麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Sian Elin Y ferch sy'n hoffi denim

Sian Elin Dafydd yn ysgrifennu o Frwsel am Gymraes sy'n gwybod be di be ym myd dillad

Dydd Llun, Mawrth 25, 2002

Mae gan ffrind i mi sy'n byw ac yn gweithio ym Mrwsel y swydd berffaith yn fy nhyb i. Yn gyson mae'n teithio i Milan a Rhufain i drafod ffasiwn

Mae Mared Jenkins sy'n wreiddiol o Aberystwyth yn gyfrifol am drefnu stociau dillad i gwmni Levi's yng ngwlad y chianti a'r cappucino.

Mae'n cael gwisgo jîns i'r swyddfa ac mae'n cael prynu dillad Levi's mewn sêls arbennig am geiniog a dime neu euro a cent i fod yn fanwl gywir!

Ers wyth mis bellach mae Mared wedi gweithio ym mhencadlys Ewrop, Dwyrain Canol ac Affrica Levi's ac yn ystod y cyfnod yma, 'dan ni wedi yfed sawl potel o win, malu awyr, cwyno am fywyd a chael hwyl.
Dwi'n teimlo fel taswn i wedi ei hadnabod am flynyddoedd.

Ond er bod y ddwy ohonom wedi byw yng Nghaerdydd ar yr un cyfnod - falle ein bod wedi pasio'n gilydd ar y stryd neu eistedd yn yr un sinema neu dafarn - dyma ni'n cwrdd gannoedd o filltiroedd o'n cynefin.

Cael ffrind i'w helpu
Bu'n gweithio i gwmni Peacocks yng Nghaerdydd cyn symud i wlad Belg, gwelodd hysbyseb am swydd mewn cylchgrawn arbenigol gyda Dockers un o is-gwmnïau Levi's yn Amsterdam ond fe aeth gam ymhellach a llwyddodd i gael gwaith ym mhencadlys y cwmni ffasiynol.

Wedi derbyn ei swydd newydd symudodd i Frwsel yn ddidrafferth gan werthu ei char a gosod ei thy ym Mae Caerdydd ar rent.

"Mae'n brofiad grêt gweithio dramor. Roedd hi'n anodd weithiau ar y dechrau ond mae Levi's yn gwmni da sy'n helpu pobl i ymgartrefu'n gyflym," meddai Mared.

"Mae 'na system o fewn y cwmni lle mae rhywun newydd yn cael 'ffrind' am y chwe mis cyntaf ac mae e neu hi ar gael i gynnig cyngor a chynorthwyo."

O'r bedwaredd ganrif ar bymtheg

Sefydlwyd Levi's tua chant a hanner o flynyddoedd yn ôl a dyma'r unig gwmni sy'n medru hawlio bod dilledyn a gynhyrchwyd ganddynt yn y 19 ganrif yn dal i gael ei wisgo heddiw.

Ond mae'r ferch hon wedi lledu ei gorwelion ac ar ôl y misoedd cyntaf o weithio gyda Levi's cafodd ddyrchafiad ac mae'n awr yn gyfrifol am gadw trefn ar stociau dillad yr Eidal.

"Mae'n ddiddorol ond mae pob gwlad yn wahanol o ran y mathau o ddillad maent yn eu gwisgo.

"Ym Mhrydain a Ffrainc mae 'na alw mawr am engineered jeans sy'n cael eu hysbysebu ar hyn o bryd yn Ewrop ond yn yr Eidal maen nhw'n dal i hoffi'r pethau mwy clasurol fel y 501s, hipstars a'r jîns mwy tynn."

Yn dysgu Ffrangeg

Yn ogystal â gweithio'n galed mae Mared wrthi'n dysgu Ffrangeg ac ar gyngor ei hathrawes mae ganddi nifer o ferfau wedi'u printio ar ddarnau papur A4 yn fras a'u sticio o amgylch y molchfa yn ei fflat ym Mrwsel.

Y syniad yw ei bod yn dysgu wrth ymlacio - bath poeth, gorwedd nôl a - je vais, tu vas, il va, elle va amdani!

Mae'n mwynhau ei bywyd yn mhrifddinas gwlad Belg a hithau'n ddigon agos i Gymru i fynd adre pan fo'r hen hiraeth yn pigo - ac mae tua 300 o wahanol fathau o gwrw ar gael i'w blasu!

Mae wrth ei bodd gyda'i gwaith, i ddweud y gwir amdani, mae'n hysbyseb wych i'r cwmni gan nad yw yn gwisgo dim ond denims.






ewrop

Gwlad Belg
Diwrnod Ewropeaidd

Y dref lle bu Marvin Gaye yn curo a chyfansoddi

Je m'appelle Sian

Gweld y trysor

Gemau a gorilas

Bwrlwm bywyd plant

Bargeinion wrth deithio Ewrop

Partis - a baw cwn - yn y stryd

Codi cwestiwn am fywyd

Gwyliau chwedlonol

Cyfrif bendithion

Celfyddyd plagio

Y ferch sy'n hoffi denim

Hollti blew

Yn nheyrnas y deiasoriaid

Lle cyfyng i farw

Brwydr bechgyn Wilmots

Syrffio'r sianelau

O am fod yn Zeta Jones...

Ymweliad arbennig

Plant pobl eraill

Nadolig ym Mrwsel

Blasu'r oes a fu ym Mhenfro

Prifddinas ifanca Cymru yn creu argraff salw

Ar drywydd y Bachan Pisho

Addunedau 2002

Meddwi ar harddwch Brugge

Diwedd y gân yw'r Ewro!

Dechrau byw - ym Mrwsel

Catalog Nadolig y plant

Airbus mewn Ewrop ffederal

Plismyn Brwsel

Brwydr y troliau cwrw

Brwsel - trafodd ewthanasia




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy