Ieuan, Pontypridd
Pwnc arbenigol: Bywyd a gyrfa William Edwards
Ymddangos yn: Rhaglen 5
Mae Ieuan wedi dewis darn o hanes lleol ei ardal fel pwnc arbenigol - William Edwards oedd pensaer hen bont enwog Pontypridd.
Dewisodd y bont am ei fod yn bwnc hawdd i'w astudio am fod amgueddfa ym Mhontypridd ond roedd yn gwybod dipyn amdani cyn hynny: "Yn blwyddyn pedwar, roedd hi'n 250 mlwyddiant y bont, ac roedden ni wedi gwneud prosiect am y bont yn yr ysgol.
"Mae Pontypridd yn lle da i fyw oherwydd cyfansoddwyd yr anthem genedlaethol yno hefyd," meddai.
Diddordebau eraill Ieuan ydy nofio, darllen, cerddoriaeth a gemau cyfrifiadurol ac yn yr ysgol mae'n mwynhau astudio Mathemateg, Daearyddiaeth a Saesneg.
Mae wedi ymddangos ar y teledu o'r blaen pan chwaraeodd rannau mor wahanol i'w gilydd â chamel ac adroddwr yn Nrama'r Geni ar S4C.
"Rydw i eisiau cystadlu ar Mastermind oherwydd dwi'n hoffi gwylio'r fersiwn Saesneg ac yn edrych ymlaen i eistedd yn y gadair enwog!"
Cystadleuwyr eraill
- Aled - Everton FC
- Arwel - Nofelau Phillip Pullman
- Bethan - Tracy Beaker
- Eirian - Horrid Henry
- Elliot - Bill a Ted - Llyfrau'r gyfres Cherub
- Ethan - Fformiwla 1 - Manchester United
- Gwyn - Tutankhamun - Cysawd yr Haul
- Iestyn - William y Concwerwr
- Ieuan - William Edwards
- Iolo - Awyrennau'r Ail Ryfel Byd
- Iwan - Artemis Fowl
- Jo - Star Wars
- Joshua - Gareth Edwards
- Katie - Ally's World
- Logan - Harry Potter
- Martha - Spiderwick Chronicles - Ffilmiau Pixar
- Morgan - Tony Hawk
- Sam 1 - Vampire Rites
- Sam 2 - Alex Rider
- Seren - Doctor Who - Llyfrau St Clears