麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Sian Elin Bwrlwm bywyd plant
Ond rydwin edrych ymlaen at fy chwedegau pan fydd mwy o egni ac amser gyda fi i fwynhau.


Dydd Llun, Mehefin 25, 2001

Erthygl arall gan Sian Elin, yn sôn am ei bywyd newydd hi a'i gwr, Iolo ap Dafydd, Gohebydd Ewrop 麻豆社 Cymru, ym Mrwsel



Cyn dod i Frwsel fel teulu roeddwn yn poeni am y plant - tybed a fyddai'r ddwy yn setlo mewn ysgol arall, yn ymgartrefu mewn ty dieithr ac yn hoffi eu bywydau newydd?

Roedd nifer o ffrindiau da gyda'r ddwy yng Nghaerdydd, roedd eu 'dyddiaduron' yn llawn er mai pedair a chwech a hanner ydynt - gwersi nofio, partïon di-ri, mynd rownd i dai ffrindiau - roedd eu cymdeithasu yn frwd ac yn barhaus!

Gwell bywyd cymdeithasol
Mae'n ffenomena rhyfedd ond erbyn i chi gyrraedd eich tridegau, mae gan eich plant a'ch rhieni well bywyd cymdeithasol na chi!

Yn barod dwi'n dechrau edrych ymlaen at fy chwedegau pan fydd mwy o egni ac amser gyda fi i fwynhau.

Mae'n siwr caf wireddu'r bwriad o deithio i'r India a'r Himalayas pan fydd fy ngwallt yn wyn fel y carlwm ac arian pensiwn yn fy mhoced!

Er y newid daearegol mae'r cymdeithasu'n parhau yng Ngwlad Belg ac eisoes mae'r ddwy wedi bod mewn partïon pen-blwydd ac yn ymweld â ffrindiau newydd. Dwi'n teimlo fy mod yn cynnig gwasanaeth tacsis unwaith eto a'r unig wahaniaeth y tro yma yw fy mod yn gyrru ar ochr dde'r ffordd wrth fynd â nhw o un lle i'r llall!

Ddim am gyfaddawdu Cymreictod
Wrth symud dramor nid oeddwn am gyfaddawdu Cymreictod y plant.

Dwi'n ymwybodol mai cwta deufis ryn ni wedi treulio ym Mrwsel ond mae iaith y plant, eu cyfathrebu a'u chwarae yn y cartref yn dal i fod yn union ag o'r blaen.

I ddweud y gwir mae'r ffaith eu bod yn Gymry bach wedi creu tipyn o gynnwrf ymhlith disgyblion eraill yn eu hysgol newydd ac mae nifer ohonynt wrth eu boddau yn clywed y ddwy yn clegar ar ei gilydd yr yr iard chwarae yn Gymraeg!

Ysbryd rhyngwladol
Ysbryd rhyngwladol sydd yn ysgol newydd y plant, gyda disgyblion o bob cwr o'r byd yn dod at ei gilydd i ddysgu a chwarae.

Ymhlith eu ffrindiau da mae 'na blant o Frwsel, Siapan, India, America a'r Eidal - dwi'n clywed hanesion am Alexa, Notsuko, Janek, Max, Alessio, Natasha a Lara yn ddyddiol.

I ddathlu'r cawl o genhedloedd trefnir picnic go arbennig ar ddiwedd tymor yr haf ac mae'r plant yn gorfod mynd â bwyd o'u gwledydd eu hunain i'r achlysur.

Dwi'n deall bod y danteithion yn amrywiol iawn - sushi, bwyd Affricanaidd, pizza, bwyd Ffrengig ac eleni bydd bara brith ar y fwydlen hefyd am y tro cyntaf mae'n siwr!

Yn ddiweddar cynhaliwyd y mabolgampau i'r plant meithrin a'r dosbarthiadau iau yn yr ysgol, dyma'r tro cyntaf i'r ddwy gymryd rhan mewn cystadlaethau o'r fath er bod yr hyna' bron yn saith oed.

Wrth eu boddau

Roedd y plant wrth eu boddau yn neidio trwy gylchoedd ac yn balansio bagiau bach ar eu pennau.



MabolgampauAr ddiwedd y rasio a'r rhedeg cafodd y disgyblion i gyd dystysgrifau yn eu llongyfarch ar eu hymdrechion - roedd y pwyslais ar gyd-chwarae a chyd-dynnu cyn gymaint â'r cystadlu.

Yn ogystal â'r ffrindiau ysgol newydd mae'r ddwy wedi cwrdd â Chymry eraill i chwarae â nhw ym Mrwsel.

Mae Catrin sy'n 6 oed wedi ei geni a'i magu yma ac mae'n byw ar y stryd nesa' gyda'i theulu ac mae plant Enid a Jorgen Hanson, Steffen sydd hefyd yn 6 oed a'i chwaer fawr Lisbet yn rhan o'r cylch newydd o ffrindiau.

Problemau cyfathrebu
Dwi'n gweld nawr nad oedd rhaid poeni am y plant ac wrth fynd yn hyn mae'r problemau gyda iaith a chyfathrebu yn dechrau.

Dyw plant ddim yn gosod ffiniau o amgylch eu hunain, oedolion sy'n gwneud hyn.

Mae hyder yr hyna' wedi datblygu yn y deufis diwetha' ac mae'n braf ei gwylio yn trio'i gorau glas i gael sgwrs yn Ffrangeg gyda'r dyn hufen ia yn y parc.

Ond dwi'n siwr y byddai'n fodlon trio siarad Esperanto er mwyn cael cornet fanila iddi hi a'i chwaer fach!




ewrop

Gwlad Belg
Diwrnod Ewropeaidd

Y dref lle bu Marvin Gaye yn curo a chyfansoddi

Je m'appelle Sian

Gweld y trysor

Gemau a gorilas

Bwrlwm bywyd plant

Bargeinion wrth deithio Ewrop

Partis - a baw cwn - yn y stryd

Codi cwestiwn am fywyd

Gwyliau chwedlonol

Cyfrif bendithion

Celfyddyd plagio

Y ferch sy'n hoffi denim

Hollti blew

Yn nheyrnas y deiasoriaid

Lle cyfyng i farw

Brwydr bechgyn Wilmots

Syrffio'r sianelau

O am fod yn Zeta Jones...

Ymweliad arbennig

Plant pobl eraill

Nadolig ym Mrwsel

Blasu'r oes a fu ym Mhenfro

Prifddinas ifanca Cymru yn creu argraff salw

Ar drywydd y Bachan Pisho

Addunedau 2002

Meddwi ar harddwch Brugge

Diwedd y gân yw'r Ewro!

Dechrau byw - ym Mrwsel

Catalog Nadolig y plant

Airbus mewn Ewrop ffederal

Plismyn Brwsel

Brwydr y troliau cwrw

Brwsel - trafodd ewthanasia




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy