Mae athrawes mewn ysgolion Cymraeg ym Mhatagonia wedi estyn croeso i ymwelwyr o Gymry alw i'w gweld a chyfarfod dysgwyr o bob oed.
Dywedodd Gill Stephen sy'n treulio cyfnod yn athrawes yn Nhrevelin ac Esquel wrth droed yr Andes fod y dosbarthiadau Cymraeg yn yr ardal bob amser yn falch o dderbyn ymwelwyr.
"Os ydyn nhw am aros am sbel i'n helpu trwy wneud tipyn o waith mae hynny hyd yn oed yn well!" ychwanegodd.
Wedi ymddeol Un a fu ar ymweliad yn ddiweddar ydi Nesta Wyn Merrells. Yn wreiddiol o Sir Fôn bu Nesta yn athrawes yn Lloegr cyn ymddeol a chychwyn ar daith hir o gwmpas De a Chanolbarth America.
Treuliodd gyfnod yn Ysgolion Cymraeg Trevelin ac Esquel dros y Pasg 2008n yn helpu gyda gwaith ad-drefnu ac addurno yn Esquel.
"Eleni hefyd rydym ni'n mynd i dderbyn dau wirfoddolwr o Gymru sydd yn mynd i weithio gyda ni fel cynorthwywyr am ychydig wythnosau yn Ysgol Gymraeg Trevelin. Yr ydym yn edrych ymlaen yn arw at eu cwrdd," ychwanegodd Gill.
"Os hoffech chi ymweld â ni, neu weithio gyda ni am dipyn mae croeso i chi gysylltu a fi trwy e-bost ," ychwanegodd.
Trafod gyda bardd Un arall sydd wedi profi croeso mynychwyr yr ysgolion Cymraeg ydi'r bardd, llenor a beirniad llenyddol Grahame Davies sydd yn gofalu am wefan newyddion Saesneg y 麻豆社 yng Nghymru.
Cynhaliodd Dr Davies, sydd hefyd yn Ddarlithydd Cysylltiol gyda Phrifysgol Caerdydd, ddau sesiwn gyda dysgwyr yn Esquel ac yn Nhrevelin.
Bu darlleniad o'i waith a chyfle i'w holi a thrafod yn anffurfiol.
"Roedd y sesiynau yn y Gymraeg, gyda chyfieithu ar y pryd i Castillano (Sbaeneg Patagonia) ar gyfer y rhai sy ddim yn rhugl eu Cymraeg eto," meddai Gill.
|