麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Airbus Airbus mewn Ewrop ffederal
Dydd Gwener, Gorffennaf 7, 2000

gan Diarmuid Johnson

Bu cryn sôn yn ddiweddar am ddatganiad Joschka Fischer, gweinidog materion allanol yr Almaen, ynglyn â ffederaleiddio Ewrop.

Gweld y Gymuned Ewropeaidd yn magu peth sofraniaeth y mae'r Almaenwyr. Bu'r Almaen yn fodlon diarddel sofraniaeth y Deutschmark i hybu'r Ewro, ond mae'r gair 'ffederaliaeth' yn peri pryder yn Ffrainc.

Gweld y drafodaeth am ffederaliaeth Ewrop yn 'beth iach' y mae'r Prif Weinidog Lionel Jospin, llywydd y Blaid Sosialaidd. Nid yw ef ac Arlywydd Ffrainc, Jaques Chirac, ceidwadwr traddodiadol, yn cyd-weld.

Llongyfarch Joschka Fischer 'am ei waith ardderchog ac am ei weledigaeth' a wnaeth Chirac, gan dynnu blewyn o drwyn Jospin yn gyhoeddus.

Mae'r drafodaeth am ffederaliaeth yn rhan hanfodol o'r drafodaeth am gynnwys rhagor o wledydd yn y Gymuned Ewropeaidd.

Tair blynedd yn ôl yr oedd Jaques Chirac yn gobeithio agor y drws i Wlad Pwyl, i Ungaria ac i'r Wladwriaeth Czech erbyn 2000. Ond mae'r pleidleiswyr yn yr Almaen ac yn Awstria yn pryderu am weithlu dwyrain Ewrop, ac aros am ail wynt y mae'r broses ehangu bellach.

Yn ogystal â gweithlu estron, y mae testun pryder i wledydd 'niwtral' fel Iwerddon a Norwy, mewn datblygiadau eraill. Maen nhw'n credu fod lle i ofni milwreiddio'r Gymuned.

Mae'r milwreiddio yn rhan o gynlluniau Ffrainc a'r Almaen heb os nac oni bai. Ar ôl dwys ystyried y cwestiwn, penderfynodd llywodraeth Schroder y bydd awyrennau Airbus yn cael eu cynhyrchu ym Merlin cyn bo hir. Gall yr Airbus gludo 37 tunnell am 5000 km, neu hyd at 140 parasiwtydd.

Cyndyn iawn i gymryd rhan mewn unrhyw weithred filwrol fu'r Almaen ers ailuno'r wlad yn 1989 oherwydd y cof am ddinistr yr Ail Ryfel Byd.

Ond anfonodd yr Almaen filwyr i Kosovo y llynedd gan esgor, felly, ar drefn newydd.

Mae cynllun Airbus yn brawf digamsyniol fod y drefn newydd honno, fel sofraniaeth Ewrop, yn cael ei harddel ar lan y Rhein, ac o ystyried geiriau Jaques Chirac, ar lan y Seine hefyd.




ewrop

Gwlad Belg
Diwrnod Ewropeaidd

Y dref lle bu Marvin Gaye yn curo a chyfansoddi

Je m'appelle Sian

Gweld y trysor

Gemau a gorilas

Bwrlwm bywyd plant

Bargeinion wrth deithio Ewrop

Partis - a baw cwn - yn y stryd

Codi cwestiwn am fywyd

Gwyliau chwedlonol

Cyfrif bendithion

Celfyddyd plagio

Y ferch sy'n hoffi denim

Hollti blew

Yn nheyrnas y deiasoriaid

Lle cyfyng i farw

Brwydr bechgyn Wilmots

Syrffio'r sianelau

O am fod yn Zeta Jones...

Ymweliad arbennig

Plant pobl eraill

Nadolig ym Mrwsel

Blasu'r oes a fu ym Mhenfro

Prifddinas ifanca Cymru yn creu argraff salw

Ar drywydd y Bachan Pisho

Addunedau 2002

Meddwi ar harddwch Brugge

Diwedd y gân yw'r Ewro!

Dechrau byw - ym Mrwsel

Catalog Nadolig y plant

Airbus mewn Ewrop ffederal

Plismyn Brwsel

Brwydr y troliau cwrw

Brwsel - trafodd ewthanasia




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy