol.

Prifddinas canu corawl
Wrth ddod i mewn i'r Gaiman, fe welwch chi arwydd yn eich croesawu i brifddinas y canu corawl'.

Mae hwnnw'n sicr yn deitl haeddiannol - mae canu a cherddoriaeth yn eithriadol o bwysig i'r dref.

Ar ôl holl brysurdeb y penwythnos, bu rhai wrthi'n ymarfer canu eto nos Sul gan fod cystadleuaeth gorawl ryngwladol yn cael ei chynnal yn Nhrelew yr wythnos hon.

Ac wedi i honno ddod i ben, bydd yn rhaid dechrau meddwl am Eisteddfod y Wladfa y mis nesaf.





de america

Yr Ariannin
Apel am pesos coch y delyn

Newyddion y Gaiman

Y Cymry a dynnodd ddeigryn i lygaid Chile

Cymorth i fyfyrwyr o'r Wladfa

Ymweliad criw Ystradgynlais

Gwneud Cymry Patagonia yn atyniad twristaidd

Eisteddfod Trevelin 2004

Taith côr i ymweld â gwreiddiau

Newyddion

Croesawu myfyrwyr 2006 yn y Cynulliad

Chwilio am lythyrau Gwladfawyr

Cofio Lewis Jones yn y Wladfa

Kyffin Williams ym Mhatagonia

Marw Ieuan May Jones

Agor Ysgol yr Hendre

Chwilio am wreiddiau

Newyddion Gorffennaf 2006

Taith bro'r Gadlas

Eisteddfod y Bobol Ifainc 2003

Teyrnged i ffotograffydd blaengar

O Batagonia i wlad ei dadau

Llwyddiant cynllun athrawon

Darlith i gofio Lewis Jones

Diwrnod y gêm

O Grymych i Ariannin

Dathliadau canmlwyddiant Coleg Camwy

Hwb i ddawns y glocsen

Angen cymorth yn Nhrelew

Croesawu ymwelwyr

Dod a'r Andes a Chaerdydd at ei gilydd

Ymweliad Llysgennad - ac efeillio

Cofio'r croesawydd siriol

Newyddion Rhagfyr

Newyddion Mehefin 2006

Cyhoeddi llyfr Bardd y Neuadd Wen

Darlledu Neges Ewyllys Da 2008

Cofio Moelona

Cofio'r Mimosa

Y Mimosa yn ôl yn Lerpwl

Ysgol feithrin

Michael D. Jones a'r Wladfa Gymreig

Newyddion Mawrth 2006

Marw Marta Rees, Plas y Coed

Marw Mair Davies

Ethol Cymro yn faer

Llyfrau Cymraeg yn cyrraedd y Wladfa

Yn y llwch a'r lludw

Cyfarfod Karen a Glyndŵr

John Daniel Evans - cyhoeddi llyfr am El Baqueano

Cyffroi'r ifanc ar ymweliad

O Fro Dinefwr i'r Wladfa

Enw newydd i ysgoloriaeth

Ennill Ysgoloriaeth Tom Gravell 2007

Aelodau newydd
Gorsedd y Wladfa 2008


Cofio Virgilio Horacio González

Glaniad - gwefan newydd hanes Patagonia

Newyddion da wrth ddathlu Gŵyl y Glaniad

Gŵyl y Glaniad 2005

Pecynnau i ysgolion

Darganfod y Gymraeg

Eisteddfod 2007

Cadair y Wladfa 2008 i Cefnfab

Ysgol y Dreigiau Bach

Cinio blynyddol

Croeso i gylchgronau Cymraeg

Ymweliad Cor Merched y Gaiman

Marw cerddor neilltuol

Ysgol Trelew

Cyfarfod Chwaraewyr rygbi 2006

Cadair y Wladfa 2005

'Niwtraleidio'r' Gymraeg ym Mhatagonia

Cyhoeddi hanes Bethlehem

Chwilio am athrawon i'r Wladfa - 2007

Athrawon 2007

Arwyddion dwyieithog

Colli bardd swynol

Hanes yn y Gymraeg mewn hen felin

Alwina - bywyd o gywirdeb a safon

Paratoi i ddathlu canrif a hanner

Mimosa - canmol y fenter

Y Mimosa

Maradona:

Lluniau Patagonia

Marw Irma - prif lenor Y Wladfa a golygydd Y Drafod

Sgrech y dathlu!

Merch y paith yn cymharu Cymru a Phatagonia

Cofio Fred Green

Edrych ymlaen at lanolin

Profiad Patagonia

Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

Dafydd Du ym Mhatagonia

Nadolig yng ngwres yr haf

Dathlu rhan Cymry yn antur ynys newydd

Ymweliad Côr y Wladfa

Dwr a bwledi plastig yn Nhrelew




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy