麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Gabriel Restucha Ethol Cymro yn faer
Gŵr ifanc o dras Gymreig yn faer Y Gaiman

Mae gŵr ifanc sy'n flaenllaw iawn yn y gymdeithas Gymraeg ym Mhatagonia wedi ei ethol yn faer newydd pentref Y Gaiman.

Y mae Gabriel Restucha, sy'n siarad Cymraeg, yn athro wrth ei alwedigaeth ac yn arweinydd eisteddfodau yn ogystal â chwarae rhan flaenllaw ym mhob agwedd o fywyd Cymraeg Patagonia.

Treuliodd gyfnod yng Nghymru yn gloywi ei Gymraeg.

Ar y stryd gyda'r etholwyrCafodd ei ethol yn faer Y Gaiman mewn etholiadau ddydd Sul, 16 Medi 2007, gyda mwyafrif o 500 o bleidleisiau gan drechu'r maer blaenorol, Raul MacBurney a fu'n cynrychioli'r dref bron iawn yn ddi-dor er 1987 ar wahân i gyfnod byr rhwng 1995 a 1998.

Yr oedd Gabriel Restucha yn sefyll dros blaid leol, Todos por Gaiman - Pawb dros y Gaiman.

Wedi ei eni yn Y Gaiman mynychodd ysgol gynradd y pentref ac Ysgol Camwy cyn mynd ymlaen i astudio llenyddiaeth yn y Brifysgol yn Nhrelew.

Siarad Cymraeg
O ochor ei fam, sy'n siarad Cymraeg, mae yn disgyn o deulu 'William Jones y Gof' ac yn perthyn i Morfudd Slaymaker sy'n byw yn Llanbedr pont Steffan.

Yr oedd yn ei arddegau pan ddechreuodd ymddiddorodd yn y Gymraeg a mynychu dosbarthiadau athrawon gwirfoddol o Gymru ac yn 1993 mynychodd ef a dau gyfaill, Santiago Daniel Escobar a Juan Carlos Davies gwrs haf Cymraeg yn Llanbedr pont Steffan dan ofal Chris Rees.

Dilynwyd hyn gan gwrs mis i baratoi tiwtoriaid Cymraeg, yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin dan nawdd Prosiect yr Iaith Gymraeg yn y Wladfa.

Yn bêl-droediwr brwd bu'n chwarae i glwb lleol yn y Gaiman am flynyddoedd.

Tra'r oedd yn dilyn ei gwrs Prifysgol yr oedd yn gweithio hefyd yn ysgol uwchradd Camwy yn y Gaiman lle cychwynnodd ddosbarthiadau Cymraeg i'r dosbarthiadau hŷn ac erbyn hyn mae pob dosbarth yn cael dwy wers Gymraeg yr wythnos dan ei ofal.

Eisteddfodau
Bu'n arweinydd poblogaidd Eisteddfod y Bobl Ifanc ac Eisteddfod Y Wladfa ers blynyddoedd ac mae'n cynnal dosbarth nos i oedolion unwaith yr wythnos.

Mae yn briod a Lucía Besada sydd hefyd wedi mynychu cwrs Cymraeg Llambed. Mae ganddynt dri o fechgyn, Marco, Nicolás a Tiago, ac un ferch, Lara.


Gorymdaith ddathluDywedodd Gabriel ei fod yn hoff o bysgota ac yn ystod yr haf mae ef a'r teulu yn gwersylla yn yr Andes neu ar lan y môr.

"Mae'n berson poblogaidd iawn ym mysg y bobl ifanc a'r oedolion ac mae pawb yn dymuno pob hwyl iddo yn y gwaith anodd o fod yn faer y Gaiman," meddai un o drigolion Cymraeg y Wladfa yn dilyn ei lwyddiant.

Etholiadau eraill
Mewn etholiadau eraill yn nhalaith Chubut ddydd Sul ail etholwyd Mario Das Neves yn rhaglaw a dywedodd Gabriel Restucha y bydd Todos por Gaiman yn cefnogi ei ymdrechion.

"Byddwn yn cefnogi prosiect daleithiol y rhaglaw, Das Neves. Ond heb anghofio bod llawer o waith i'w wneud yn Y Gaiman," meddai.

Yn ôl un o drigolion Y Gaiman yr oedd cymaint o lawenydd yn dilyn yr etholiad y bu'n rhaid cynnal gorymdaith y fuddugoliaeth o gwmpas yr ardal ddwywaith.

"Y mae yna frwdfrydedd mawr ac fe adleisiwyd hynny yn y bleidlais," meddai Gabriel Restucha."





de america

Yr Ariannin
Apel am pesos coch y delyn

Newyddion y Gaiman

Y Cymry a dynnodd ddeigryn i lygaid Chile

Cymorth i fyfyrwyr o'r Wladfa

Ymweliad criw Ystradgynlais

Gwneud Cymry Patagonia yn atyniad twristaidd

Eisteddfod Trevelin 2004

Taith côr i ymweld â gwreiddiau

Newyddion

Croesawu myfyrwyr 2006 yn y Cynulliad

Chwilio am lythyrau Gwladfawyr

Cofio Lewis Jones yn y Wladfa

Kyffin Williams ym Mhatagonia

Marw Ieuan May Jones

Agor Ysgol yr Hendre

Chwilio am wreiddiau

Newyddion Gorffennaf 2006

Taith bro'r Gadlas

Eisteddfod y Bobol Ifainc 2003

Teyrnged i ffotograffydd blaengar

O Batagonia i wlad ei dadau

Llwyddiant cynllun athrawon

Darlith i gofio Lewis Jones

Diwrnod y gêm

O Grymych i Ariannin

Dathliadau canmlwyddiant Coleg Camwy

Hwb i ddawns y glocsen

Angen cymorth yn Nhrelew

Croesawu ymwelwyr

Dod a'r Andes a Chaerdydd at ei gilydd

Ymweliad Llysgennad - ac efeillio

Cofio'r croesawydd siriol

Newyddion Rhagfyr

Newyddion Mehefin 2006

Cyhoeddi llyfr Bardd y Neuadd Wen

Darlledu Neges Ewyllys Da 2008

Cofio Moelona

Cofio'r Mimosa

Y Mimosa yn ôl yn Lerpwl

Ysgol feithrin

Michael D. Jones a'r Wladfa Gymreig

Newyddion Mawrth 2006

Marw Marta Rees, Plas y Coed

Marw Mair Davies

Ethol Cymro yn faer

Llyfrau Cymraeg yn cyrraedd y Wladfa

Yn y llwch a'r lludw

Cyfarfod Karen a Glyndŵr

John Daniel Evans - cyhoeddi llyfr am El Baqueano

Cyffroi'r ifanc ar ymweliad

O Fro Dinefwr i'r Wladfa

Enw newydd i ysgoloriaeth

Ennill Ysgoloriaeth Tom Gravell 2007

Aelodau newydd
Gorsedd y Wladfa 2008


Cofio Virgilio Horacio González

Glaniad - gwefan newydd hanes Patagonia

Newyddion da wrth ddathlu Gŵyl y Glaniad

Gŵyl y Glaniad 2005

Pecynnau i ysgolion

Darganfod y Gymraeg

Eisteddfod 2007

Cadair y Wladfa 2008 i Cefnfab

Ysgol y Dreigiau Bach

Cinio blynyddol

Croeso i gylchgronau Cymraeg

Ymweliad Cor Merched y Gaiman

Marw cerddor neilltuol

Ysgol Trelew

Cyfarfod Chwaraewyr rygbi 2006

Cadair y Wladfa 2005

'Niwtraleidio'r' Gymraeg ym Mhatagonia

Cyhoeddi hanes Bethlehem

Chwilio am athrawon i'r Wladfa - 2007

Athrawon 2007

Arwyddion dwyieithog

Colli bardd swynol

Hanes yn y Gymraeg mewn hen felin

Alwina - bywyd o gywirdeb a safon

Paratoi i ddathlu canrif a hanner

Mimosa - canmol y fenter

Y Mimosa

Maradona:

Lluniau Patagonia

Marw Irma - prif lenor Y Wladfa a golygydd Y Drafod

Sgrech y dathlu!

Merch y paith yn cymharu Cymru a Phatagonia

Cofio Fred Green

Edrych ymlaen at lanolin

Profiad Patagonia

Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

Dafydd Du ym Mhatagonia

Nadolig yng ngwres yr haf

Dathlu rhan Cymry yn antur ynys newydd

Ymweliad Côr y Wladfa

Dwr a bwledi plastig yn Nhrelew




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy