Â鶹Éç

Sam

Sam, Casnewydd

Pwnc arbenigol: Trioleg Vampire Rites

Ymddangos yn: Rhaglen 1

Darllen yw un o brif ddiddordebau Sam ac mae wedi dewis cyfres o nofelau antur gan Darren Shan am fachgen ifanc sy'n mynd i fyd tywyll y fampir fel ei bwnc arbenigol.

"Darllenais un o'i lyfrau ac roeddwn i wedi ei mwynhau, felly edrychais am fwy o lyfrau gan Darren Shan a gwelais lyfrau'r Vampire Rites. Darllenais nhw ac roedden nhw'n dda iawn."

Mae Sam hefyd yn mwynhau bywyd gwyllt, drama, gemau cyfrifiadurol, seiclo, chwarae tennis a phêl-droed ac mae'n meddwl hyfforddi i fod yn filfeddyg pan fydd yn hŷn.

"Dydw i erioed wedi bod ar y teledu o'r blaen a dwi'n mwynhau rhaglenni cwis fel Mastermind," meddai.

"Dwi'n mwynhau gwneud pethau newydd a dwi'n meddwl y bydd hyn yn brofiad da."


Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.