Â鶹Éç

Eirian

Eirian, Llanelli

Pwnc arbenigol: Llyfrau Horrid Henry

Ymddangos yn: Rhaglen 4

Mae Eirian yn ffan o lyfrau Horrid Henry oherwydd fod Henry yn gymeriad mor ddireidus.

"Mae e'n ddrwg ac mae'n gwneud pethau doniol," esbonia.

"Mae'n eithaf clyfar, achos mae'n gwybod sut i gael ei frawd i redeg i rywle arall. Y peth mwyaf drwg mae'n ei wneud ydy cheto yn y mabolgampau yn yr ysgol."

Mae Eirian yn hoffi chwaraeon - rygbi, golff, pêl-droed a nofio - a chanu ac actio.

Fe allai un o'i hoff wersi yn yr ysgol, Daearyddiaeth, fod yn ddefnyddiol iawn iddo gan mai un arall o'i hoff bethaf yw ymweld â gwahanol wledydd. Mae wedi ymweld â Sbaen, Ffrainc, Rwsia, Yr Eidal, Norwy, Ffindir, Yr Iseldiroedd, a llawer mwy. Mae wastad yn gwneud ymdrech i ddysgu pwt o'r iaith cyn ymweld â'r wlad ac mae'n dweud bod siarad yn un o'i brif ddiddordebau!

"Rwy eisiau ymddangos ar Mastermind am fy mod i eisiau her a sialens ac eisiau gwneud rhywbeth adeiladol."


Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.