Merch dwy ar bymtheg oed o Esquel yng Nghwm Hyfryd, Patagonia, yw enillydd diweddaraf ysgoloriaeth i dreulio cyfnod yng Ngholeg Llanymddyfri.
Bellach yn cael ei hadnabod fel Ysgoloriaeth Tom Gravell mae'r ysgoliaeth yn awr wedi ei hatgyfnerthu gyda David Gravell o Gwmni Moduron Gravell's Cydweli wedi cymryd cyfrifoldeb dros ariannu'r fenter.
Mae David Gravell yn fab i Tom Gravell a oedd yn ymwelydd cyson a'r Wladfa ym Mhatagonia ac yn gyn ddisgybl ac yn un o ymddiriedolwyr Coleg Llanymddyfri.
Y gyntaf o'r Andes Eileen Hughes, enillydd ysgoloriaeth 2007, yw'r gyntaf o Gwm Hyfryd wrth droed yr Andes, i ennill yr ysgoloriaeth.
O waelod Dyffryn Chubut, yr ardal sy'n ffinio â Chefnfor Iwerydd, y daeth y pum enillydd blaenorol.
Mae Eileen ar ei blwyddyn olaf yn Ysgol Uwchradd Esquel.
Ei phrif ddiddordebau yw'r celfyddydau, yn arbennig cyfansoddi, arlunio a chanu. Mae'n mynychu dosbarthiadau Cymraeg yn Esquel ac mae ganddi wybodaeth elfennol o'r Gymraeg.
Yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf bu'n aelod o ddau gôr yn y dref ac yn ystod ei chyfnod yn ddisgybl preswyl yng Ngholeg Llanymddyfri, bydd cyfle iddi ddatblygu ei diddordebau, gan gynnwys cymryd rhan yn Eisteddfod y Coleg.
Bydd yn gyfle hefyd iddi ddod i adnabod Cymru ac ymchwilio i achau ei theulu a chefndir ei chyndeidiau a ymfudodd i Batagonia.
Bydd yn cyrraedd Llanymddyfri Ionawr 11 2007 gan aros tan ddiwedd tymor y Pasg, ddechrau Ebrill.
|