麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Sian Elin Brwydr bechgyn Wilmots

Sian Elin Dafydd yn ysgrifennu o Frwsel

Dydd Llun, Gorffennaf 1, 2002

Belg a Chwpan y Byd
Dwi ymhlith nifer sydd wedi cadw llygaid ar holl ddrama Cwpan y Byd.
Nid 'falle o safbwynt y chwarae chwim ond o safbwynt yr ymateb, yr angerdd, y siom ar dathlu.


Gan fod Brwsel yn le amlddiwylliannol roedd hi yn anorfod yn ystod y chwech wythnos ddiwetha' wrth ymweld â chaffi neu far, fod rhywrai yn gweiddi'n groch neu'n rhegi mewn nifer o ieithoedd!

Ar sawl achlysur fe welais i amryw o gefnogwyr y Diawliaid Cochion yn crwydro strydoedd Brwsel wedi cael un bierre blanche yn ormod ac roedd y disgwyliadau'n uchel yn enwedig ar ôl iddyn nhw guro Rwsia 3 - 2.

Chwifiai'r baneri trilliw o ffenestri'r ddinas yn eiddgar ac roedd y ddinas yn fôr o liwiau wrth i gymunedau o Sbaen i Senegal ddatgan eu cefnogaeth a chodi eu baneri hefyd.

Gwawriodd y dydd pwysig i dîm Gwlad Belg, arafodd bywyd y ddinas yn raddol ac erbyn amser cinio roedd 'na deimlad arallfydol ym Mrwsel.roedd Marc Wilmots a'i ddynion dewr yn cwrdd â dewiniaid Brasil.

Roedd y strydoedd, metros a'r trams yn wag a chriwiau o bobl wedi hen ymgynnull mewn bariau di-ri ac o'r diwedd roedd haul Rio wedi cyrraedd gogledd Ewrop!

Er bod y chwarae allan yn Kobe roedd paratoadau mawr ar waith yn y ddinas ac wrth i Wlad Belg ddod wyneb yn wyneb â Brasil gwasgodd tua 10,000 o gefnogwyr i'r Grand Place i wylio'r gêm ar sgrîn fawr a godwyd yn arbennig ar gyfer yr achlysur.

Roedd yr awyrgylch mor boeth â thraeth Copacabana a'r sgwâr hynafol yn llawn cefnogwyr yn gobeithio am y gorau.

A chwarae teg i'r cythreuliaid coch, cafwyd chwarae digon eofn a dim ond ar ôl 67 o funudau llwyddodd Rivaldo i sgorio.

Mae rhai'n dal i sôn am y gôl a waharddwyd yn yr hanner cyntaf pan lwyddodd y capten, Wilmots, i daro'r bêl i'r rhwyd gyda'i ben!

Roedd yna gytuno fod Gwlad Belg wedi gadael y gystadleuaeth yn urddasol ond roedd y siom yn amlwg - doedd dim ceir yn gyrru o amgylch yn canu eu cyrn yn ddi-baid ac aeth y cefnogwyr mewn hetiau trilliw o'r golwg, yn ôl yn ddi-gwpan i ddiflastod bywyd bob dydd.



Y gorau yn y byd - Ronaldo a'i dîmOnd dathlu fu'r Brasiliaid ac mae dros 1,700 ohonynt yma ym Mrwsel, yn weithwyr, myfyrwyr a theuluoedd, a dyma genedl sydd yn gwybod yn iawn sut i fwynhau!

Er fy mod wedi croesi fy mysedd ac wedi cefnogi'r cochion roeddwn yn reit falch, yn dawel fach wrth gwrs, mai Brasil fyddai'n cwrdd â Lloegr yn y rownd nesa gan ei bod hi wedi canu ar Loegr cyn iddyn nhw gychwyn â'r dewiniaid gwyrdd yn siwr o chwarae eu castiau gyda'r bêl - a dyma nhw yn awr yn bencampwyr y byd am y pumed tro!




ewrop

Gwlad Belg
Diwrnod Ewropeaidd

Y dref lle bu Marvin Gaye yn curo a chyfansoddi

Je m'appelle Sian

Gweld y trysor

Gemau a gorilas

Bwrlwm bywyd plant

Bargeinion wrth deithio Ewrop

Partis - a baw cwn - yn y stryd

Codi cwestiwn am fywyd

Gwyliau chwedlonol

Cyfrif bendithion

Celfyddyd plagio

Y ferch sy'n hoffi denim

Hollti blew

Yn nheyrnas y deiasoriaid

Lle cyfyng i farw

Brwydr bechgyn Wilmots

Syrffio'r sianelau

O am fod yn Zeta Jones...

Ymweliad arbennig

Plant pobl eraill

Nadolig ym Mrwsel

Blasu'r oes a fu ym Mhenfro

Prifddinas ifanca Cymru yn creu argraff salw

Ar drywydd y Bachan Pisho

Addunedau 2002

Meddwi ar harddwch Brugge

Diwedd y gân yw'r Ewro!

Dechrau byw - ym Mrwsel

Catalog Nadolig y plant

Airbus mewn Ewrop ffederal

Plismyn Brwsel

Brwydr y troliau cwrw

Brwsel - trafodd ewthanasia




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy