麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Sian Elin Nadolig ym Mrwsel

Sian Elin Dafydd yn ysgrifennu o Frwsel lle mae hi a'i theulu yn awr yn byw - ac yn paratoi ar gyfer y Nadolig

Dydd Llun, Rhagfyr 24, 2001

Pryder y plant
Mae'n rhaid chwerthin wrth weld y ddwy fach yn mynd drwy eu pethau - yn cyfansoddi rhestrau maith ac yna'n addasu llythyrau at Siôn Corn fel is-olygyddion crefftus - wrth weld teganau mwy deniadol yn cael eu hysbysebu ar y teledu!

Nawr mae'r cwestiynau yn cael eu saethu un ar ôl y llall:
- Ydi Santa yn mynd i gofio ein bod ni yn aros ym Mrwsel eleni dros y Dolig?
- Beth os bydd yr anrhegion yn mynd i Gaerdydd ar ddamwain?
- Ydi Santa yn mynd yn rhy hen i wneud yr holl deithio yma

Mae'n siwr mai hon fydd y flwyddyn ola' o gredu'n llwyr yn y bod mawr coch gan fod yr hyna' bellach yn saith ac yn cyrraedd oed yr anghredadun!

Perfformiad dramatig

Fel rhiant i blant ifanc mae'r Dolig yn gyfle i weld o leia' un perfformiad dramatig iawn sy'n llawn angylion, ambell Siôn Corn, a charw neu ddau.

Eleni, er embaras mawr iddi roedd yr hyna' yn anrheg Dolig, yn gwisgo bocs cardbord lliwgar ar ei phen a llwyddodd i guddio yn y cefn gyda gweddill ei dosbarth pendrwm.

Un o gynorthwywyr y prif ddyn oedd yr ifanca' wedi ei gwisgo fel picsi bach coch, ac yn ddigon ciwt i'w rhoi ar goeden Dolig!

Wedi cael eu teganau

Yng Ngwlad Belg mae'r plant bach eisoes wedi derbyn eu teganau ar wyl St Nicolas/St Niklaas ar Rhagfyr 6.

Mae gan y sant gynorthwy-ydd sef bachgen bach du o'r enw Pre Fouettard neu Zwarte Piet ac mae'r ddau yn ymweld' â chartrefi.. Yma ac yn nifer o wledydd eraill Ewrop mae Rhagfyr 24 a 25 yn gyfnod pwysig i'r teulu dreulio amser yng nghwmni ei gilydd ac nid rhoi anrhegion.

Efallai fod yr arferion yma yn fwy cydnaws ag ysbryd yr wyl o gymharu â'r agwedd fasnachol sydd adre.

Yn y Grande Place

Fel arfer ceir lle i sglefrio yng nghanol y Grande Place ond eleni fe'i symudwyd i'r hen farchnad bysgod, Quai aux Briques.

Hefyd yn y sgwâr gothig cynhelir y farchnad Ewropeaidd enwog lle mae holl wledydd yr undeb yn cael stondin i werthu ac arddangos cynnyrch lleol - ond ni fydd hwn yn dechrau tan ar ôl y Dolig, ar Ragfyr 28.

Ym Mrwsel eleni mae golygfa'r geni yng nghanol y Grande Place ac mae popeth ar raddfa go iawn ond y cyfan yn siomedig iawn gyda'r anifeiliaid, hyd yn oed, yn rhai plastig.

Roedd y rhai cig a gwaed wedi creu gormod o lanast yno y llynedd mae'n rhaid!

Pan oedd Iesu yn fachan bach drwg

Ond wrth weld yr olygfa dymhorol yng nghanol y Grande Place daw stori adroddodd mam flynyddoedd yn ôl i'r cof gan roi gwên fawr ar fy wyneb

Yn ystod ei chyfnod fel athrawes yn y Rhondda bu mewn perfformiad o ddrama'r geni mewn ysgol plant gydag anghenion arbennig. Roedd cynghorwyr a phwysigion y cwm yn eistedd yn y rhes flaen yn aros i'r llenni godi.

Aeth y cyfan yn ffantastig - cafodd Mair a Joseff le yn y llety, ganwyd y babi sanctaidd yn ddisymwth ac ymddangosodd y bugeiliaid a'r doethion. Ond aeth pethau ychydig ar chwâl gydag actio byrfyfyr a'r Fair yn anghofio'i llinellau
Yr olygfa: Joseff yn cyrraedd nôl o'r gwaith wedi diwrnod caled iawn
Joseff: "O Mary, I've had such a hard day in work today, I'm so glad to be back with my family. Tell me how has baby Jesus been?"
Mair: "Well Joseph I have to say he's been a right little bugger today, playing up and crying all the bl..dy time."

O enau plant bychain wir!!!!
Joyeux Nol a Bonne Année o Frwsel.





ewrop

Gwlad Belg
Diwrnod Ewropeaidd

Y dref lle bu Marvin Gaye yn curo a chyfansoddi

Je m'appelle Sian

Gweld y trysor

Gemau a gorilas

Bwrlwm bywyd plant

Bargeinion wrth deithio Ewrop

Partis - a baw cwn - yn y stryd

Codi cwestiwn am fywyd

Gwyliau chwedlonol

Cyfrif bendithion

Celfyddyd plagio

Y ferch sy'n hoffi denim

Hollti blew

Yn nheyrnas y deiasoriaid

Lle cyfyng i farw

Brwydr bechgyn Wilmots

Syrffio'r sianelau

O am fod yn Zeta Jones...

Ymweliad arbennig

Plant pobl eraill

Nadolig ym Mrwsel

Blasu'r oes a fu ym Mhenfro

Prifddinas ifanca Cymru yn creu argraff salw

Ar drywydd y Bachan Pisho

Addunedau 2002

Meddwi ar harddwch Brugge

Diwedd y gân yw'r Ewro!

Dechrau byw - ym Mrwsel

Catalog Nadolig y plant

Airbus mewn Ewrop ffederal

Plismyn Brwsel

Brwydr y troliau cwrw

Brwsel - trafodd ewthanasia




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy