Dydi o ddim yn gyhoeddiad y byddech chi byth yn ei glywed mewn eisteddfod yng Nghymru - fod un o'r corau wedi methu cyrraedd oherwydd i lwch o losgfynydd gau'r ffordd!
Ysgolion wedi cau Ond mae llwch sy'n disgyn wedi i losgfynydd Chaitén - Volcán Chaitén - yn Chile ffrwydro'n ddiweddar yn achosi anhwylustod a phryder yn rhannau o'r Wladfa Gymraeg ym Mhatagonia.
Mae ysgolion wedi cau ac mae pobl yn gwisgo mygydau rhag anadlu'r llwch sy'n disgyn fel eira o'r awyr.
Pan ffrwydrodd y llosgfynydd chwydwyd fflamau a mwg filltiroedd i'r awyr a chariwyd y llwch a'r lludw dros y ffin i Ariannin gan effeithio'n ddrwg ar drigolion Esquel a Thevelin lle mae cymdeithas Gymraeg gref.
Ymledodd y cwmwl cyn belled a Commodoro
Rivadavia hefyd ar arfordir dwyreiniol Ariannin.
"Mae wedi effeithio yn eithaf drwg erbyn hyn gydag ysgolion Esquel a Threvelin ar gau ac mae wedi effeithio'n arw ar drafnidiaeth. Mae ffyrdd ar gau ac mae pryder mawr ynglŷn ag anifeiliaid ac amaethyddiaeth yn gyffredinol," meddai gill Stephen athrawes o Gymru sy'n dysgu yn ysgolion Cymraeg y ddwy dref.
.
'Yn union fel eira' Ar Taro'r Post ar 麻豆社 Radio Cymru disgrifiodd y llwch yn syrthio ym mhob man "yn union fel eira".
"Ddydd Gwener diwethaf gwnaeth rhyw lwch mân iawn, gwyn, ddisgyn dros bob man ac mae pethau wedi gwaethygu gyda mwy bob dydd ac mae modfedd ohono erbyn hyn ac mae o'n mynd i'r tai.
"Mae'r ysgol fan hyn yn eithaf llawn o lwch ar y funud," meddai.
Canmolodd y gwasanaethau cyhoeddus am wneud eu gorau i ddygymod â'r broblem gan gynnwys arllwys dwr ar y ffyrdd i gadw'r llwch i lawr a defnyddio ceir gyda goleuadau arbennig i oleuo'r ffyrdd.
Gwisgo mwgwd Cynghorir rhai gydag asthma i beidio â mynd allan.
"Mae e'n fân iawn felly mae pawb yn ei anadlu ac mae pobl yn gwisgo mwgwd ond dydw i fy hun ddim wedi sylwi ar unrhyw effaith rhy ddrwg - mae'r llygad ychydig bach yn dost a'r llwnc dipyn bach yn dost ond erbyn heddiw rydym wedi cael peth bach o law ac mae yna wynt swlffwr dros y lle," meddai.
"Mae pryder mawr yma erbyn hyn am yr anifeiliaid yn y caeau, does dim modd iddyn nhw gyrraedd y glaswellt o dan y llwch. gan ei fod yn mynd i bobman.
"Ces i uwd y bore 'ma a oedd yn crensian rhwng y dannedd fel creision yd - ych a fi," meddai.
Mae pryder mawr yma erbyn hyn am yr anifeiliaid yn y caeau, does dim modd iddyn nhw gyrraedd y glaswellt o dan y llwch. Mae fe'n mynd i bobman. Ces i uwd y bore 'ma a oedd yn crensian rhwng y dannedd fel creision yd - ych a fi.
Ond nid rwystrwyd y Cymry rhag cynnal eu heisteddfod yn ddiweddar - er fe fydd honno yn cael ei hadnabod o hyn allan fel "Eisteddfod y Llwch".
Ac fe fethodd un côr â chyrraedd "oherwydd bod gormod o lwch folcanig ar y ffordd" yn ôl cyhoeddiad annisgwyl o'r llwyfan!
|